Bodlonrwydd y Myfyrwyr
Prifysgol Aberystwyth yw'r Orau yn y Wlad am Fodlonrwydd y Myfyrwyr
Prifysgol Aberystwyth sy'n cynnig y profiad gorau i fyfyrwyr yng Nghymru yn ôl Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education a gyhoeddwyd ddydd Iau 15 Ionawr.
Daeth Prifysgol Aberystwyth yn 8fed yn y Deyrnas Unedig allan o'r 101 o brifysgolion sydd wedi eu cynnwys yn yr arolwg.
Bodlonrwydd y Myfyrwyr yn Aberystwyth
Daeth Aberystwyth yn gyntaf yng Nghymru ac roedd ymhlith y deng uchaf yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd y myfyrwyr yn Arolwg Profiad Myfyrwyr 2009 y Times Higher Education a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Pan ofynnwyd i'r myfyrwyr "a fyddent yn argymell eu prifysgol i ffrind" daeth Aberystwyth yn gydradd ail. I'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, mae'r gydnabyddiaeth hon gan ein hisraddedigion yn dilyn ymlaen o'r ffaith i Aberystwyth ddod yn gyntaf yn y DU am fodlonrwydd y myfyrwyr ym maes dysgu Ffiseg yn Arolwg Bodlonrwydd y Myfyrwyr 2009 y Guardian.
Ffiseg yn Aberystwyth ar Frig Arolwg Bodlonrwydd y Myfyrwyr y Guardian
Yn ôl y Guardian University Guide 2009 y mis hwn, roedd 94% o'r myfyrwyr ffiseg yn fodlon ag ansawdd y dysgu yn Aberystwyth. Mae hyn yn rhoi Ffiseg yn Aberystwyth ar frig y tabl am Fodlonrwydd y Myfyrwyr.
Gyda Ffiseg yn Aberystwyth yn sgorio'n uchel mewn categorïau eraill (6ed am ragolygon swyddi a gwariant fesul myfyriwr), ac ar y brig ymhlith Prifysgolion Cymru yn y rhan fwyaf o'r categorïau, mae'r syniad o astudio Ffiseg yn Aberystwyth yn un atyniadol iawn.
Ceir manylion am y Canllaw ar http://education.guardian.co.uk/universityguide2009/ a cheir hyd i'r tablau Ffiseg ar http://browse.guardian.co.uk/education.
Mae gan Aberystwyth hanes ardderchog o fodloni myfyrwyr, a daeth y Brifysgol yn gydradd gyntaf yn Arolwg Bodlonrwydd y Myfyrwyr 2008 y Times Good University Guide yn ogystal â chael cyfraddau ardderchog yn yr arolwg Accomodation for Students a'r Good University Guide.