Darpar Uwchraddedigion

Mae gan y Sefydliad gymuned uwchraddedig fawr a bywiog sy'n cael ei hystyried fel rhan allweddol o'n rhagoriaeth ymchwil. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cwrs astudiaeth heriol a boddhaus i'n holl uwchraddedigion. Mae gwaith grŵp, sylw i'r unigolyn a chyswllt personol yn nodweddiadol o'r diwylliant uwchraddedig yn Aberystwyth.

 

 

Barn yr ôl-raddedigion:



"Mae'r Sefydliad yn cynnig yr amgylchedd delfrydol ar gyfer ymchwil ôl-raddedig, gyda chyfleusterau labordy a staff ardderchog (rhai academaidd a thechnegol), a hynny o fewn cymuned llawn bwrlwm o ôl-raddedigion. Mae maint a chwmpas y gymuned hon yn amlygu’r ffaith fod IGES yn sefydliad sy’n seiliedig ar ymchwil, ynghyd â phwysigrwydd addysgu o'r radd flaenaf gan arbenigwyr mewn amrywiaeth eang o feysydd daearyddol. Caiff cyfleoedd i addysgu ac arddangos dan arweiniad ôl-raddedigion eu hannog, sy'n rhoi profiad gwerthfawr ac incwm ychwanegol."- Mike 2il flwyddyn PhD

"Un peth dwi wir yn ei hoffi am y Sefydliad ydi’r ymdeimlad o anffurfioldeb sydd yno. Os ydych angen siarad ag aelod o staff, does dim angen i chi wneud apwyntiad, dim ond mynd i’w swyddfa, neu fel arall, mynd i chwilio amdanyn nhw yn yr ystafell goffi (yr ail un sy’n digwydd amlaf debyg) - Paul flwyddyn 1af PhD 

"Ymunais â'r adran dair blynedd yn ôl ar ôl cyfnod o waith yn y 'byd go iawn'. Fe wnaeth y staff a’r ôl-raddedigion yma wneud i mi deimlo’n groesawgar yn syth, gan fy helpu i gyda'u hamynedd a’u hanogaeth wrth i mi symud yn ôl i'r byd academaidd. Mae nifer o'r darlithwyr yn ifanc ac yn frwdfrydig, felly mae gan y lle deimlad ffres, llawn gweledigaeth. Ac mae Aberystwyth ei hun yn lle gwych i astudio ynddi - mae'n dwt ac yn gosmopolitan ar yr un pryd. Byddwn yn ei argymell i chi heb betruso dim." - Chris, 2il flwyddyn PhD


"Mae'n hyfryd bod yn rhan o gymuned o'r fath sy’n llawn ôl-raddedigion prysur a llawn diddordeb yn eu pwnc, a gallwch wastad ddod o hyd i rywun sy’n hapus i drafod pwyntiau manylaf eich pennod ddiweddaraf yn yr ystafell goffi, a hynny wrth edrych allan drwy’r ffenestr ar olygfa fendigedig o’r môr. O ran cymdeithasu, peidiwch â chadw draw oherwydd y ffaith fod Aber fel petai’n bell o bobman, cofiwch mai dyma brifddinas ddiwylliannol Cymru, felly mae rhywbeth diddorol yn digwydd o hyd fel arfer, ac mae'n ddigon bach i fod yn hynod gyfeillgar hefyd." - Suzie 3ydd flwyddyn PhD