Dr Rhys Dafydd Jones

Darlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol (Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth)
BA (Anrh.) MA PhD (Cymru) Llun o Dr Rhys Dafydd Jones.

Cyswllt

Ebost: rdj06@aber.ac.uk
Swyddfa: K5
Ffôn: +44 (0)1970 622 647
Ffacs: +44 (0)1970 622 659

Cyfrifoldebau



Ymchwil

Aelodaeth Grŵp Ymchwil

Diddordebau Ymchwil

Diddordebau Ymchwil

Canolbwyntia ymchwil Rhys ar y berthynas rhwng amlddwiylliannedd, cenhedloedd lleiafrifol, a hawliau lleiafrifol.  Ymchwiliodd ei thesis, Faith, Identity, and the Everyday: the quotidian geographies of Muslims in west Wales, ar y ffyrdd roedd Mwslemiaid yng ngorllewin Cymru yn creu lle i’w hunain mewn rhanbarth lle fodola disgyrsiau o absenoldeb amdanynt, ac ar adeg pan maent yn cael eu [vilified] yn y cyfryngau.  Gan adeiladu ar seiliau'r ymchwil hyn, a oedd yn dehongli bywydau beunyddiol Mwslemiaid gorllewin Cymru fel rhai a oedd yn cael eu nodweddi gan fodoli drwy lywio heibio absenoldeb gwasanaethau ac adfeddiannu ac addasu gofodau amodol a dros dro, mae Rhys wedi cydweithio gyda Dr Sarah Mills a’i gydweithwyr doethurol James Robinson a Jennifer Turner ar brosiectau sy’n ymchwilio agweddau damcaniaethol a chymdeithasol absenoldeb a phresenoldeb.

Ynghyd â’r materion uchod, mae gan Rhys ddiddordeb mewn dinasyddiaeth a dinasfreiniau cynhwysfawr a neilltuo cymdeithasol a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd anhrefol.



Bywgraffiad

Enillodd Rhys radd ag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2006.  Yn sgil ennill Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Addysgu Cyfrwng Cymraeg oddi wrth Gyngor Datblygu Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg y Gorffennaf hwnnw, derbyniodd MA yn naearyddiaeth wleidyddol yn 2007, cyn cwblhau ei ddoethuriaeth o dan oruchwyliaeth Yr Athro Rhys Jones a’r Athro Mike Woods yn 2011.  Ymunodd Rhys â staff y Sefydliad yn swyddogol yn Hydref 2010 fel Cymrawd Dysgu Cyfrwng Cymraeg.  Yn Awst 2011 penodwyd Rhys yn Ddarlithydd cyfrwng Cymraeg mewn Daearyddiaeth Ddynol, swydd a ariannir gan Goleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth.  Bu Rhys ynghlwm ag addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ers 2006, ac mae’n fraint iddo gael bod yn rhan o’r math arloesiad mewn adeg gyffrous i addysg uwch cyfrwng Cymraeg.