Deunydd Hyrwyddo
Ar y dudalen hon cewch lawrlwytho amrediad o ddeunyddiau hyrwyddo'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg.
Cylchgrawn NEWYDDION y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg:
CYSTADLEUAETH
Mae gennym bum tocyn llyfr/cerddoriaeth gwerth £10 ar gael os ydych yn rhoi cynnig ar ein posau Arolwg Cerddoriaeth a Sudoku Groegaidd.
SUT MAE CYSTADLU / TELERAU AC AMODAU
Dylai eich cynnig gynnwys yr atebion i'r ddau bos a dylid postio'r cynnig i gyfeiriad yr adran. Rhowch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn ysgol a rhif ffôn cyswllt ar eich cynnig.
Bydd yr holl gynigion yn cael eu rhoi mewn raffl a bydd y pum cynnig cywir cyntaf i gael eu tynnu yn ennill gwobr. Bydd modd i chi nôl eich tocyn llyfr/cerddoriaeth o Ganolfan y Celfyddydau ar Gampws Prifysgol Aberystwyth.
Y dyddiadau cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 1 Mehefin 2010 a 1 Mehefin 2011