Dr Huw Morgan
DarlithyddBMus (Bangor), BSc (Open University), PhD (Aberystwyth)
Cyswllt
Ebost: hmorgan@aber.ac.uk
Swyddfa: Ystafell 101, Adeilad Gwyddorau Ffisegol, Campws Penglais
Ffôn: 01970 622810
Ffacs: 01970 622 826
Gwefan Personol: http://users.aber.ac.uk/hum2/
Dysgu
Rwyf yn addysgu ar y modiwlau canlynol:
- MT10020 - Algebra a Chalcwlws (Cyfrwng Cymraeg)
- MT14010 - Dynameg Glasurol (Cyfrwng Cymraeg)
- FG11010 - Ffiseg Glasurol 1 (Cyfrwng Cymraeg)
- FG11120 - Ffiseg Glasurol 2 (Cyfrwng Cymraeg)
- MT12910 - Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau (Cyfrwng Cymraeg)
- FG26020 - Ffiseg Mathemategol (Cyfrwng Cymraeg)
- PH24610 – Sêr
- PH34610 - Galaethau
Ymchwil
Rwyf yn ffisegwr haul sy'n gweithio ar ddadansoddi arsylwadau coronaidd - o arsylwadau coronagraff o'r gofod neu'r ddaear, delweddau eclips, neu mesuriadau o'r gwynt heulol yn bell o'r haul. Mae'n anodd arsylwi'r corona, ac yn gyndyn i ddatgelu ei chyfrinachau. Mae datblygu technegau dadansoddi ac arsylwi newydd yn gymorth i ddeall y corona yn well. Rwyf wedi:
- Datblygu technegau prosesu delweddau newydd sy'n helpu i ddatgelu strwythur coronaidd.
- Datblygu technegau dadansoddi newydd sy'n rhannu arsylwadau coronaidd i ddwy gydran: y corona tawel, cefndirol, a'r corona deinamig, ffrwydrol.
- Bod yn aelod blaenllaw o'r tîm gwyddonol eclips sy'n arwain y maes yn fydeang
- Cymhwyso tomograffi i'r corona dros cylchred gweithgaredd cyfan, gan fesur graddfa cylchdroi'r corona yn gywir am y tro cyntaf.
Dyma linc i fy resume sy'n cynnwys rhestr gyflawn o fy nghyoeddiadau: Resume