Darpar Fyfyrwyr
Diolch i chi am ystyried Sefydliad Daearyddieth a Gwyddorau Daear i fynd â’ch addysg ymhellach. SDGD yw un o'r adrannau Daearyddiaeth hynaf ac uchaf ei pharch yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn cynnig amrywiaeth o raddau israddedig ac ôl-raddedig, a’n myfyrwyr israddedig ni yw myfyrwyr Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear mwyaf bodlon Prydain (Arolwg Cenedlaethol Bodlonrwydd Myfyrwyr 2008).
Yn ddiweddar hefyd dyfarnwyd y 12fed safle yn y wlad i’r adran yn Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) 2008, gyda 20% o ymchwil yr adran wedi’i raddio i fod o "safon fyd-eang" a 65% naill ai o "safon fyd-eang" neu "rhagoriaeth rhyngwladol".
Ar y tudalennau canlynol, gallwch ddarganfod mwy am ein cynlluniau gradd israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â gwybodaeth amrywiol am bethau o deithiau maes i bob cwr o’r byd i’r casgliad ardderchog o fwrsariaethau a gynigir ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cliciwch ar y ddolen sydd fwyaf perthnasol i chi.
Gwybodaeth Bellach
Am wybodaeth bellach ynghylch gwneud cais i astudio yn Aberystwyth, yn ogystal â sut i ymweld â'r Brifysgol a chopïau o'n llyfrynnau, gweler y dolenni isod.
I gael rhagor o fanylion ynghylch astudio yn Aberystwyth, mae croeso i chi gysylltu â’n Swyddog Derbyn ar 01970 622596 neu iges-admissions@aber.ac.uk.