Physical Geography (F840)
Mae BSc Physical Geography [F840] yn cynnig gwybodaeth mwy arbenigol wedi’i seilio ar y dulliau gwyddonol a ddefnyddir i ddeall y broses ffisegol sy’n ffurfio’r ddaear, o rewlifau i losgfynyddoedd, gan gynnwys tirweddau o’r crastiroedd i’r arctig. Mae Daearyddwyr yn astudio’r prosesau sy’n llunio’r byd naturiol a materion rheoli amgylcheddol a gwyd yn sgil prosesau o’r fath. Mae dealltwriaeth o’r amgylchedd byd-eang a phroblemau sy’n perthyn iddo yn effeithio ar fywydau pob un ohonom.
Mae mynediad drwy F840 yn addas i fyfyrwyr sydd wedi astudio Daearyddiaeth Safon Uwch (neu gymhwyster tebyg) ynghyd â phynciau gwyddonol eraill. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn astudio modiwlau Daearyddiaeth Ffisegol megis Materion Amgylcheddol Byd-eang, Ecoleg Fyd-eang, Amgylcheddau Arwyneb y Ddaear a’r Atmosffer a’r Cylch Dŵr, a cheir hefyd y cyfle i astudio modiwlau eraill o’r amrywiaeth eang a gynigir gan y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear neu feysydd pwnc cyfagos. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn gallwch arbenigo mewn meysydd penodol o Ddaearyddiaeth Ffisegol, megis Rhewlifeg, Deinameg System Afon, Geomorffoleg, Newid Amgylcheddol Cwaternaidd, Systemau Gwybodaeth Daearyddol a Synhwyro o Bell, neu Weithgarwch Folcanig.
Gwybodaeth Bellach
- Gwaith Maes
- Rhywbeth Gwahanol
- Gyrfaoedd
- Cyfleusterau
- Cefnogaeth
- Gofynion Mynediad
- Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau