Astudio yn IBERS
Mae IBERS yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am fod yn ganolfan ragoriaeth ac yn ddewis amlwg i fyfyrwyr sydd am astudio’r gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig.
Bodlonrwydd Myfyrwyr
“Am y chweched flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain o ran bodlonrwydd myfyrwyr. Cafodd Prifysgol Aberystwyth sgôr o 4.4 (ar raddfa o 1-5 o ran bodlonrwydd myfyrwyr0 yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), yr ail sgôr uchaf i unrhyw Brifysgol breswyl gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ac ychydig y tu ôl i Rydychen. Yn gyffredinol, mae’r arolwg hefyd yn gosod Aberystwyth yn y pumed lle o blith holl Brifysgolion y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr ac ar y brig yng Nghymru am y chweched blwyddyn yn olynol. Roedd pob un o raglenni IBERS wedi sgorio’n gry’ iawn gyda 4.5 neu fwy am fodlonrwydd cyffredinol.”
Cyrsiau Israddedig
- Amaeth
- Gwyddor Anifeiliaid/Swoleg
- Biocemeg
- Bioleg
- Biowyddorau Amgylcheddol ac Ecoleg
- Cadwraeth/Rheolaeth Cefn Gwlad
- Gwyddor Ceffylau
- Geneteg
- Bioleg y Môr a Dŵr Croyw
- Microfioleg
- Twristiaeth a Hamdden
Cyrsiau ôl-radd sy'n cael eu dysgu
Ochr yn ochr â’r ddau gwrs MSc poblogaidd sydd eisoes yn cael eu cynnal yn IBERS, bydd tri chwrs MSc newydd yn dechrau ym mis Medi 2011.
- MSc Green Biotechnoleg a Rheoli Arloesedd Cwrs Newydd
- MSc mewn Sicrwydd Bwyd a Dŵr
- MSc Gwyddor Anifeiliaid
- MSc Gwyddor Da Byw
- MSc Rheoli’r Amgylchedd
- MSc Gwyddor Ceffylau
- Cyrisiau eraill ôl-radd sy’n cael eu dysgu ym maes Ceffylau
Cynllun Dysgu o Bell Newydd: MSc Cynhyrchu Bwyd mewn Modd Effeithlon a Chynaliadwy
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ac Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol (NIAB), mae IBERS yn cynnig ei MSc gyntaf trwy ddysgu o bell – MSc Partneriaeth Hyfforddiant Uwch mewn Cynhyrchu Bwyd mewn Modd Effeithlon a Chynaliadwy.
A hwn yn gwrs hyblyg iawn i’w wneud dros 5 mlynedd, mae gan MSc Partneriaeth Hyfforddiant Uwch raglen hyfforddiant yn 2013 ar gyfer y sawl sy’n gweithio mewn cysylltiad â chadwyni cyflenwi eidion, defaid, a chynhyrchion llaeth – ac fe geir mwy o hyfforddiant bob blwyddyn. Dyma gwrs ar gyfer y sawl sy’n gweithio’n llawn amser, a gellir addasu’r deunydd dysgu o bell i anghenion eich bywyd gwaith a chartref chi a bydd y cwrs yn bodloni gofynion am sgiliau lefel uwch yn y diwydiant bwyd-amaeth.
Ymchwil ôl-radd
Y gofyn fel rheol ar gyfer rhaglen PhD dair-blynedd yw gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc sy’n berthnasol i faes arfaethedig yr ymchwil. Gradd anrhydedd dda yw’r gofyn hefyd am le ar y cynllun dwy-flynedd sy’n arwain at y radd MPhil. Mae croeso hefyd i geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed a gan bobl sydd heb radd ond sydd â phrofiad perthnasol sy’n cwrdd â gofynion mynediad y Brifysgol.