Ymchwil mewn Mathemateg a Ffiseg
"Cenhadaeth y Sefydliad yw cyflwyno ymchwil o safon fyd-eang yn y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol, gan adeiladu ar ei fri rhyngwladol ym maes Ffiseg Defnyddiau, Ffiseg y Gofod a Mathemateg a datblygu partneriaethau strategol â'r byd academaidd a diwydiant." Gan fod y Sefydliad yn rhoi pwyslais mawr ar ymchwil, mae'n cynorthwyo tri grŵp mawr sy'n cystadlu yn flaenllaw ym maes gwyddoniaeth ar lefel fyd-eang.
- Mae grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul yn astudio'r gadwyn o ddigwyddiadau sy'n arwain o'r Haul, drwy wynt yr haul, i atmosfferau ac arwynebau'r planedau.
- Yn yr Ymchwil i Ddefnyddiau, cymhwysir technegau arbrofol uwch ar y cyd â gwaith modelu mathemategol a chyfrifiannol i daflu goleuni ar y cysylltiadau hollbwysig sy'n penderfynu ar briodweddau fel llif hylifol, toriad, ymdoddi, dargludedd ac allyrru goleuni mewn defnyddiau fel hylifau, ewyn, gwydr, serameg, lled-ddargludyddion, nanoronynnau a ffilmiau tenau.
- Mae'r diddordebau ymchwil mewn Mathemateg yn rhychwantu maes eang sy'n cynnwys dadansoddi, modelu mathemategol, systemau cwantwm agored a chyfuniadaeth algebraidd.
Mae'r ymchwilwyr ym mhob grŵp yn ymwneud â chynlluniau cydweithio ehangach ac maent yn bartneriaid gweithgar yn y Ganolfan Uwch-Ddefnyddiau ac Uwch-Ddyfeisiau Swyddogaethol (CAFMaD) a Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru (WIMCS).
Mae'r adran hefyd yn cynnal Seminarau Ymchwil.