Mathemateg a Ffiseg Cyfrwng Cymraeg

Ymholiadau: sep@aber.ac.uk

Bwriad y modiwlau cyfrwng Cymraeg mewn Mathemateg a Ffiseg yw cynnal a datblygu gallu'r myfyrwyr i ymdrin â'r pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. Amcenir at fagu hyder y myfyrwyr i gyflwyno eu pwnc yn hyderus yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cyflwynir darlithoedd y modiwlau drwy'r Saesneg, ond atgyfnerthir yr addysgu gan diwtorialau i grwpiau bychain yn y Gymraeg a gweithdai datrys-problemau. Ceir cyfle i drafod y gwaith yn Gymraeg ac i ymarfer defnyddio'r termau perthnasol. Mae tua 20%-30% o oriau cyswllt y modiwlau yn y Gymraeg.