Cyfleusterau Labordy
Labordy Arsylwi'r Ddaear
Mae Labordy Arsylwi’r Ddaear wedi’i leoli yn Nhŵr Llandinam ac mae’n cynnwys meddalwedd a chaledwedd o’r radd flaenaf ar gyfer prosesu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth ofodol. Er mwyn prosesu data a synhwyrir o bell yn gyffredinol, mae IDL ENVI, Erdas a eCognition ar gael, ac mae meddalwedd brosesu Cyclone, TerraScan a Gamma SAR ar gael ar gyfer prosesu data LiDAR ac SAR yn arbenigol. Mae’r Labordy hefyd wedi datblygu ei fôn cod ei hun er mwyn prosesu amrywiaeth o ddata (RSGISlib). Ceir gweithfannau Windows a Linux penodol yn y labordai. Mae’r offer maes yn cynnwys Sganiwr Laser Daearol Leica, Systemau Lleoli Byd-eang gwahaniaethol a mesurau stocrestr coedwigoedd. Ceir yno hefyd labordy ymchwil penodol ar gyfer myfyrwyr Ph.D. a Meistr, sy’n cynnwys 15 gweithfan.
Labordy Palaeoecoleg
Mae’r Labordy Palaeoecoleg yn rhan o’r Grŵp Ymchwil Newid Amgylcheddol Cwaternaidd, yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Aberystwyth. Mae’r ymchwilwyr yn astudio cofnod gwaddodol newidiadau hinsoddol a llystyfiant o lynnoedd yn Ethiopia, Kenya a Mecsico. Mae prosiectau eraill yn ymwneud â hanes amgylcheddol ym Moroco, Twrci, Iwerddon a Chymru, ac adnabod paill yn gyfrifiadurol. Mae’r Labordy yn cynnwys amrywiaeth o declynnau creiddio gwaddod, a samplwyr dŵr a gwaddod. Mae’r labordai paratoi paill gyda’r gorau yn y byd, a cheir microsgopau Nikon, Zeiss a Leica yn y labordy microsgopeg, a sawl cyfrifiadur sy’n rhan o’r rhwydwaith. Mae’r casgliad cyfeirio paill yn cynnwys deunydd o Ewrop, Gogledd America, Gogledd Affrica a Dwyrain Affrica. Mae’r technegau dadansoddol y gellir eu defnyddio yn y Labordy yn cynnwys dadansoddiadau paill, siarcol, ostracod a diatom, gwaddodeg trawstoriad tenau mewn resin, dadansoddiadau isotop-sefydlog o garbonadau llynnol (mewn cydweithrediad â Labordy Geocemeg Isotop NERC), a chemeg elfennau hybrin o ddŵr a microffosilau calchaidd gan ddefnyddio cyfleusterau cromatograff ïon ICP-MS a Dionex DX-100 y Sefydliad.
Mae sganiwr craidd XRF ar gael er mwyn dadansoddi gwaddodion.
Labordy Ymchwil Ymoleuedd Aberystwyth
Mae Labordy Ymchwil Ymoleuedd Aberystwyth (ALRL) yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn labordy ymchwil o safon fyd-eang sy’n ymchwilio i’r prosesau ffisegol sy’n ymwneud ag ymoleuedd a grëir gan fwynau sy’n digwydd yn naturiol, a chymhwyso hyn i’r gwaith o ddyddio gwaddodion er mwyn egluro digwyddiadau Cwaternaidd, er mwyn ehangu’r hyn a wyddwn am esblygiad y bod dynol modern yn anatomegol a diffinio cyfraddau prosesau geomorffolegol.
Prif nod y labordy yw ymgymryd ag ymchwil arloesol o safon fyd-eang er mwyn datblygu a chymhwyso dulliau dyddio ymoleuedd. Gwneir ymchwil gan staff parhaol, myfyrwyr ôl-raddedig a chymrodorion ôl-ddoethurol ar amrywiaeth o bynciau. Mae nifer o’r myfyrwyr PhD a’r cynorthwywyr ymchwil ôl-ddoethurol a dderbyniodd eu hyfforddiant ymchwil yn ALRL wedi mynd ymlaen i redeg eu labordai eu hunain ledled y byd. Hefyd, mae’r labordy yn aml yn derbyn ymwelwyr adnabyddus o dramor, naill ai’n bobl o labordai ymoleuedd eraill sy’n dymuno treulio amser yn cydweithio gydag ymchwilwyr yn ALRL, neu’n bobl sydd heb lawer o brofiad blaenorol o ymoleuedd ac sy’n dymuno dysgu’r dechneg.
Caiff cyfleuster ALRL ei gydnabod gan NERC am gydweithio ar brosiectau dyddio penodol, ac am hyfforddi ymchwilwyr ym maes dyddio ymoleuedd. Ac ers 2004, mae’r cyfnodolyn Ancient TL, sy’n ymdrin â materion yn ymwneud â chymhwyso dyddio ymoleuedd a chyseinedd troelli electronau, yn cael ei gyhoeddi o ALRL.