Pam ymuno â Chlwb Mathemateg Aberystwyth?
Croeso i Glwb Mathemateg Aberystwyth (CMA). Prif nod y clwb yw darparu mathemateg gyffrous i ddisgyblion ac athrawon ei hastudio. Mae'r testunau a astudir yn debyg i'r rhai a astudir yn yr ysgolion/colegau, ond mae'r gwaith yn mynd y tu hwnt i'r maes llafur arferol. Gallwch ddarllen neu lawrlwytho deunydd am ddim; os ydych chi'n ymaelodi, cewch adborth ar unrhyw ddatrysiadau yr ydych chi'n eu cyflwyno. Byddwn yn darparu cymorth mewn amryw o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. Gobeithio y byddwch yn hoff o'r deunydd a ddarperir ac y byddwch yn eu defnyddio. Efallai y gwelwch eich bod yn fwy parod i astudio Mathemateg yn y brifysgol, ac y byddwch yn cael mwy o fwynhad o'r pwnc o ganlyniad i hyn. Cefnogir ein gweithgareddau gan raglen estyn allan o ymweliadau ag ysgolion a cholegau.
Mae'r adran Fathemateg yn rhan o'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg. Mae'r sefydliad yn gyfeillgar ac yn un o ymchwil rhagorol rhyngwladol, gyda staff brwdfrydig a charedig sy'n malio am eich cynnydd academaidd. Rydyn ni'n cynnig amryw o gyrsiau mathemategol, gan gynnwys dros ddeg ar hugain o raddau anrhydedd cyfun a chynlluniau prif bwnc/is-bwnc. Cynigir Ysgoloriaethau Mynediad o fri i ddenu ymgeiswyr o'r safon uchaf. Byddai gwybodaeth am y testunau yr ymdrinnir â hwy yn neunyddiau'r clwb yn fanteisiol yn arholiadau'r ysgoloriaeth fathemateg. Mae'r nifer o israddedigion a dderbynnir yn llai nag adrannau eraill, sy'n galluogi'r adran i gymryd diddordeb mwy personol yn y myfyrwyr, ond mae'n ddigon mawr i gael amgylchedd hapus a chynhyrchiol (I gael rhagor o wybodaeth am raddau Mathemateg yn Aberystwyth cliciwch yma).
Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn 2007, daeth Aberystwyth yn 5ed yn y DU ac yn 1af yng Nghymru gyda chyfradd bodlonrwydd o 90%, a oedd yn adeiladu ar y 90% a'r 87% a gyflawnwyd yn 2006 a 2005 yn y drefn honno. Bydd gohebwyr y clwb sy'n gwneud cais am gwrs Mathemateg yn cael cynnig gostyngol. Mae Mathemateg yn Aberystwyth wedi cael hwb yn ddiweddar o ganlyniad i benodi staff ymchwil newydd a gyllidir gan Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru. (I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ym maes Mathemateg, cliciwch yma).