Parth Dysgu i Ysgolion

Croeso i barth dysgu i ysgolion y SDGD. Yma rydym yn ceisio darparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i athrawon Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ledled y wlad.

Mae Prifysgol Aberystwyth ym ymroddedig i gynorthwyo ysgolion a cholegau, ac felly mae’n darparu Gwasanaeth Cyswllt Ysgolion a Cholegau. Diben y gwasanaeth hwn yw ategu a chefnogi’r gwaith a wneir mewn ysgolion a cholegau wrth helpu myfyrwyr â’u hymchwil i addysg uwch. Gall aelodau o’r staff academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd gynnig rhaglen o ddarlithoedd, cyflwyniadau a gweithdai trwy gydol y flwyddyn academaidd, ac mae staff y SDGD yn weithgar iawn yn hyn o beth. Ceir rhestr lawn o’r cyflwyniadau a gynigir gan y SDGD, ynghyd ag adrannau eraill, ar y dudalen Rhaglen Adrannau Academaidd.

Digwyddiadau ac Adnoddau

Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2009 – Diwrnod Hinsawdd Aber

Ar ddydd Mercher 2 Rhagfyr 2009 yn A12, Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth, cynhaliodd y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Ddiwrnod Hinsawdd Aber. Roedd yr holl sgyrsiau wedi’u hanelu at y rhai a oedd yn astudio ar gyfer Safon Uwch yn ogystal ag israddedigion a’r rhai a oedd â diddordeb mewn newid yn yr hinsawdd. Diben y diwrnod oedd codi ymwybyddiaeth am y materion a oedd yn ymwneud â Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yng Nghopenhagen, 7-18 Rhagfyr 2009. Gwahoddwyd nifer o ysgolion o Geredigion ac ardaloedd cyfagos a bu’r diwrnod yn llwyddiant mawr.