Addysgwyr Cyfrwng Cymraeg
Darlithwyr Cyfrwng Cymraeg
Mae tri aelod o'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn gweithio'n uniongyrchol ar addysgu modiwlau cyfrwng Cymraeg (Gwion Evans, Huw Morgan a Tudur Davies). Gallwch ddarllen am y tri darlithydd isod.
Mae aelodau eraill o’r staff addysgu sydd hefyd yn rhugl yn y Gymraeg, ac yn barod i sgwrsio a rhoi cyngor yn y Gymraeg i chi yn ôl y galw.
Andy Evans Pennaeth y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg
Gwion Evans
Ymchwil: Algebrâu gweithredyddion sy'n fy niddori. Tarddodd y maes ymchwil mathemategol yma drwy fodelu cynnar o fecaneg cwantwm, ond erbyn hyn mae'n faes eang a nodedig ynddo ei hun. Deillia nifer o dechnegau a ddefnyddir yn y gwyddorau ohono, yn cynnwys Ffiseg, Cyfrifiadureg Cwantwm a hyd yn oed Bioleg. Ynghyd ag astudio strwythurau diddorol mathemateg, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn defnyddio technegau algebrâu gweithredyddion i astudio systemau dynameg cwantwm a chlasurol.
Diddordebau: Rwy’n breuddwydio am recordio a chreu cerddoriaeth unwaith eto, i ofid mawr y rhai anffodus fydd yn gorfod gwrando!
Huw Morgan
Ymchwil: Rwyf yn seryddwr sy'n arbenigo yn yr haul. Rwy'n gweithio ar ddadansoddi arsylwadau coronaidd - o arsylwadau coronagraff o'r gofod neu'r ddaear, delweddau eclips, neu fesuriadau o'r gwynt heulol yn bell o'r haul. Mae'n anodd arsylwi'r corona, ac mae'n gyndyn iawn i ddatgelu ei chyfrinachau. Mae datblygu technegau dadansoddi ac arsylwi newydd yn gymorth i ddeall y corona yn well. Rwyf wedi:
- Datblygu technegau prosesu delweddau newydd sy'n helpu i ddatgelu strwythur coronaidd.
- Datblygu technegau dadansoddi newydd sy'n rhannu arsylwadau coronaidd i ddwy gydran: y corona tawel, cefndirol, a'r corona deinamig, ffrwydrol.
- Bod yn aelod blaenllaw o'r tîm gwyddonol eclips sy'n arwain y maes yn fyd-eang
- Defnyddio technegau tomograffi meddygol ar y corona i weld y strwythur mewn 3D.
Diddordebau: Rwy'n chwarae'r gitâr a ffidil. Rwy'n canu ac yn rheoli band roc, gan ryddhau sawl albwm yn y blynyddoedd diwethaf dan yr enw Huw Haul neu Baswca. Roeddwn yn arfer chwarae gyda MC Mabon, Tystion, a nifer o fandiau eraill. Rwy'n cefnogi Scarlets Llanelli, mwynhau garddio llysiau, rhedeg, nofio a beicio mynydd. Rhedais hanner marathon Caerdydd llynedd i godi arian i elusen leol. Rwy'n byw yn Llanbrynmair gyda fy mhartner Gail a thri o blant bach: Morus, Lleucu a Caio. Mae bywyd yn brysur.
Tudur Davies
Ymchwil: Modelu ymateb rheolegol hylifau cymhleth megis ewynnau, trwy ddefnyddio efelychiadau rhifiadol, yw fy mhrif faes ymchwil. Rwy’n arbenigo mewn modelu’r rhyngweithiad rhwng ewynnau hylifol a gwrthrychau caled; gwaith sydd â defnydd mewn prosesau diwydiannol megis gwahanu mineralau ac adfer olew o greigiau. Rwyf hefyd wedi datblygu technegau prosesu delweddau tri-dimensiwn o ewynnau er mwyn cymharu arbrofion gyda fy efelychiadau.
Diddordebau: Rwy’n hoff iawn o bob math o chwaraeon, yn enwedig rygbi a phêl-droed. Byddai rhai’n dweud mai obsesiwn yn hytrach na diddordeb sydd gennyf yn y ddwy gêm!