Cefnogaeth Broffesiynol a Phersonol

Cefnogaeth Broffesiynol

Nod yw Sefydliad yw rhoi cyfarwyddyd a chyfleoedd i’r holl fyfyrwyr er mwyn iddynt ddatblygu cymhwysedd proffesiynol yn y ddisgyblaeth o’u dewis hwy. Caiff cymorth a chefnogaeth ar gyfer Dysgu ac Addysgu ei gynnig gan staff yn yr adran fel a ganlyn:


Cydlynwyr Cynllun Gradd – mae’r rhain yn goruchwylio ac yn gyfrifol am gydlynu, trefnu a darparu rhaglen academaidd ar ran y Cyfarwyddwr. Gallant gynnig cyngor i chi ar eich dewis o raglen.


Cydlynwyr Modiwl – mae’r rhain yn gyfrifol am fodiwlau unigol a dyma’r bobl y dylech fynd atynt yn gyntaf os cewch broblemau gyda chwrs penodol.


Caiff Tiwtor Academaidd ei benodi i bob myfyriwr er mwyn trafod ac arwain eu cynnydd yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae tiwtorialau academaidd yn gyfle i chi ddysgu mewn grwpiau bach ac yn fodd i gefnogi eich astudiaethau trwy gydol eich gradd. Bydd tiwtorialau yn eich cyflwyno i themâu a syniadau allweddol yn eich disgyblaeth, gan eich galluogi i’w datblygu ymhellach. Bydd digonedd o gyfle hefyd i gael adborth uniongyrchol ar eich gwaith. Bydd hyn yn rhoi modd i chi werthuso ac adfyfyrio ar eich perfformiad a sut y gellid ei wella. Fel rhan o'r rhaglen diwtorial, byddwch yn cymryd rhan yn y rhaglen Arolwg o Gynnydd Academaidd a Phersonol (AGAPh) a fydd yn gofyn i chi adfyfyrio ar eich dysgu ac ystyried eich gyrfa yn y dyfodol. Ceir manylion pellach am y cymorth a gynigir gan y Brifysgol wrth i chi gynllunio gyrfa yn <http://www.aber.ac.uk/careers/>.

Os cewch broblemau

Ynghylch materion academaidd, neu newid cynllun gradd:


Yn gyntaf, ewch i weld eich Tiwtor Academaidd i drafod eich problem, byddan nhw wedyn yn eich atgyfeirio at Gydlynydd eich Cynllun Gradd, a fydd yn gallu eich helpu i ddatrys eich problem neu ansicrwydd ynghylch y mater academaidd hwn.


Ynghylch problemau yn ymwneud â modiwl:

Gweler Cydlynydd y Modiwl neu’r person sy’n dysgu’r modiwl ar hyn o bryd.

Efallai cewch eich cynghori i chwilio am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer eich anghenion penodol chi, a rhoddir cymorth o’r fath drwy’r Ganolfan Iaith a Dysgu. Mae manylion llawn am y cymorth a gynigir ganddynt yn: http://www.aber.ac.uk/language+learning/

Cefnogaeth Bersonol

Mae Sefydliad IGES yn rhoi cymorth personol ar faterion lles trwy Diwtoriaid Cynllun Gradd a Thiwtoriaid Personol.


Caiff Tiwtoriaid Cynllun Gradd eu penodi i bob cynllun gradd i ddelio â materion bugeiliol, lles, presenoldeb, dyddiadau cyflwyno aseiniadau, estyniadau i'r dyddiadau cau a materion asesu ar gyfer eu grŵp Anrhydedd.


Caiff Tiwtoriaid Personol eu penodi i bob myfyriwr israddedig yn y flwyddyn gyntaf. Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn, eich Tiwtor Academaidd fydd eich tiwtor personol.

Os cewch broblem

Ynghylch materion personol neu rai lles:


Yn gyntaf ewch i weld eich Tiwtor Personol neu Academaidd i drafod y broblem. Dewis arall yw gwneud apwyntiad gyda Thiwtor eich Cynllun Gradd i drafod eich problem. Cewch wybod beth sy'n rhaid i chi ei wneud i fodloni gofynion yr adran a sonnir wrthych am y gwasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn y brifysgol, fel y bo angen.


Mae Tiwtor Personol yma i ofalu am eich lles, i’ch cefnogi a hynny yn gyfrinachol. Caiff Tiwtoriaid Personol eu penodi er mwyn sicrhau bod gennych aelod o staff y gallwch gysylltu â nhw i drafod unrhyw broblemau sy'n codi. Dylech drefnu i weld eich tiwtor personol fel y bo angen i gael eu cyngor os oes anawsterau neu broblemau y dymunech eu trafod. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd â chi i drafod eich cynnydd fel rhan o'r rhaglen AGAPh.


Mae’r Arolwg o Gynnydd Academaidd a Phersonol  (AGAPh) yn golygu bod myfyrwyr, ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn, yn adolygu’r sgiliau y maent wedi eu datblygu, yn gosod targedau personol ar gyfer y semester neu'r flwyddyn i ddod ac yn bwysicaf oll, yn adfyfyrio ar y cynnydd a wnaed ganddynt eisoes.


Nod y broses arolygu hon yw eich gwneud yn fwy effeithiol wrth sylweddoli beth yr ydych wedi’i gyflawni a nodi’r agweddau a’r sgiliau academaidd a throsglwyddadwy hynny a allai fod yn ychwanegiadau gwerthfawr i wella eich perfformiad presennol yn ogystal ag agor cyfleoedd gyrfa eraill yn y dyfodol. Caiff y broses hon ei ffurfioli gan y brifysgol a’r adran drwy gyfres o ffurflenni syml a rhestrau gwirio.


Mae'r Brifysgol yn darparu cyfres o wasanaethau i gefnogi lles myfyrwyr, ac mae’r manylion llawn am y rhain i'w gweld yn:  http://www.aber.ac.uk/cy/cymorth-myfyrwyr/


Cynllun Mentora ‘Ffordd Hyn’

Cyngor cyfeillgar, cyfrinachol, un-i-un ar unrhyw agwedd ar fywyd yn y brifysgol.

Mae hwn yn gynllun mentora ar gyfer myfyrwyr newydd er mwyn eich helpu i:

  • Ymsefydlu ac ymgartrefu ym mywyd Prifysgol
  • Gwireddu eich potensial
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol
  • Gwneud y gorau o’ch amser yn y Brifysgol

http://www.aber.ac.uk/wpsi/cy/in/signpost.shtml