Grŵp Ymchwil Hydroleg a Deinameg Basn Afonydd

Nod y Grŵp Ymchwil Hydroleg a Deinameg Basn Afonydd yw datblygu’r ddealltwriaeth o’r modd y mae system dalgylch afon yn gweithio, ei phrosesau, sbardunau newid a phatrymau ymateb. Mae ein hymchwil yn ymdrin ag amgylcheddau cwbl wahanol ac yn cwmpasu ystod eang o raddfeydd amser a gofod, gan weithio o’r dulliau rheoli lleol ar unwaith ar gludiant gronynnau hyd at ddylanwad yr hinsawdd a defnydd tir ar siapio afonydd a’u basnau dros sawl mileniwm.

Mae gan y grŵp gryfderau penodol mewn tri maes sy’n gorgyffwrdd:

  • Monitro a Modelu Prosesau Dalgylch: Datblygu offer arsylwi’r ddaear ar gyfer monitro morffodeinameg a dal pwysau llif; nodweddu morffoleg ar aml-raddfa; deinameg afonydd sydd â sylfeini llifwaddodol cymysg; modelau hydroleg ac esblygiad tirwedd llai cymhleth
  • Ymateb y System Afon a’r Dalgylch i Newid Amgylcheddol: Defnyddio geocronoleg wrth asesu dyddodion afonydd; mesur a dehongli archifau gwaddodol afonydd; asesu beth sy’n gyrru ac yn rheoli afonydd ac ymateb dalgylch; effeithiau cloddio metel ar y system afonydd.
  • Ansawdd Dŵr y Dalgylch a Dŵr Arfordirol: Modelu llifoedd o ddangosyddion bacteria a phathogenau mewn dŵr ymdrochi ac yfed a physgodfeydd arfordirol; cysylltu llifoedd dalgylchoedd ac arfordirol a chylchrediadau pathogenau; mesur effeithiau iechyd o ganlyniad i gysylltiad â dyfroedd 'amgylcheddol'.
Mae ein gwaith ymchwil yn defnyddio casgliad cyfoethog ac amrywiol o fethodolegau, gan gynnwys modelu rhifiadol arloesol, synhwyro o bell, geocronoleg, dadansoddi meintiol stratigraffig a geocemegol. Mae gennym hefyd draddodiad cryf o ddatblygu dulliau newydd i wyddoniaeth basn afonydd.

Mae'r grŵp yn un o ganolfannau gwyddoniaeth cefndeuddwr mwyaf y DU ac mae'n cynnwys naw staff academaidd (G. Bird, J. Brasington, P.Brewer, H. Griffiths, D.Kay, M. Macklin, M. Smith, S.Tooth, L.York) Cydnabuwyd eu hymchwil yn yr Ymarferiad Asesu Ymchwil DU diweddaraf fel ymchwil arweiniol a rhagorol yn rhyngwladol. Fe'u cefnogir ac mae hwythau yn cefnogi 15 cynorthwyydd ymchwil a myfyrwyr doethur.

Mae gan aelodau'r grŵp record ardderchog o ran sicrhau grantiau ymchwil ac yn y 5 mlynedd diwethaf mae wedi denu buddsoddiad o fwy na £1.5 miliwn o NERC ac EPSRC, a mwy na £0.8m gan yr UE. Mae'r grŵp hefyd wedi derbyn buddsoddiad o £2.8 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i greu canolfan rhyngddisgyblaethol sef Canolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Rydym hefyd wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol am ymchwil gymhwysol arloesol a wneir drwy ein canghennau ymgynghori, sef y Ganolfan Ymchwil i’r Amgylchedd ac Iechyd (CREH) a Fluvio.


Mae'r Grŵp Ymchwil Hydroleg a Deinameg Basn Afonydd yn cynnig rhaglen PhD.