BSc Geography(F800)
Mae BSc Geography [F800] yn rhoi cyfuniad o Ddaearyddiaeth Ffisegol a Dynol, gan eich galluogi i brofi amrywiaeth lawn y ddisgyblaeth ar draws y prosesau ffisegol a dynol sy’n llunio tirweddau a lleoedd ledled y byd. Mae Daearyddwyr yn astudio’r prosesau dynol a ffisegol sy’n ffurfio’r ddaear, a’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol a gwyd yn sgil rhyngweithio rhwng pobl a’r ddaear. Mae dealltwriaeth o sut mae cymdeithas ddynol a’r amgylchedd byd-eang yn ymwneud â bywydau pob un ohonom, p’un ai a ydym yn byw ym Mhrydain neu du hwnt, o bwysigrwydd canolog i’r byd cyfoes.
Mae mynediad drwy F800 yn addas i fyfyrwyr sydd wedi astudio Daearyddiaeth Safon Uwch (neu gymhwyster tebyg) ynghyd â phynciau eraill ym meysydd Gwyddoniaeth, Gwyddorau Cymdeithasol neu’r Dyniaethau. Drwy gydol y tair blynedd, bydd gennych y cyfle i astudio Daearyddiaeth Ffisegol a Dynol, a chyfle i arbenigo mewn rhannau penodol o’r ddisgyblaeth. Gan mai’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yw un o’r cymunedau Daearyddiaeth mwyaf yn y DU, gallwn gynnig amrywiaeth eang tu hwnt o arbenigeddau Daearyddol, gan eich galluogi i greu cynllun gradd sy’n addas i’ch diddordebau unigol chi.
Gwybodaeth Bellach
- Gwaith Maes
- Rhywbeth Gwahanol
- Gyrfaoedd
- Cyfleusterau
- Cefnogaeth
- Gofynion Mynediad
- Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau