Grŵp Ymchwil Newid Amgylcheddol Cwaternaidd
Mae gwaith ymchwil y Grŵp Ymchwil i Newid Amgylcheddol Cwaternaidd (QECRG) yn taflu goleuni ar newidiadau amgylcheddol a chysylltiadau rhwng y ddynolryw a’r amgylchedd dros gyfnodau o amser sy’n amrywio o ddegawdau i gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Caiff gweithredwyr newid yn yr hinsawdd eu codi o gofnodion gwaddodion llynnoedd, marian briddoedd (loess), twyni ar yr arfordir ac yn yr anialwch, archifau hanesyddol. Mae'r uned arsylwi'r ddaear hefyd yn ffocysu ar nodweddu amgylcheddau daearol a'u hymateb diweddar i newidiadau naturiol ac anthropogenig.
Mae’r grŵp yn dwyn ynghyd arbenigedd ym meysydd
- Dyddio ymoleuedd
- Palaeo-ecoleg (yn enwedig mewn paill a diatomau)
- Cronoleg Teffra
- Digwyddiadau Llosgfynydd
- Arsylwi'r Ddaear a Deinameg Ecosystemau (bioddaearyddiaeth)
Er mwyn gallu cynnal y gwaith ymchwil hwn, mae gan y grŵp hefyd labordai sydd â’r dechnoleg ddiweddaraf i wneud y gwaith dyddio ymoleuedd (a gydnabyddir gan yr NERC), arsylwi'r ddaear (sy'n cynnwys Canolfan Rhagoriaeth Academaidd Definiens) palaeo-ecoleg, a dadansoddi gwaddodion.
Mae gan y Grŵp Ymchwil i Newid Amgylcheddol Cwaternaidd wyth staff academaidd (Geoffrey Duller, Henry Lamb, Nick Pearce, Helen Roberts, Sarah Davies, Richard Lucas, Peter Bunting a John Grattan), nifer o fyfyrwyr academaidd ymchwil ôl-raddedig a chymrodyr ymchwil.
Mae aelodau o'r grŵp hwn yn arwain y prosiectau ymchwil canlynol: cofnodion o newid hinsawdd yn y trofannau yn yr oes Holosen yn Affrica a chanol America; hinsoddau deheubarth Affrica a chofnodion o bobl fodern cynnar; cofnodion o symudiadau llwch drwy ddiwedd y cyfnod Cwaternaidd; effeithiau digwyddiadau llosgfynydd ar iechyd dynol. Mae ein hymchwil wrth arsylwi'r ddaear a deinameg ecosystemau yn ffocysu ar nodweddu, mapio a monitro llystyfiant daearol ar draws ystod o fiomau.
Er mwyn cefnogi hyfforddiant ar gyfer ymchwil mae'r Grŵp Ymchwil i Newid Amgylcheddol Cwaternaidd yn cynnig rhaglen PhD, MPhil mewn Gwyddoniaeth Cwaternaidd, a chwrs blwyddyn M.Sc mewn Synhwyro o Bell a System Gwybodaeth Ddaearyddol