Gweithgareddau Estyn Allan Clwb Mathemateg Aberystwyth
Mae Clwb Mathemateg Aberystwyth yn croesawu ymweliadau gan ysgolion/colegau; ac mae'r un mor hapus i ddod â gweithgareddau i chi. Mae rhaglen gyffredin yn para dwy awr (gan gynnwys cinio) ac mae'n cynnwys sawl cyflwyniad rhagarweiniol (sy'n cyflwyno myfyrwyr i fathemateg prifysgol), cyflwyniadau gan fyfyrwyr yn dangos sut i ddefnyddio gradd mewn mathemateg, a hefyd sesiynau datrys problemau rhyngweithiol. Mae'r bobl sy'n weithgar yn y Clwb wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg; gweler isod.
Ymweliadau Ysgol/Coleg
Mae Ysgol Penweddig ac Ysgol Penglais wedi ymweld â ni. Dyma adborth o ddigwyddiadau blaenorol:
- O arolwg: 51% wedi nodi bod y digwyddiad yn un da iawn, 23% yn nodi ei fod yn dda
- "Mae'r Clwb Mathemateg yn swnio'n ddiddorol - fe wna i ymuno os bydda i'n dal i astudio Mathemateg blwyddyn nesaf"
- O e-bost: "Roedd fy merch i yn y sesiwn ddoe, ac fe wnaeth hi fwynhau'n fawr iawn"
Enghraifft o Raglen Ymweld ag Ysgolion
Y Pry Cop - Enghraifft o Gyflwyniad Rhagarweiniol
Estyn Allan Cyfrwng Cymraeg
Mae deiliad yr Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg wedi bod yn hyrwyddo Mathemateg trwy'r Gymraeg mewn sawl digwyddiad ledled Cymru; gan gynnwys:
- Ymddangos nifer o weithiau ar sioe Radio Cymru "Y Post Cyntaf" i drafod y fathemateg y tu ôl i fodelu systemau tywydd a newid yn yr hinsawdd.
- Ffeiriau Mantais yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth; Stadiwm y Liberty, Abertawe; Athrofa Chwaraeon, Caerdydd.
- Seminarau UCAS.
- Ymweliadau ysgolion.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth cliciwch yma.