Ymweld â Ni
Diwrnodau Agored cyn Gwneud Cais
Prifysgol Aberystwyth yn cynnal tri Diwrnod Agored i ddarpar fyfyrwyr. Mae rhaglen lawn o weithgareddau wedi cael ei threfnu, gan gynnwys arddangosiadau a sgyrsiau yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, teithiau o gwmpas y campws a'r llety, a sgyrsiau ynghylch y drefn gwneud cais, bywyd myfyrwyr a chyllid. I gael mwy o fanylion, cliciwch yma.
I gofrestru ar gyfer un o ddiwrnodau ymweld ein sefydliad, cofrestrwch ar-lein ar: http://www.aber.ac.uk/cy/virtual-open-day/
Diwrnodau Ymweld ar ôl Gwneud Cais
Mae’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cynnal nifer o Ddyddiau Ymweld i ddarpar fyfyrwyr sydd eisoes wedi gwneud cais i UCAS. Gall myfyrwyr posibl gyfarfod ag aelodau o staff, gwrando ar sgyrsiau am Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear, mynd i weld y Sefydliad a'r campws, gan gynnwys ymweld â llety, adnoddau astudio a chyfleusterau cymdeithasol. Caiff Diwrnodau Ymweld eu cynnal rhwng 1:30 a 4 o’r gloch y pnawn. Dyddiadau'r diwrnod ymweld y sesiwn hon fydd
Dydd Mercher 15 Chwefror 2012
Dydd Sadwrn 18 Chwefror 2012
Dydd Mercher 29 Chwefror 2012
Dydd Mercher 14 Mawrth 2012
Dydd Mercher 21 Mawrth 2012
Neu gallwch roi cynnig ar ein Diwrnod Agored Rhithwir ar http://www.aber.ac.uk/cy/iges/visiting-day/
Anfonwch y ffurflen isod i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer un o'n diwrnodau agored. Neu os yw'n well gennych, gallwch ysgrifennu at:Miss Carol Parry, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth, Adeilad Llandinam, Aberystwyth, SY23 3DB. Ffôn: 01970 622581