Darpar Israddedigion
Y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn un o'r rhai mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnig cyfoeth o raddau ym meysydd Daearyddiaeth, Gwyddor Daear Amgylcheddol a Gwyddor yr Amgylchedd, yn ogystal â nifer o raglenni Cydanrhydedd a Phrif/Is-bwnc. Cymerwch gip ar y dudalen hon i weld beth ydym yn ei gynnig.
Mae dysgu yn sefydliad IGES yn gyson wedi cael ei raddio yn "rhagorol" gan yr Archwiliad Ansawdd Dysgu cenedlaethol, ac mae ymchwil annibynnol yn aml yn ein gosod ar frig prifysgolion y Deyrnas Unedig. Rydym yn cynnig cyfleoedd i deithio dramor, gan gynnwys dosbarthiadau maes rhyngwladol, blwyddyn astudio dramor yn yr Unol Daleithiau, a grantiau teithio, yn ogystal ag amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch astudio yn Aberystwyth, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â’n Swyddog Derbyn ar 01970 622596 neu iges-admissions@aber.ac.uk. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Aberystwyth cyn bo hir.
Cyrsiau
- BSc Physical Geography (F840)
- BA Human Geography (L700)
- BSc Geography (F800)
- BSc Environmental Earth Science (F640)
- BSc Daearyddiaeth (F801)
- Cynlluniau Gradd Cydanrhydedd
Gwybodaeth Bellach
Am fwy o wybodaeth am SDGD a'r hyn y gallwn wneud i chi, ewch i'r dolenni isod
- Gwaith Maes
- Rhywbeth ychydig yn wahanol
- Gyrfaoedd
- Cyfleusterau
- Cefnogaeth Broffesiynol a Phersonol
- Gofynion Mynediad
- Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Ymweld â'r Adran
I wybod mwy am ddyddiau ymweld neu diwrnodau agored yma yn SDGD dilynwch y ddolen isod: