Deunyddiau i Aelodau
Croeso i Glwb Mathemateg Aberystwyth. Gallwch ddarllen/lawrlwytho'r deunyddiau ar y dudalen hon am ddim. Mae'r dogfennau ar ffurf pdf; os nad oes gennych Adobe Reader gallwch ei osod ar eich cyfrifiadur am ddim yma.
Ceir deunyddiau esboniadol sy'n ymdrin â phynciau mathemategol, a bydd y taflenni problem yn profi eich dealltwriaeth o'r testunau hyn. Ymdrinnir â thri neu bedwar o destunau bob blwyddyn. Gwahoddir gohebwyr (gweler y ddolen Aelodaeth) i gyflwyno datrysiadau erbyn dyddiadau cau penodol. Rhoddir amlinelliad o'r datrysiadau ar y dudalen hon ar ôl y dyddiad cau.
Disgwylir i chi gyflwyno'r datrysiadau ar un o'r ffurfiau canlynol:
- Fel atodiad e-bost i'r cyfeiriad canlynol: aberystwyth-maths-club@aber.ac.uk
- Fel llun electronig (h.y. sganio datrysiadau ysgrifenedig)
- Post rheolaidd. Ein cyfeiriad yw Clwb Mathemateg Aberystwyth, Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth, SY23 3BZ.
Ar ôl i'r datrysiadau ddod i law byddwn yn eu hargraffu, yn ysgrifennu adborth ar y daflen, yn sganio'r daflen sydd wedi'i marcio, ac yn dychwelyd y daflen fel llun electronig. Cysylltwch â ni os ydych chi'n cael problemau i ddarllen y llun.
Byddwn yn ddiolchgar pa baech yn cydnabod Clwb Mathemateg Aberystwyth os ydych yn arddangos deunydd wedi'i lawrlwytho i drydydd parti. Mae'r Clwb yn defnyddio deunyddiau o ffynonellau gwahanol wrth baratoi'r dogfennau. Cydnabyddir y ffynonellau hyn ar y taflenni unigol.
Mae deunydd ategol a Thaflen Broblem 1 bellach ar gael ar gyfer y testun Hafaliadau Cwadratig. Mae'r deunydd yn cynnwys dwy ddogfen: Nodiadau Rhagarweiniol 1 a Nodiadau Eglurhaol 1. Argymhellir eich bod yn darllen y ddwy ddogfen. Os ydych chi'n deall y rhan ragarweiniol ewch yn syth i Nodiadau Eglurhaol 1.
Sylwer: Mae'r problemau gydag uwchysgrifen ar y Daflen Broblem yn anoddach na'r cwestiynau nad ydynt mewn uwchysgrifen. Ond, efallai y byddwch chi'n penderfynu fel arall...
Hefyd, ceir problemau mwy cymhleth, a ddarparwyd gan yr Athro V. Liskevich (Aelod o staff cyswllt). Awgrymwn eich bod yn rhoi cynnig ar y cwestiynau hyn ar ôl i chi roi cynnig ar y daflen broblem safonol. Nid oes raid i chi roi cynnig ar y problemau mwy cymhleth, ond byddwn yn barod iawn i farcio unrhyw ddatrysiadau a gyflwynir o'r rhan ychwanegol hon.
Mae Deunydd Eglurhaol 1 a Thaflen Broblem 1 bellach ar gael.
- Llwythwch i lawr Nodiadau Rhagarweiniol 1 | Llwythwch i lawr Nodiadau Eglurhaol 1
- Llwythwch i lawr y Daflen Problem 1 | Lawrlwytho dolen Amlinelliad o Ddatrysiadau 1 (ddim ar gael)
- Llwythwch i lawr Problemau Uwch (gan yr Athro V. Liskevitch)
- Dolen Archif (Deunydd Eglurhaol, Taflenni Problem, Amlinelliadau o Ddatrysiadau)