Dr I Tudur Davies

Darlithydd (Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
MSc, PhD (Aberystwyth) Llun o Dr I Tudur Davies.

Cyswllt

Ebost: itd@aber.ac.uk
Swyddfa: 111, Adeilad y Gwyddorau Ffisegol, Campws Penglais
Ffôn: (0)1970 622 813
Ffacs: (0)1970 622 826

Dysgu

Rwy’n addysgu rhywfaint o’r modiwlau:

·         MA10020 – Algebra and Calculus

·         MT10020 – Algebra a Chalcwlws

·         MT10310 – Tebygoleg

·         MT11010 - Algebra a Chalcwlws Pellach

·         MT11310 – Ystadegaeth

·         MA25110 / MX35110 – An Introduction to Numerical Analysis

·         MT25110 – Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol

·         MT33110 – Rhaglennu Llinol

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil mewn Mathemateg gymhwysol, yn bennaf mewn datblygu efelychiadau rhifiadol i fodelu ymateb hylifau cymhleth megis ewynnau. Rwyf wedi datblygu efelychiadau sy’n edrych ar y rhyngweithiad sy’n digwydd rhwng ewyn hylifog a gwrthrychau caled. Rhan arall o’m gwaith ymchwil yw cymharu canlyniadau efelychiadau â arbrofion: Rwyf wedi datblygu algorithm sy’n ail-greu ewynnau o ddelweddau tri-dimensiwn (wedi’w cael trwy ddull tomograffi), sy’n defnyddio dulliau prosesu delweddau. Yn olaf, rwyf wedi gweithio ar ddatblygu a gwella technegau delweddu data o efelychiadau ac arbrofion o lif ewyn, fel rhan o brosiect ar y cyd wedi’w ariannu gan RIVIC.

Bywgraffiad

 Llwyddodd Tudur i ennill gradd mewn Mathemateg o Brifysgol Aberystwyth yn 2005. Cariodd ymlaen i astudio yma, ac ennillodd radd Meistr mewn Hylifau Cymhleth yn 2006 a PhD yn 2010. Yn ddiweddar, bu’n gweithio fel Cynorthwydd Ymchwil yma; yn gweithio ar brosiect RIVIC (Sefydliad Cyfrifiadura Gweledol Cymru) mewn modelu a delweddu deunyddiau cymhleth oedd ar y cyd rhwng IMAPS a’r adran Gyfrifiadureg. Mae bellach yn ddarlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma, ble mae’n gweithio ar atgyfnerthu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Mathemateg.

Cyhoeddiadau

  • Wyn, I.T. Davies and S.J. Cox. Simulations of two-dimensional foam rheology: localization in linear Couette flow and the interaction of settling discs. European Physical Journal E 26:81-89 (2008)
  • I.T. Davies and S.J. Cox. Sedimenting discs in a two-dimensional foam. Colloids and Surfaces A 334:8-14 (2009)
  • I.T. Davies, S.J. Cox, Sedimentation of an elliptical object in a two-dimensional foam, J. Non-Newtonian Fluid Mech. (2010), doi:10.1016/j.jnnfm.2010.04.005.
  • D.R. Lipsa, R.S. Larammee, S.J. Cox and I.T. Davies (2011). FoamVis: Visualization of 2D Foam Simulation Data. IEEE Transactions on Visualization and Computer Graphics 17:2096-2105.
  • I.T. Davies and S.J. Cox (2012). Sphere motion in ordered three-dimensional foams. Journal of Rheology 56:473:483.