Astudio Ffiseg

Mae Ffiseg yn bwnc gwych i'w astudio gan fod y ddisgyblaeth yn meithrin trylwyredd ac amlochredd ym mhopeth a wnewch chi. Er mai pwnc syml yw Ffiseg yn ei hanfod, bydd yn ymledu i bobman gan fwydo i'r holl wyddorau newydd a helpu i ddatblygu'r dechnoleg fwyaf modern. Yn Aberystwyth, rhoddwn bwys mawr ar ei haddysgu'n effeithiol ac mae gennym gofnod rhagorol ar sail dros 110 o flynyddoedd o brofiad.

Cynlluniau Gradd Ffiseg

Graddau i Israddedigion

 

Graddau Anrhydedd Cyfun a Phrif Bwnc/Is-Bwnc BSc

Os hoffech drafod eich dewisiadau gradd ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Gwneud Cais i Astudio

I gael rhagor o wybodaeth ac i drafod eich cais i astudio Ffiseg yn Aberystwyth cysylltwch â:

Dr. Balazs Pinter, Tiwtor Derbyn,
Ffôn: 01970 628624,  Ebost: imaps@aber.ac.uk

I gael gwybodaeth gyffredinol am wneud cais i Brifysgol Aberystwyth ac am broses UCAS, ewch i'r Dudalen Ceisiadau Prifysgolion.

Diwrnodau Agored

Dod ar Ddiwrnod Agored prifysgol yw’r unig ffordd y gallwch fod yn siŵr fod y brifysgol sydd ar eich rhestr fer chi yn addas. Mae Diwrnodau Agored prifysgolion yn caniatáu i chi ymweld â’r adrannau o’ch dewis chi er mwyn gweld y cyfleusterau dysgu, y llety ac er mwyn cael blas ar y bywyd cymdeithasol y gallwch ddisgwyl ei fwynhau yn y brifysgol.

Diwrnod Agored:

  • Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2012
  • Dydd Mercher, 17 Hydref 2012
  • Dydd Sadwrn, 20 Hydref 2012

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Agored y Brifysgol, boed hynny er mwyn archebu eich lle ar y diwrnod agored, lawrlwytho canllaw er mwyn manteisio’n well ar eich diwrnod agored, neu er mwyn archebu llefydd ar ein diwrnod agored nesaf, dilynwch y dolenni isod.

Diwrnodau Agored.

Diwrnodau Ymweld

Mae’n Diwrnodau Ymweld wedi eu cynllunio’n arbennig ar gyfer ymgeiswyr Prifysgol Aberystwyth sydd wedi derbyn cynnig gennym, er mwyn eich galluogi i weld llawer mwy na’r hyn y byddech yn ei weld ar Ddiwrnod Agored.
Dewch i ymweld â ni, dyma'r dyddiadau ar gyfer ymweld â'r Sefydliad yn 2011:

Ymweliadau Penwythnos (sesiynau o Nos Wener tan amser cinio Dydd Sadwrn)

  • 15-16 Chwefror 2013
  • 1-2 Mawrth 2013
  • 22-23 Mawrth 2013

Ymweliadau canol wythnos (sesiynau prynhawn Dydd Mercher)

  • 13 Chwefror 2013
  • 20 Mawrth 2013 

Byddwn yn talu eich costau teithio. Os ydych yn teithio o dir mawr y DU byddwn yn talu 100% o’ch costau teithio ar drên neu fws (ymgeiswyr yn unig), neu fel arall byddwn yn rhoi 20 ceiniog y filltir i chi os byddwch yn dod mewn car.

Diwrnodau Ymweld

Os hoffech ymweld â ni ar ddyddiadau eraill, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Ysgoloriaethau

Mae'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg a'r Brifysgol yn cynnig amrediad o ysgoloriaethau a bwrsariaethau.  Rhestrir y prif rai yn y tabl isod.

 Ysgoloriaeth / Bwrsariaeth / GwobrGwerth Ariannol
Ysgoloriaeth Sefydliad Mathemateg a Ffiseg £500 y flwyddyn
Ysgoloriaethau Mynediad
£1000-£1200 y flwyddyn
Bwrsariaethau Rhagoriaeth £2000-£3334 dros gyfnod y cwrs
Gwobrau Teilyngdod £1000 un taliad yn unig
   

Mae yna amryw o wobrau eraill ar gael bob blwyddyn hefyd, i gael rhagor o fanylion gweler Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.