Astudio yn yr Arctig Uchel
Svalbard: Cynefin yr Eirth Gwynion ac ardal yr Awrora
Mae Svalbard yn un o'r mannau mwyaf egsotig ar y Ddaear. Casgliad o ynysoedd ydyw yn ymestyn ar ledred o tua 74N i 81N, ymhell oddi fewn i'r cylch Arctig. Mae'n un o'r ardaloedd naturiol prin hynny sydd heb ei difetha. Gorchuddir llawer o'r ynysoedd â rhewlifau ac maent yn gartref i fywyd gwyllt gan gynnwys eirth gwynion, ceirw, walrysod, morloi a llwynogod Arctig.
Mae Svalbard yn fan delfrydol i astudio'r atmosffer, yr ïonosffer, a ffiseg y gofod oherwydd bod ffenomenau dramatig yn digwydd ar ledredau uchel; megis fortecs y nos-pegynol yn y stratosffer, gwacâd yr oson, a chysylltiad maes magnetig y Ddaear â'r maes magnetig rhyngblanedol drwy'r llinellau maes agored y ceir hyd iddynt mewn lledredau pegynol.
Gall myfyrwyr sydd ar y cwrs MPhys Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod gael cyfle i dreulio ail semester eu blwyddyn olaf (Ionawr-Mai) yn astudio yn UNIS (University Centre on Svalbard), sef prifysgol ryngwladol yn nhref Longyearbyen ar Svalbard. Daw myfyrwyr o bob rhan o Ewrop i'r brifysgol i astudio cyrsiau uwch ym maes gwyddor y pegynau. Mae'r addysgu i gyd drwy gyfrwng y Saesneg, ac nid oes ffioedd ychwanegol. Mae Longyearbyen yn dref fywiog gyda thai bwyta, oriel gelf ac amgueddfa, neuadd chwaraeon a phwll nofio, tafarndai a sinema.
Mae'r myfyrwyr yn byw mewn llety modern sydd wedi'i adeiladu'n bwrpasol, a chânt eu haddysgu gan staff Prifysgol o Norwy a gydnabyddir yn rhyngwladol. Y testunau a astudir yw:
- Diagnosteg Radar o Blasma'r Gofod (Ffiseg y Gofod)
- Atmosffer y Pegwn Uchaf (Ffiseg ïonosfferig)