Human Geography (L700)
Gradd arbenigol yw BA Human Geography [L700] a ddilynir fel arfer gan rai sydd a diddordeb mewn cyfuno’r gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau. O fetropolisau dinesig cyfoes i gymunedau gwledig, mae’r radd yn astudio’r ffyrdd y mae cymdeithasau dynol yn creu a ffurfio lle.Mae Daearyddiaeth Ddynol yn bwnc cyffrous a gwerth chweil i’w astudio ar lefel prifysgol. Mae Daearyddiaeth Ddynol yn archwilio natur ac effaith prosesau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ar raddfa leol a byd-eang. Mae Daearyddwyr Dynol yn ystyried sut mae cymdeithas ddynol – yn unigolion, sefydliadau a llywodraethau – yn creu a ffurfio lleoedd. Gan ymgorffori safbwyntiau o’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, bydd gradd Daearyddiaeth Ddynol yn rhoi i chi ddealltwriaeth unigryw o’r byd o’ch cwmpas.
Gwybodaeth Bellach
- Gwaith Maes
- Rhywbeth Gwahanol
- Gyrfaoedd
- Cyfleusterau
- Cefnogaeth
- Gofynion Mynediad
- Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau