Cyfleoedd Ymchwil PhD
Mae’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (IGES) yn cynnig hyd at 5 o ysgoloriaethau ymchwil wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer 2010/11, wedi’u cefnogi gan NERC, BGS a Bwrsariaethau’r Brifysgol. Dylai darpar fyfyrwyr wneud cais uniongyrchol i'r adran ac fe gânt eu hannog i drafod eu cynlluniau ymchwil gyda goruchwyliwr priodol.
Gwneud Cais
Fe ddylai ymgeiswyr ar gyfer PhD wneud ymholiadau anffurfiol i'r cyfarwyddwr perthnasol neu'r ysgrifenyddes ôl-raddedig am fwy o wybodaeth yn y lle cyntaf.
Bydd angen gwneud cais ffurfiol drwy ddefnyddio ffurflen gais y Brifysgol. Os fyddwch yn anfon y cais drwy'r post bydd angen dau gopi o'r ffurflen arnoch , dau geirda gwahanol a dau gopi o unrhyw waith papur cefnogol. Fel arall gellir gwneud ceisiadau yn electronig, a dyma'r ffordd cyflymaf. Dewisir y dyddiadau cau gan y cyrff cyllido. Gall ymgeiswyr am gwrs uwchraddedig yn SDGD sy'n cyllido eu hunan gael eu derbyn hyd at ddiwedd Fehefin. Dylai myfyrwyr rhyngwladol ganiatáu fwy o amser ar gyfer prosesu fisa (os yn berthnasol).
Cyllid
Mae SDGD wedi ennill ysgoloriaethau ymchwil (e.e o'r ESRC, NERC) yn aml a bydd ymholiad anffurfiol i'r sefydliad yn medru cynghori a fyddai prosiect a awgrymir yn debygol o lwyddo. Mae gan y Brifysgol gynllun ysgoloriaeth hefyd sef Cystadleuaeth Ysgoloriaethau Ymchwil Uwchraddedig Aberystwyth.
Ceir nifer o wobrwyon adrannol bob blwyddyn ar gyfer myfyrwyr PhD a nifer o fwrsariaethau rhan-ffi adrannol ar gyfer myfyrwyr MSc/MA a ddysgir. Fel y gellir disgwyl ceir cystadlu brwd ar gyfer y rhain ac mae'r myfyrwyr llwyddiannus fel arfer yn meddu ar ganlyniadau academaidd rhagorol, potensial ymchwil a geirdâu cryf.
Ceir fwy o wybodaeth am ffynonellau cyllido, ffioedd a chostau byw ar gyfer myfyrwyr y DU, UE a'r rhai nad ydynt o'r UE.