Llyfrgell Mapiau Digidol


 

Lleoliad

Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Ystafell C17 (Tŵr), Adeilad Llandinam
Campws Penglais, Aberystwyth

Curadur: 

Mr Antony Smith   Ebost: ats@aberystwyth.ac.uk

 

 

 

Ynghylch y Casgliad

Agorodd y Llyfrgell Mapiau Digidol yn 2011 ac mae’n cynnig gweithfannau unigol i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau mapio digidol megis Digimap a Getmapping. Mae Digimap yn cynnwys mapiau Arolwg Ordnans ar gyfer y DU i gyd, mapiau Arolwg Daearegol Prydain a mapiau Arolwg Ordnans hanesyddol. Mae Getmapping yn cynnwys delweddau isgoch a ffotograffau awyrol cydraniad uchel o’r DU. Rydym hefyd yn datblygu cronfa ddata ddigidol o fapiau o’r DU a’r byd sydd ar gael i staff a myfyrwyr y SDGD. Mae’r holl weithfannau’n cynnwys meddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i helpu i ddangos a thrin y setiau data hyn.

Mae’r llyfrgell fapiau hefyd yn cynnwys casgliad mawr o fapiau papur, yn arbennig mapiau daeareg B.G.S o’r DU a mapiau Arolwg Ordnans o wahanol feintiau ac oedran. Hefyd wedi’u storio mae nifer o fapiau o rannau gwahanol o’r byd.

Mae’r casgliad o fapiau papur yn deillio o’r Adran Ddaearyddiaeth gynt a sefydlwyd ym 1917-18, ond cafwyd y rhan fwyaf o’r eitemau pan symudodd yr adran i Gampws Penglais ym 1965. Yn ei anterth, roedd y casgliad yn cynnwys dros 80,000 o fapiau ac oddeutu 500 o atlasau a gweithiau cyfeirio. Yn sgil creu’r Llyfrgell Mapiau Digidol, rhoddwyd nifer o fapiau yn rhodd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Oriau Agor y Llyfrgell Mapiau

Yn ystod y tymor: dydd Llun i ddydd Gwener 9:00-5:00 (cau am 4 o’r gloch brynhawn Gwener)


Gwyliau: oriau agor yr un fath ag yn ystod y tymor ond cadarnhewch gyda’r curadur ymlaen llaw.