Astudio Mathemateg
Mathemateg yw un o gampau mwyaf aruchel y meddwl dynol. Mae'n bwnc sydd wedi mynd â bryd meddylwyr ar hyd yr oesoedd - o'r gwareiddiadau hynafol bum mil o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw. Mae'n ddisgyblaeth fyw sy'n esblygu gan fod terfynau mathemateg wedi'u ehangu ymhell y tu hwnt i geometreg a damcaniaeth rhif y Groegiaid ac i algebra'r Indiaid cynnar ac Islam. Mathemateg yw "Brenhines y Gwyddorau" yn ôl un o'i hymarferwyr mwyaf, sef KF Gauss.
Mae hynny'n fwy gwir heddiw nag erioed o'r blaen; mae mathemateg wedi ymledu i diriogaeth pob pwnc gwyddonol. Nid yw'n bosibl cael gwyddoniaeth heb fathemateg.
Cynlluniau Gradd Mathemateg
Graddau i Israddedigion
- Mathemateg - MMath (G103), BSc (G100)
- Mathemateg Gymhwysol (Anrhydedd Cyfun) - BSc
- Mathemateg Bur (Anrhydedd Cyfun) - BSc
- Ystadegaeth (Anrhydedd Cyfun) - BSc
- Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol - MMath (F341), BSc (F340)
Graddau Anrhydedd Cyfun
- Ffrangeg (GR11), Almaeneg (GR12), Sbaeneg (GR14), Cymraeg (GQ15)
- Hanes (GV11), Daearyddiaeth Ffisegol (FG81)
- Celf (WG11), Astudiaethau Ffilm a Theledu (GW16)
- Addysg (GX13)
- Ffiseg (FG31)
- Ac eraill
Graddau Prif Bwnc/Is-Bwnc
- Mathemateg Ariannol - BSc (G1N3)
- Cyfrifeg a Chyllid (G1N4), Economeg (G1L1)
- Busnes a Rheolaeth (G1N1)
- Ac eraill
Os hoffech drafod eich dewisiadau gradd ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Sut Mae Gwneud Cais
I gael rhagor o wybodaeth ac i drafod eich cais i astudio Mathemateg yn Aberystwyth cysylltwch â:
Dr Gwion Evans, Tiwtor Derbyn,
Ffôn: 01970 628624, Ebost: imaps@aber.ac.uk
I gael gwybodaeth gyffredinol am wneud cais i Brifysgol Aberystwyth ac am broses UCAS, ewch i'r Dudalen Ceisiadau Prifysgolion.
Diwrnodau Agored
Dod ar Ddiwrnod Agored prifysgol yw’r unig ffordd y gallwch fod yn siŵr fod y brifysgol sydd ar eich rhestr fer chi yn addas. Mae Diwrnodau Agored prifysgolion yn caniatáu i chi ymweld â’r adrannau o’ch dewis chi er mwyn gweld y cyfleusterau dysgu, y llety ac er mwyn cael blas ar y bywyd cymdeithasol y gallwch ddisgwyl ei fwynhau yn y brifysgol.
Diwrnod Agored:
- Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2012
- Dydd Mercher, 17 Hydref 2012
- Dydd Sadwrn, 20 Hydref 2012
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Agored y Brifysgol, boed hynny er mwyn archebu eich lle ar y diwrnod agored, lawrlwytho canllaw er mwyn manteisio’n well ar eich diwrnod agored, neu er mwyn archebu llefydd ar ein diwrnod agored nesaf, dilynwch y dolenni isod.
Diwrnodau Ymweld
Mae’n Diwrnodau Ymweld wedi eu cynllunio’n arbennig ar gyfer ymgeiswyr Prifysgol Aberystwyth sydd wedi derbyn cynnig gennym, er mwyn eich galluogi i weld llawer mwy na’r hyn y byddech yn ei weld ar Ddiwrnod Agored.
Dewch i ymweld â ni, dyma'r dyddiadau ar gyfer ymweld â'r Sefydliad yn 2013:
Ymweliadau Penwythnos (sesiynau o Nos Wener tan amser cinio Dydd Sadwrn)
- 15-16 Chwefror 2013
- 1-2 Mawrth 2013
- 22-23 Mawrth 2013
Ymweliadau canol wythnos (sesiynau prynhawn Dydd Mercher)
- 13 Chwefror 2013
- 27 Mawrth 2013
Byddwn yn talu eich costau teithio. Os ydych yn teithio o dir mawr y DU byddwn yn talu 100% o’ch costau teithio ar drên neu fws (ymgeiswyr yn unig), neu fel arall byddwn yn rhoi 20 ceiniog y filltir i chi os byddwch yn dod mewn car.
Diwrnodau Ymweld
Os hoffech ymweld â ni ar ddyddiadau eraill, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Ysgoloriaethau
Mae'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg a'r Brifysgol yn cynnig amrediad o ysgoloriaethau a bwrsariaethau. Rhestrir y prif rai yn y tabl isod.
| Ysgoloriaeth / Bwrsariaeth / Gwobr | Gwerth Ariannol |
|---|---|
| Ysgoloriaeth Sefydliad Mathemateg a Ffiseg | £500 y flwyddyn |
| Ysgoloriaethau Mynediad | £1000-£1200 y flwyddyn |
| Bwrsariaethau Rhagoriaeth | £2000-£3334 dros gyfnod y cwrs |
| Gwobrau Teilyngdod | £1000 un taliad yn unig |
Mae yna amryw o wobrau eraill ar gael bob blwyddyn hefyd, i gael rhagor o fanylion gweler Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.