Ymaelodi â Chlwb Mathemateg Aberystwyth

Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn Mathemateg ymaelodi â Chlwb Mathemateg Aberystwyth, gan gynnwys disgyblion ac athrawon. Mae croeso i chi ddefnyddio'r holl ddeunyddiau ar ddolen y dudalen lawrlwytho. Os ydych eisiau cyflwyno eich datrysiadau a chael adborth manwl ar y taflenni problem, neu gael cyngor am astudio mathemateg mewn prifysgolion ac astudio yn y DU, mae angen i chi lenwi'r ffurflen isod ac ymuno fel gohebydd. Mae ein holl wasanaethau yn rhad ac am ddim, ac mae amryw o'r gwasanaethau ar gael mewn sawl iaith, gan gynnwys Cymraeg, Ffrangeg, Almaeneg, Hwngareg, Pwyleg, Rwseg a Swedeg.

Dyma rai o fanteision ymaelodi â'r Clwb:

  • Bydd gwybodaeth am y pynciau yr ymdrinnir â hwy yn neunyddiau'r Clwb yn fanteisiol ym mhapurau Mathemateg Arholiadau Ysgoloriaeth PA.
  • Gall gohebwyr y Clwb gymryd rhan mewn cynllun mentora, a chael adborth ar ddatrysiadau a gyflwynir a chyngor am astudio mathemateg yn y brifysgol.

Llenwch y ffurflen ymaelodi ganlynol a'i dychwelyd i ni drwy e-bost neu drwy'r post fel y nodir ar y ffurflen. 

Ffurflen Ymaelodi (doc) / (pdf)