Croeso
Ym mis Awst 2003 lansiodd Prifysgol Aberystwyth sefydliad newydd, sef y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg. Ynddo mae dwy o'r adrannau gwyddonol hynaf a mwyaf nodedig, sef Mathemateg a Ffiseg, a sefydlwyd yn fuan ar ôl i Brifysgol Cymru gael ei sefydlu yn Aberystwyth ym 1872. Addysgwyd y ddau bwnc o'r cychwyn cyntaf ac maent yn dal i gael eu haddysgu heddiw i fwy na 300 o fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig, gan gynnwys llu o fyfyrwyr tramor.
Yr oedd ymchwil i Fathemateg Gymhwysol a Ffiseg Atmosfferig wedi hen ymsefydlu yn Aberystwyth erbyn 1900. Ym 1908 rhagfynegodd GA Schott y ffenomen o ymbelydredd syncrotron yn Aberystwyth, a hynny bron 70 mlynedd cyn i Julian Schwinger o Harvard ennill Gwobr Nobel am ddatblygu'r ddamcaniaeth yn llawn. Ym 1940 darganfu EJ Williams, y dathlwyd ei ganmlwyddiant yn 2003 yn Llanwenog, y pi-meson yn Aberystwyth gan ddefnyddio un o'r siambrau niwl cynnar. Y pi-meson yw un o ronynnau sylfaenol pwysicaf y bydysawd.
Yn fwy diweddar, sefydlodd yr Athro Ken Walters FRS sefydliad o fri rhyngwladol, sef y Sefydliad Mecaneg Hylifol An-Newtonaidd, lle cyfeirir sylw Mathemateg Gymhwysol at ragfynegi ymddygiad cymhleth paentiau, polymerau a bwydydd modern. Ar yr un pryd, mae Ffiseg yn Aberystwyth wedi datblygu i gynnwys ffiseg yr Haul yn sgil gwaith arloesol yr Athro Phil Williams ar Dywydd y Gofod. Ymhlith y datblygiadau diweddaraf mae sefydlu'r Labordy Ffiseg Defnyddiau sy'n ymroi i hyrwyddo ffiseg gwydr a lled-ddargludyddion. Agorwyd y labordy yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn 2002.
Mae'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg wrthi'n sefydlu Canolfan Ddelweddu Cymru, yn Aberystwyth, ar y cyd â'r Awdurdod Datblygu, cwmnïau TG ac Amcan 1. Bydd y prosiect arloesol hwn, sydd wedi costio £10m, yn ecsbloetio technoleg ddiweddaraf realiti rhithwir ar gyfer partneriaethau academaidd a diwydiannol ledled Cymru.
Yr Athro Manuel Grande