Environmental Earth Science (F640)

Mae Environmental Earth Science [F640] yn cwmpasu’r meysydd sy’n gorgyffwrdd rhwng Daeareg, Daearyddiaeth Ffisegol a Gwyddor yr Amgylchedd. Mae’r radd yn cynnwys astudio Planed y Ddaear fel system unedig, gan archwilio’n benodol y rhyngweithiadau rhwng yr atmosffer, wyneb y Ddaear, a’r creigiau sydd o dan ein traed. Edrychir hefyd ar sut mae gweithgarwch dynol yn effeithio ar yr amgylchedd a sut y caiff gweithgarwch dynol ei drawsnewid gan newid amgylcheddol. Dim ond drwy ddeall y prosesau ffisegol sylfaenol a’r cysylltiadau rhyngddynt y gallwn obeithio mynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol modern.

Mae Gwyddor Daear Amgylcheddol yn Aberystwyth yn unigryw yn y modd y mae’n cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o’r amrywiaeth o bynciau trafod sydd eu hangen arnom er mwyn deall ein hamgylchedd cyfoes. Wedi derbyn yr hyfforddiant penodol hwn, bydd gan raddedigion Gwyddor Daear Amgylcheddol y cymwysterau delfrydol i ddatrys materion amgylcheddol cyfoes, gan gynnwys problemau megis llygredd, newid hinsawdd, gwaredu gwastraff, dŵr daear a chyflenwadau dŵr, tir wedi’i halogi, peryglon naturiol, ymelwa ar adnoddau a chadwraeth. Drwy ragweld sut gallai prosesau naturiol a gweithgarwch dynol addasu’r amgylchedd yn y dyfodol, gall graddedigion Gwyddor Daear Amgylcheddol awgrymu strategaethau i atal, rheoli a gwella newidiadau amgylcheddol andwyol.

Gwybodaeth Bellach