Dr S. Eleri Pryse

Darllenydd
BSc, PhD (Wales) Llun o Dr S. Eleri Pryse.

Cyswllt

Ebost: sep@aber.ac.uk
Swyddfa: 310, Adeilad y Gwyddorau Ffisegol, Campws Penglais
Ffôn: (0)1970 622 801
Ffacs: (0)1970 622 826

Dysgu

Modiwlau a Addysgir i Israddedigion

  • PH05510 Introduction to Laboratory Physics II (Cydlynydd)
  • MP14010 Dynamics and Relativity (Cydlynydd)
  • MT14010 Dynameg a Pherthnasedd (Cydlynydd)
  • MP21010 Relativity and Mechanics (Cydlynydd)
  • PH21510 Thermal Physics I
  • PH32510 Electromagnetism (Cydlynydd)
  • PH31510 Thermal Physics II (Cydlynydd)
  • PH39320 Ionised Atmospheres and Space Plasma
  • PH34040 Advanced Techniques
  • PH35530 Individual Projects
  • PHM2510 Electromagnetic Theory
  • PHM5010 Project Dissertation (Cydlynydd)
  • PHM5860 Extended Project (Cydlynydd)
  • PHM5760 Studies In The Upper Polar Atmosphere (Cydlynydd)
Cydlynydd Addysgu Cyfrwng Cymraeg y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg.

Ymchwil

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar yr atmosffer trydanol, neu'r ïonosffer fel y'i gelwir.  Ym mlynyddoedd cynnar fy ngyrfa defnyddiais fflachennau ar donnau radio i ymchwilio strwythurau bychain yn yr atmosffer trydanol ar ledredau awroraidd ac is-awroraidd.  Yn fwy diweddar bûm yn cymhwyso techneg tomograffi i ddelweddu'r ïonosffer, gan ei datblygu o syniad damcaniaethol i ddull arbrofol.  Mae'r dechneg yn defnyddio signalau radio o loerennau ac mae'n darparu lluniau o strwythur y  plasma ar grid uchder-lledred.  Defnyddiwyd radar EISCAT (European Incoherent SCATter radar) i wirio'r dull.  Trwy gymharu delweddau tomograffi gydag arsylwadau cydamserol gan y radar, cadarnhawyd y dull delweddu a llwyddwyd i ddatblygu algorithmau addas ar gyfer yr ïonosffer.  Mae'r dull yn awr wedi cyrraedd aeddfedrwydd, a chaiff ei ddefnyddio i astudio'r atmosffer trydanol, ac ar gyfer mapio strwythurau ionosfferig sydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr signalau radio.

Defnyddir cadwyn o dderbynyddion tomograffi gan grŵp ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul, Prifysgol Aberystwyth ar gyfer delweddu yr ïonosffer ar ledredau uchel, gyda derbynyddion yn Ny Ålesund, Longyearbyen, Bjørnøya a Tromsø.  Lleolir y gadwyn mewn man addas i ddelweddu'r ïonosffer dros amrediad eang o ledredau sy'n ymestyn o'r rhanbarth awroraidd tuag at begwn y gogledd.  Gall y gadwyn arsylwi ar effeithiau'r canlynol: tywydd y gofod, y cysylltu rhwng maes magnetig y Ddaear a'r maes magnetig yng ngwynt yr Haul, gronynnau egniol sy'n dod i mewn i'r atmosffer yn y rhanbarth awroraidd, a'r llif plasma ar ledredau uchel.  Mae'r delweddau yn atgyfnerthu arsylwadau a wneir gan nifer o arbrofion yn yr ardaloedd awroraidd a phegynol gan y gymuned wyddonol ryngwladol, yn cynnwys systemau radar EISCAT/ESR a CUTLASS, camerâu optegol a mesuriadau gronynnau gan loerennau.  Gellir hefyd eu defnyddio i wireddu a datblygu modelau cyfrifiadurol o'r atmosffer trydanol.  Defnyddir yr arsylwadau tomograffig mewn ymchwiliadau ar y cyd gyda'r IITC (International Ionospheric Tomography Community) sydd â chadwyni tomograffig ar ledredau uchel yn Ewrop ac Alaska.

Yn ddiweddar ehangwyd fy niddordeb ionosfferig i atmosffer trydanol planedau eraill, gyda diddordeb yn benodol mewn arsylwadau gan long ofod VEX (Venus Express).

Bywgraffiad

Wedi'i haddysgu yn Aberystwyth ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Penweddig, cafodd Dr. Pryse radd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg o Brifysgol Cymru ac yna radd PhD am ymchwil i strwythurau bychain yn yr ïonosffer gan ddefnyddio signalau radio o loerennau. Cafodd ei phenodi'n ddarlithydd ffiseg yn Aberystwyth yn 1989.  Arloesodd ddulliau tomograffig o "dynnu llun" yr atmosffer trydanol, ac mae wedi gwneud defnydd eang o'r dechneg yn ardal pegwn y gogledd a'r rhanbarth awroraidd i astudio effeithiau tywydd y gofod a phrosesau plasma sylfaenol yn yr atmosffer ar ledredau uchel. Mae'n briod gyda theulu, ac mae ganddi diddordeb mewn cerddoriaeth.

Cyhoeddiadau

  • Wood, A. G., S. E. Pryse and J. Moen, Modulation of nightside polar patches by substorm activity, Ann. Geophysicae, 2009 (cyflwynwyd).
  • H J Strangeways, I Kutiev, L R Cander, S Kouris, V Gherm, D Marin, B De La Morena, E Pryse, L Perrone, M Pietrella, S Stankov, L Tomasik, E Tulunay, Y Tulunay, N Zernov and B Zolesi, Near-Earth space plasma modelling and forecasting, Annals of Geophysics, 52, 3/4 June/August 2009 (yn y wasg).
  • S E Pryse, E L Whittick, A D Aylward, H R Middleton, D S Brown, M Lester and J A Secan, Modelling the tongue-of-ionisation using CTIP with SuperDARN electric potential input: verification by radiotomography, Ann. Geophysicae, 27, 1139-1152, www.ann-geophys.net/27/1139/2009/, 2009.
  • E L Whittick, S E Pryse, H R Middleton, A R Lotinga and A D Aylward, The CTIP Model with SuperDARN electric potential patterns as input: first comparison of modelled ion densities with radio tomography observations,  Earth, Moon and Planets, 104(1), 45-49,  DOI:0.1007/s11038-008-9264-9, www.springerlink.com/content/53w6472172p73808/, 2009.
  • A G Wood, S E Pryse, H R Middleton and V S C Howells,  Multi-instrument observations of nightside plasma patches under conditions of IMF Bz positive, Ann. Geophysicae, 26, 2203-2216, www.ann-geophys.net/26/2203/2008/, 2008.
  • H R Middleton, S E Pryse, A G Wood and R L Balthazor, The role of the tongue-of-ionisation in the formation of the poleward wall of the main trough in the European post-midnight sector, J. Geophys. Res., 113(A2), A02306, doi:10.1029/2007JA012631, 2008.
  • S E Pryse, H R Middleton ac A G Wood, Llif yr atmosffer drydanol dros begwn y gogledd: arsylwadau tomograffi radio a SuperDARN, Gwerddon, 1(2), 38-56, 2007 (ISSN 1741-4261), www.gwerddon.org/2_llif_yr_atmosffer_drydanol_-73.aspx, 2007.
  • S E Pryse, A G Wood, H R Middleton, I W McCrea and M Lester, Reconfiguration of polar-cap plasma in the magnetic midnight sector, Ann. Geophysicae, 24(8), 2201-2208, www.ann-geophys.net/24/2201/2006/, 2006.
  • S E Pryse, L Kersley, D Malan, and G J Bishop, Parameterization of the main ionospheric trough in the European sector, Radio Sci., 41, RS5S14, doi:10.1029/2005RS003364, 2006.
  • J Moen, H C Carlson, K Oksavik, C P Nielsen, S E Pryse, H R Middleton, I W McCrea and P Gallop, EISCAT observations of plasma patches at sub-auroral cusp latitudes, Ann. Geophysicae, 24(9), 2363-2374, www.ann-geophys.net/24/2363/2006/, 2006.