Newyddion
Ar y dudalen hon, cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y Clwb, y Sefydliad neu'r Brifysgol, neu unrhyw newyddion arall a fyddai o ddiddordeb i aelodau'r Clwb:
Cystadleuaeth dylunio logo newydd y Clwb
Rydym ni'n siŵr eich bod yn gallu dylunio rhywbeth gwell na'r logo dros dro sydd gennym ni - dylai'r logo gynrychioli Mathemateg, Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth a Chymru. Byddwn yn ystyried cysyniadau eraill hefyd felly defnyddiwch eich dychymyg. Anfonwch eich cynnig (mewn unrhyw fformat electronig safonol) fel atodiad i aberystwyth-maths-club@aber.ac.uk. Bydd y tri ymgeisydd gorau yn ennill gwobrau sy'n werth £50, £20 a £10.
Darlith Flynyddol WIMCS
Cynhaliwyd yr ail ddarlith Fathemateg Flynyddol ar 3 Mehefin a chafodd y ddarlith ei threfnu gan staff Mathemateg y Sefydliad ar y cyd â Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru. Roedd y brif ddarlith yn gyflwyniad syml i natur deallusrwydd artiffisial, ond roedd amryw o ddigwyddiadau eraill trwy gydol y dydd hefyd.