Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Dewch i Ymweld â ni

Diwrnodau Ymweld y Brifysgol

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i astudio yn IBERS, beth am ymweld ag Aberystwyth i ddarganfod mwy am y lle?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal dau Ddiwrnod Agored bob blwyddyn i ddarpar-fyfyrwyr. Cofrestrwch o flaen llaw ac fe anfonir rhaglen atoch er mwyn i chi allu cynllunio’ch ymweliad.  Mae holl adrannau PA yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn ac mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn astudio yma ddod. Gan ein bod yn tybio bod ymweld â darpar-brifysgolion a cholegau yn rhan bwysig o benderfynu beth a lle i astudio, rydym yn ceisio sicrhau bod Rhaglen ein Diwrnod Agored yn rhoi gwybod i chi am ein cyrsiau a’n hadnoddau ac  yn rhoi cyfle i chi gael sgwrs anffurfiol ag aelod o staff academaidd yma.

Cynhelir y Diwrnod Agored nesaf ddydd Mercher 9 Gorffennaf 2009. 

Diwrnodau Ymweld Adrannol

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, dewch i un o’n Diwrnodau Ymweld.

Cynlluniwyd y Diwrnodau Ymweld yn bennaf i ddarpar-fyfyrwyr sydd eisoes wedi gwneud cais drwy UCAS. Gall darpar-fyfyrwyr gwrdd ag aelodau o staff, gwrando ar sgyrsiau am y Sefydliad ac yn fwy penodol am y maes astudio sydd o ddiddordeb iddynt, a mynd ar daith o amgylch campysau’r Sefydliad a’r dref.

Dyddiadau

  • Dydd Mercher 11 Chwefror 2009 (Campws Penglais yn unig) 
  • Dydd Mercher 18 Chwefror 2009 (Campws Penglais yn unig) 
  • Dydd Sadwrn 21 Chwefror 2009
  • Dydd Mercher 4 Mawrth 2009
  • Dydd Mercher 18 Mawrth 2009
  • Dydd Mercher 8 Ebrill 2009
  • Dydd Sadwrn 25 Ebrill 2009 (Campws Llanbadarn yn unig)

Dyma sylwadau gan rai sydd wedi bod ar Ddiwrnod Ymweld o’r blaen

  • Roedd y diwrnod yn hynod o addysgiadol a defnyddiol ac roedd pawb yn gyfeillgar iawn. 
  • Roedd y diwrnod wedi’i gynllunio’n dda ac roedd y staff a’r myfyrwyr a gwrddais yn gyfeillgar.
  • Diwrnod da iawn, roedd y cyfweliad ag aelod o staff yn ddefnyddiol iawn a mwynheais gwrdd â darpar-fyfyrwyr eraill 
  • Trefnwyd y diwrnod yn dda iawn, roedd yn ddefnyddiol iawn a chefais yr holl wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad ynghylch pa brifysgol i fynd iddi. 
  • Roedd gwahanu’r rhieni a’r darpar-fyfyrwyr yn syniad da iawn, rhoddodd gyfle i’r myfyrwyr weld sut beth oedd bywyd prifysgol heb i’r rhieni fod o gwmpas. 
  • Fel myfyriwr hŷn rwyf wedi bod rhwng dau feddwl ynghylch astudio cwrs prifysgol amser-llawn, ond ar ôl fy ymweliad rwy’n teimlo’n llawer mwy cadarnhaol a brwdfrydig. Roedd hi’n arbennig o ddefnyddiol  siarad â’r myfyriwr a oedd yn ein tywys am y diwrnod. 
  • Yn gyffredinol roedd y diwrnod yn ardderchog, ac fe wnaeth y sesiwn un-i-un fy helpu i benderfynu fy mod eisiau astudio yn Aberystwyth. 
  • Mae popeth am Brifysgol Aberystwyth (cyn, yn ystod ac ar ôl yr ymweliad) yn ymddangos yn broffesiynol, yn bersonol ac MOR drefnus!! Dyma beth oedd ymweliad addysgiadol a buddiol. Fy newis cyntaf heb os!! Diolch.