Cyfleusterau

Mae gan y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gasgliad o gyfleusterau labordy ac offer gwaith maes sydd o safon fyd-eang er mwyn cefnogi ymchwil ar draws y Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol.

Mae’r rhain yn cynnwys y labordai ymchwil diweddaraf ar gyfer dyddio a geocemeg, yn ogystal â chyfres o offer technolegol geomateg blaengar, gan gynnwys sganiwr laser tir, gorsaf robotig gyflawn a GPS RTK.