Sganiwr Craidd XRF

Sganiwr Craidd XRF Aberystwyth
Dadansoddi cyflym ar gemegau a dwyster craidd gwaddodion
Ar gael i ddefnyddwyr academaidd, ymchwil a masnachol ledled y byd

sganiwr craidd

Mae sganiwr craidd fflworoleuedd pelydr-X Itrax® (Itrax® X-Ray Fluorescence core scanner) yn gallu rhoi dadansoddiad elfennol o graidd gwaddod mewn ychydig oriau, a hwnnw yn ddadansoddiad eglur iawn nad yw’n dinistrio. Caiff dwysedd a gwybodaeth lliw eu darparu drwy ddelweddau X-radiograffeg ac optegol RGB digidol. Gellir gosod cydraniad y sgan i 200 μm o ysbeidiau, gan ddarparu crynodiadau elfennau yn yr ystod Al - U o fewn 10 i 18 awr ar gyfer craidd gwaddod 1 m. Maint XRF effeithiol y darn yw 0.2 x 4mm. Caiff y gwaith gwerthuso data, dadansoddi a blotio ei wneud gyda meddalwedd penodol, neu gellir eu cael ar fformat taenlen. Mae modd hefyd dadansoddi craidd pridd, mawn, darnau o ogofâu, pren, samplau craig, ac arteffactau archeolegol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan y gwneuthurwr, Cox Analytical Systems.

Mae sganiwr craidd XRF Aberystwyth ar gael i ddefnyddwyr academaidd, ymchwil a masnachol ledled y byd. Mae’r gost yn amrywio o £220 i £600 y dydd, yn dibynnu ar anghenion y defnyddiwr. Dylai defnyddwyr posibl gysylltu â Dr Henry Lamb neu Dr Sarah Davies. Rydym yn hapus i redeg samplau prawf ar gyfer prosiectau peilot i fod yn sail cais am grant, ac i drafod prosiectau cydweithredol. Gall defnyddwyr naill ai anfon eu creiddiau i Aberystwyth i gael eu sganio gennym ni, neu gallwch ymweld â Lab y Sganiwr Craidd i wneud y sganio eich hunan.

Mae rhaglenni’r sganiwr craidd XRF yn cynnwys:

  • Canfod cyflym ar haenau lludw folcanig mewn gwaddodion llyn
  • Dadansoddiad a chyfrif haenau gwaddodion (farfes) ar raddfa is na mm
  • Canfod llygryddion metel (Pb, Zn, Cu) yng ngwaddodion llynnoedd ac afonydd
  • Penderfynu ar ddwysedd erydiad yn y gorffennol o gymarebau elfennau
  • Indecsau hindreulio a thrwytholchi
  • Amrywiad yn y gorffennol mewn diffyg ocsigen yn yr isddwr mewn llynnoedd
  • Cymarebau Sr/Ca ac U/Ca fel dangosyddion palaeohinsawdd mewn gwaddodion carbonad