Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Ddiwylliannol a Hanesyddol
Mae’r grŵp ymchwil hwn yn trafod o fewn meysydd Symudedd, Hunaniaeth a Phŵer, Amser a Chof, Tirwedd, Daearyddiaethau Technoleg a Llywodraethu, a Damcaniaeth Ofodol feirniadol, ac yn ehangach o fewn daearyddiaeth ddynol.
Mae aelodau’r grŵp wedi astudio’r themâu hyn mewn pob math o gyd-destunau (Ewrop, Gogledd America a De America) ac ar hyd amrywiaeth o raddfeydd amser. Yn ogystal, rydym wedi gwneud cysylltiadau cryfion gyda'r meysydd ehangach academaidd astudiaethau diwylliannol, damcaniaeth cymdeithasol a hanes.
Mae'r grŵp yn defnyddio amrywiaeth eang o agweddau damcaniaethol a methodolegol wrth fynd i’r afael â’r themâu uchod, gan yn aml groestorri â gwaith a wneir gan y Grŵp Ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd.
Mae'r staff yn cynnwys Yr Athro Matt Hannah, Dr Chris Bear, Dr Deborah Dixon,
Dr Gareth Hoskins,
Dr Peter Merriman, Dr Heidi Scott, a Dr Rhys Jones.