Rhybudd Tywydd Ambr

Neges 5

Cyhoeddwyd 8:00yb Dydd Mawrth 17 Hydref 2017

Neges i fyfyrwyr

Annwyl Fyfyriwr  

Diolch am eich cydweithrediad wrth i ni gymryd camau rhagofal mewn ymateb i’r gwyntoedd cryfion ddaeth yn sgil cyn-gorwynt Ophelia.  

Bu rhywfaint o ddifrod i adeiladau a choed ar campws ond yn ffodus, ni chafwyd unrhyw adroddiadau am anafiadau.   

Bydd yr holl ddysgu yn ailddechrau fel arfer bore `ma dydd Mawrth 17 Hydref, ac fe fydd pob adeilad a gwasanaeth ar agor.  

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os welwch unrhyw ddifrod sydd o bosib heb gael sylw, cysylltwch â gwasanaethau diogelwch y campws ar 2900 | 01970 622900. 

Pob diolch  

Rebecca Davies

Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu


Neges 4

Cyhoeddwyd 8:00yh Dydd Llun 16 Hydref 2017

Neges i staff

Annwyl Gydweithiwr

Diolch am eich cydweithrediad heddiw wrth i ni gymryd camau rhagofal mewn ymateb i’r gwyntoedd cryfion ddaeth yn sgil cyn-Gorwynt Ophelia.

Bu rhywfaint o ddifrod i adeiladau a choed ond yn ffodus, ni chafwyd unrhyw anafiadau.

Y disgwyl yw y bydd yr holl ddysgu yn ailddechrau fel arfer ar fore Mawrth 17 Hydref, gyda phob adeilad a gwasanaeth ar agor.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os welwch unrhyw ddifrod sydd heb gael sylw, ffoniwch 2900 | 01970 622900.

Pob diolch

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu

---------------------------------------------------------------------

Neges 3

Cyhoeddwyd 5:20yh Dydd Llun 16 Hydref 2017

Neges i fyfyrwyr

Annwyl fyfyriwr,

Rhybudd Diogelwch i Bob Myfyriwr

Mae’r gwyntoedd yn cryfhau ac o ganlyniad, mae tipyn o falurion yn hedfan ar hyd stâd y Brifysgol. Felly, nid yw’n ddiogel i chi fod allan yn y tywydd yma.

Er eich diogelwch, rydym yn cynghori’n gryf eich bod yn aros yn eich llety nes i’r storm ostegu. Y disgwyl yw y bydd y sefyllfa wedi gwella erbyn y bore.

Mae’r cyngor hwn yn ychwanegol i’r neges a anfonwyd yn gynharach yn annog pobl i gadw draw o’r prom a’r traethau.

Byddwn yn eich diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau drwy eich e-bost Prifysgol, yn ogystal â’n gwefan: https://www.aber.ac.uk/cy/important-info.

Os ydych chi angen cefnogaeth, cysylltwch â llinell argyfwng y Brifysgol ar 2900 | 01970 622900.

Cymerwch ofal,

Rebecca Davies

Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol 

--------------------------------------------------------------------

Neges 2

Cyhoeddwyd 2:00yp Dydd Llun 16 Hydref 2017

Neges i fyfyrwyr
Ewch lawr y dudalen i gael y neges i staff

Annwyl fyfyriwr,

Mae penderfyniad wedi ei wneud i ganslo darlithoedd o 4yp heddiw Ddydd Llun 16 Hydref 2017 o ganlyniad i’r gwyntoedd cryfion yn sgil storm Ophelia.

Bydd yr adeiladau / gwasanaethau canlynol hefyd ar gau o 4yp heddiw.

·        Y Ganolfan Chwaraeon

·        IBERS Bach

·        Undeb y Myfyrwyr

·        Canolfan y Celfyddydau

·        Brynamlwg

·        Blas Padarn (Llanbadarn)        

·        Llyfrgell Thomas Parry (Llanbadarn)

·        Gogerddan

·        Yr Hen Goleg

Bydd Llyfrgell Hugh Owen ar agor tan 6yh.

Y bwriad ar hyn o bryd yw cadw TaMed Da ar agor am fwyd tan 7yh.

Rydym yn annog myfyrwyr i ddychwelyd i'w llety cyn gynted ag y bo modd ac i aros mewn, gan gadw golwg agos ar eu cyfrif e-bost prifysgol neu Ap Aber yn ogystal â thudalennau Gwybodaeth Bwysig ar wefan y Brifysgol.

·        https://www.aber.ac.uk/cy/important-info

Gan ein bod yn gymuned arfordirol, byddwch yn arbennig o ymwybodol o'r peryglon o fynd yn rhy agos at y tonnau. Cadwch draw o'r traeth a'r prom, oherwydd gall y tonnau hefyd gario cerrig mawr a pheri anafiadau difrifol.

Os ydych chi'n byw mewn llety ar lan y môr, defnyddiwch y drysau mynediad cefn.

Gofynnir i bob myfyriwr sicrhau bod ffenestri wedi cau. 

Wrth i chi adael y campws, byddwch yn ofalus a thalwch sylw at unrhyw gyfarwyddiadau a roddir. 

Mae gwybodaeth defnyddiol am draffig, teithio a’r tywydd i’w cael ar y gwefannau allanol canlynol hefyd:

·         http://www.metoffice.gov.uk

·         http://naturalresourceswales.gov.uk/?lang=cy

·         http://www.traffic-wales.com/?lang=cy-GB

Byddwn yn anfon diweddariadau pellach yn ôl yr angen ond y bwriad ar hyn o bryd yw y bydd darlithoedd a gweithgareddau eraill yn mynd yn eu Blaenau yn ôl y drefn arferol fory, Dydd Mawrth 17 Hydref 2017. 

Os oes gennych unrhyw faterion sy’n achosi pryder i chi, ffoniwch ein gwasanaethau dioglewch ar 2900 | 01970 622900.

Cymerwch ofal

Rebecca Davies

Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu

Neges is staff

Annwyl Bawb

Mae penderfyniad wedi ei wneud i ganslo dysgu o 4yp heddiw Dydd Llun 16 Hydref 2017 o ganlyniad i’r gwyntoedd cryfion yn sgil storm Ophelia.

Mae’r adeiladau/gwasanaethau canlynol ar gau o 4yp heddiw.

Y Ganolfan Chwaraeon

Llyfrgell Thomas Parry (Llanbadarn)

Blas Padarn (Llanbadarn)

IBERS Bach

Undeb y Myfyrwyr

Canolfan y Celfyddydau

Brynamlwg  

Gogerddan      

Yr Hen Goleg

Bydd Llyfrgell Hugh Owen yn cau am 6yh heddiw ac yn ailagor am 8 o’r gloch bore yfory.

Mae’n fwriad cadw TaMed Da ar agor ar gyfer bwyd tan 7yh.

Yn unol â’n polisi amgylchiadau eithriadol os oes rhaid i unrhyw unigolyn adael y gwaith yn gynnar, dylent drafod hyn gyda'u rheolwr llinell yn y lle cyntaf. Dylai’r rheolwyr llinell benderfynu fesul achos p'un a yw'n briodol i weithwyr yn eu hathrofa/adran wasanaeth adael y gwaith yn gynnar. Wrth wneud y penderfyniad hwn, dylent ystyried amgylchiadau'r gweithiwr (er enghraifft, pellter o'r cartref, dull cludiant, cyfrifoldeb am ddibynyddion), barn y gweithiwr ac anghenion y Brifysgol.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar dudalen Gwybodaeth Bwysig y Brifysgol ar ein gwefan:

https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/

Ceir gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar dywydd, traffig a theithio ddiweddaraf ar y gwefannau canlynol: 

http://www.metoffice.gov.uk

http://naturalresourceswales.gov.uk/?lang=cy

http://www.traffic-wales.com

Wrth i chi adael y campws, byddwch yn ofalus a thalwch sylw at unrhyw gyfarwyddiadau a roddir. 

Byddwn yn anfon diweddariadau pellach fel bo angen ond y bwriad yw y bydd darlithoedd a gweithgareddau eraill yn mynd yn eu blaen yfory fel arfer dydd Mawrth 17 Hydref 2017. Mae neges e-bost ar wahân wedi mynd at fyfyrwyr yn rhoi gwybod iddynt am y trefniadau hyn.

Os oes gennych unrhyw faterion sy’n achosi pryder i chi, ffoniwch 2900 | 01970 622900.

Cymerwch ofal

Rebecca Davies

Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu

---------------------------------------------------------

Neges 1

Cyhoeddwyd 10:00yb Ddydd Llun 16 Hydref 2017

Mae rhagolygon am wyntoedd cryfion yn sgil Storm Ophelia o hanner dydd heddiw ddydd Llun 16 Hydref ar gyfer y rhan fwyaf o'r wlad, gan gynnwys Aberystwyth.

Mae'r Brifysgol yn dal i fod ar agor ond hoffem eich atgoffa o'r angen i gymryd gofal mawr. Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am berygl posibl o falurion yn hedfan â theils to, er enghraifft, yn cael eu chwythu i ffwrdd.

Gan ein bod yn gymuned arfordirol, byddwch yn arbennig o ymwybodol o'r peryglon o fynd yn rhy agos at y tonnau. Cadwch draw o'r traeth a'r prom, oherwydd gall y tonnau hefyd gario cerrig mawr a pheri anafiadau difrifol.

Os ydych chi'n byw mewn llety ar lan y môr, defnyddiwch y drysau mynediad cefn.

Gofynnir i bob myfyriwr sicrhau bod ffenestri wedi cau.

Byddwn yn monitro'r tywydd yn agos ac yn cysylltu â chi eto os bydd y sefyllfa'n newid felly cadwch olwg ar eich e-bost prifysgol ac Ap Aber.

Gallwch hefyd wirio'r wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd, traffig a theithio ar y dolenni gwe canlynol:

·         http://www.metoffice.gov.uk

·         http://naturalresourceswales.gov.uk/?lang=cy

·         http://www.traffic-wales.com/?lang=cy-GB

Os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch, ffoniwch rif brys 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad a byddwch yn ddiogel.

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu

Gwyntoedd Cryf Cyfathrebu 3

Annwyl Bawb,

Nodyn i’ch hysbysu y bydd y Brifysgol yn dychwelyd i’r drefn arferol yfory (Dydd Gwener, 18 Tachwedd) yn dilyn difrod y storm heddiw.

Rwyf yn ddiolchgar iawn i holl staff Bywyd Campws, Iechyd a Diogelwch ag Ystadau sydd wedi asesu’r holl ddifrod. Mae pob ymdrech wedi ei gwneud i sicrhau bod pob ardal yn ddiogel.

Os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl, ffoniwch y gwasanaeth diogelwch campws ar 2900 neu 01970 622900 a chymerwch ofal.

Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth yn ystod diwrnod anarferol iawn - ond diwrnod a welodd bawb yn tynnu at ei gilydd yng ngwir ysbryd Tîm Aber unwaith eto.

Cofion cynnes

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu

Rhyddhawyd am 17:40, 17/11/16

Gwyntoedd Cryf Cyfathrebu 2

Annwyl Bawb

Mae penderfyniad wedi ei wneud i ganslo darlithoedd ar Benglais a Llanbadarn am weddill y dydd o ganlyniad i’r tywydd gwael.

Mae’r adeiladau / gwasanaethau canlynol ar gau am weddill y dydd.

  • Yr Hen Goleg
  • Y Ganolfan Chwaraeon
  • IBERS Bach
  • Brynamlwg
  • Llyfrgell Thomas Parry (Llanbadarn)
  • Blas Padarn (Llanbadarn)

Rydym yn annog myfyrwyr i ddychwelyd i'w llety cyn gynted ag y bo modd ac i aros mewn, a chadw llygad agos ar eu he-bost.

Gall staff a myfyrwyr ar gampws Gogerddan aros yno fel arfer.

Dylai staff ar Benglais a Llanbadarn ddychwelyd adre ar ôl siarad gyda’u rheolwr llinell.  Gwiriwch gyflwr y ffyrdd ac amgylchiadau teithio. Dylai unrhyw staff sydd angen parhau ar y campws aros dan do.

Wrth i chi adael y campws, byddwch yn ymwybodol o'ch hamgylchedd a thalwch sylw at unrhyw gyfarwyddiadau a roddir. Efallai y bydd rhai llwybrau a rhodfeydd ar gau.

Mae nifer o adeiladau wedi cael difrod ac mae rhai coed wedi cwympo. Mae asesiadau llawn o’r difrod yn cael eu cynnal i sicrhau bod pob man yn ddiogel.

Bydd TaMed Da yn parhau ar agor ar gyfer bwyd a dylai unrhyw un nad sy’n gallu mynd adref deimlo'n rhydd i fynd yno.

Rydym yn deall bod yr Heddlu wedi cau nifer o ffyrdd yn y dref ac mewn ardaloedd cyfagos o ganlyniad i ddifrod a achoswyd.

Sylwch hefyd ein bod yn disgwyl llanw uchel o gwmpas 10:00 heno ac rydym yn annog pawb i fod yn ofalus ar lan y môr.

Mae’r wybodaeth dywydd, traffig a theithio diweddaraf ar gael ar y gwefannau canlynol:

Byddwn yn anfon diweddariadau pellach atoch yn ystod y prynhawn. Os oes gennych unrhyw faterion sy’n achosi pryder i chi, ffoniwch 2900 | 01970 622900.

Cymerwch ofal

Rebecca Davies

Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu

Rhyddhawyd 13:50, 17/11/16

Gwyntoedd Cryf Cyfathrebu 1

Fel y gwyddoch o bosib, rydym wedi profi gwyntoedd cryf ar raddfa corwynt y bore ma.

Mae rhai adeiladau wedi cael difrod a choed wedi dymchwel mewn mannau.

Mae’r gwynt wedi gostegu erbyn hyn ond rydyn ni’n annog ein holl staff a myfyrwyr i fod yn wyliadwrus ac i gysylltu gyda staff diogelwch y campws ar 2900 | 01970 622900 os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.

Mae’n staff diogelwch yn  cynnal arolygiad llawn o'r holl safleoedd ac efallai y bydd angen i ni gau rhai adeiladau.

Rydym yn deall bod yr Heddlu wedi cau nifer o ffyrdd yn y dref o ganlyniad i ddifrod a achoswyd.

Sylwch hefyd ein bod yn disgwyl llanw uchel o gwmpas 10:00 heno ac rydym yn annog pawb i fod yn ofalus ger glan y môr.

Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y dydd, felly rydym yn gofyn i chi fonitro eich negeseuon e-bost yn ofalus am o leiaf y 24 awr nesaf.

Yn y cyfamser mae dysgu yn parhau fel arfer oni bai eich bod yn clywed yn wahanol.

Felly, cymerwch ofal a ffoniwch 2900 | 01970 622900 os oes gennych unrhyw bryderon.

Rebecca Davies

Dirprwy Is-Ganghellor, Prif Swyddog Gweithredu

Diweddariad Tywydd 1

Tywydd Gwael - Eira

Cyhoeddwyd am 12 o'r gloch brynhawn dydd Mawrth 13 Ionawr, 2015

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira yng Ngheredigion yn ystod y dydd heddiw, dydd Mawrth 13 Ionawr. Rydym yn monitro rhagolygon y tywydd a byddwn yn cylchredeg diweddariadau a chyngor i staff a myfyrwyr yn ôl y galw.

Bydd y Brifysgol yn parhau i fonitro'r rhagolygon ac yn rhyddhau diweddariadau ac arweiniad i staff a myfyrwyr yn ôl yr angen. Bydd diweddariadau parthed tywydd difrifol/anffafriol yn cael eu hanfon drwy e-bost ac yn ymddangos ar wefan y Brifysgol yn http://www.aber.ac.uk/cy/important-info/ yn ogystal â thrwy sianelau cyfryngau cymdeithasol. Cynghorir myfyrwyr a staff i fonitro'r sianelau cyfathrebu yma am gyhoeddiadau perthnasol.

Canllawiau i staff

Mae'r Polisi Amgylchiadau Eithriadol yn darparu canllawiau i reolwyr a gweithwyr ar y gweithdrefnau i'w dilyn pe bai amodau o'r fath yn codi: http://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/adverse-conditions/

Canllawiau y fyfyrwyr

Mae’r Brifysgol yn disgwyl i’r arholiadau barhau yn unol â’r amserlen. Os nad ydych yn medru cyrraedd yr arholiad oherwydd y tywydd, cysylltwch â’ch hadran academaidd yn syth.

Bydd y Brifysgol yn parhau i fod ar agor ar gyfer arholiadau oni wneir cyhoeddiad penodol drwy e-bost ac ar y wefan http://www.aber.ac.uk/cy/important-info/. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu i Radio Ceredigion, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Eich cyfrifoldeb chi yw caniatáu digon o amser er mwyn cyrraedd lleoliad yr arholiad, fodd bynnag, nid yw'r Brifysgol yn disgwyl i unrhyw fyfyriwr beryglu ei hun, naill ai yn y Brifysgol, neu wrth deithio i'r Brifysgol.

Os yw’r tywydd yn eich rhwystro rhag mynychu'r arholiad oherwydd amodau tywydd difrifol / anffafriol, dylech hysbysu ei hadran academaidd cyn gynted ag y bo modd drwy e-bost neu alwad ffôn.

Os nad ydych yn gallu sefyll arholiad oherwydd amodau tywydd difrifol / anffafriol dylech lenwi ffurflen amgylchiadau arbennig sydd ar gael ar ein gwefan http://www.aber.ac.uk/cy/academic/special-circumstances/ a’i chyflwyno i’r aelod staff penodedig yn eich adran neu adrannau.

Diolch yn fawr iawn am eich cydweithrediad.

 

Gwybodaeth am weithredu diwydiannol arfaethedig yr UCU

Mae Undeb y Prifysgolion a Cholegau, yr UCU wedi gofyn i bob un o'i aelodau i gymryd rhan mewn boicot marcio o’r 28ain Ebrill, 2014 os na fydd anghydfod cenedlaethol ynghylch tâl yn cael ei setlo.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn siomedig iawn gyda bygythiad y boicot ac unrhyw gonsýrn a achosir i’n myfyrwyr. Mae’r trafodaethau’n parhau ar lefel genedlaethol felly allwn ni ddim cadarnhau os bydd boicot ai peidio. Fodd bynnag, os bydd y boicot marcio’n mynd yn ei flaen, byddwn yn cymryd pob cam posibl i leihau ei effaith ar y myfyrwyr hynny a allai gael eu heffeithio.

Gan fod y boicot arfaethedig  hwn yn rhan o anghydfod cyflog cenedlaethol, rydym hefyd yn ymwybodol o gyngor UCEA, trafodwr y cyflogwyr, sy'n chwilio am ymateb i'r boicot ar draws y sector, os bydd trafodaethau’n methu.

 

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

C       Pam fod gweithredu diwydiannol yn digwydd a phwy fydd yn cymryd rhan?

A        Mae penderfyniadau ar godiadau cyflog ar gyfer staff mewn prifysgolion a ariennir yn gyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol yn cael eu cymryd ar lefel  genedlaethol ar draws y sector. Nid yw cyflog yn cael ei drafod yn lleol ym Mhrifysgol Aberystwyth. UCEA, Cymdeithas Cyflogwyr y Prifysgolion a Cholegau sy’n trafod cyflogau gyda'r undebau ar ran mwyafrif y prifysgolion.

 

C       Felly, pa fath godiadau cyflog staff wedi cael?

A        Fel aelod o UCEA, cytunodd Prifysgol Aberystwyth mai canlyniad y trafodaethau cyflog eleni fyddai cynnydd o 1% i bob gweithiwr. Yn dilyn argymhelliad pellach gan UCEA, cafodd y taliad hwn ei wneud i gydweithwyr ar ddiwedd Ionawr 2014, wedi'i ôl-ddyddio i fis Awst 2013.

Er bod yr UCU yn awgrymu bod cyflogau wedi cael eu dibrisio, mewn gwirionedd  mae codiadau cyflog blynyddol rheolaidd wedi bod. Yn ystod blynyddoedd academaidd 2012/ 13 a 2013/14 gwelwyd cynnydd o 2.3% mewn cyflogau yn sgìl cynyddrannau, pwyntiau cyfrannu a dyrchafiadau, a hynny ar ben y cynnydd cyflog cenedlaethol o 1%. Golyga hyn fod tâl ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cynyddu 3.3% ar gyfartaledd am bob un o’r ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn ogystal â’r cynnydd o 1% , mae llawer o staff yn derbyn cynyddrannau blynyddol, sy'n golygu bod eu cyflog yn codi oherwydd eu bod wedi gweithio i ni am flwyddyn arall, ac felly’n dringo un pwynt ar y raddfa gyflog.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi cymryd nifer o benderfyniadau yn annibynnol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd bellach yn golygu y gall y broses ddyrchafu ar gyfer staff academaidd gydnabod rhagoriaeth mewn addysgu yn ogystal ag ymchwil fel y brif sail ar gyfer dyrchafiad.

Gall pob aelod o staff yn awr wneud cais am Gynyddrannau neu Bwyntiau Cyfrannu ychwanegol, sydd hefyd yn golygu cynnydd mewn cyflog, os yw eu hadolygiad datblygiad blynyddol yn dangos eu bod wedi gwneud cyfraniad eithriadol.

Mae'r newidiadau hyn i gyd yn sicrhau bod ein staff academaidd a chymorth rhagorol ac ymroddedig, sydd mor bwysig i brofiad cadarnhaol y myfyrwyr yma, yn derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith.

 

C       Pam na all rheolwyr Prifysgol Aberystwyth eistedd i lawr gyda'r Undebau i ddatrys yr anghydfod?

A        Gan fod yr Undebau Llafur a’r Brifysgol yn rhan o'r fframwaith trafod genedlaethol, nid ydym yn gallu dod i ateb yn lleol a fyddai'n osgoi gweithredu streic.

 

C       Beth mae Aberystwyth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r boicot arfaethedig?

A        Mae'r boicot arfaethedig yn rhan o weithredu diwydiannol parhaus gan UCU sydd wedi gweld staff yn Aberystwyth a phrifysgolion eraill yn streicio dros faterion cyflogau. Bu chwe streic ar draws y Deyrnas Gyfunol ers mis Hydref 2013. Yn Aberystwyth, mae'r tarfu yn sgil gweithredu wedi bod yn fach iawn. Nid yw rhan fwyaf o'r staff yn aelodau o'r Undeb, ac nid yw pob aelod o’r Undeb yn dewis gweithredu, felly bydd effaith y boicot marcio - os bydd yndigwydd- yn amrywio mewn prifysgolion gwahanol ac mae’n anodd ei ragweld.

Rydym wedi gweld boicot marcio yn y sector yn y gorffennol a gallwn ddibynnu ar brofiad y gorffennol wrth lunio a chytuno ar ffyrdd o reoli marcio fel ei fod yn cael cyn lleied â phosibl o effaith. Mae gennym fecanweithiau ar waith i gytuno ar ffyrdd gwahanol o weithio’n gyflym iawn os bydd angen, ac mae pawb yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu achosion o fyfyrwyr sydd ar fin graddio yn yr haf.

 

C       Ydw i'n dal i gyflwyno  fy ngwaith?

A        Ydych, nid yw'r boicot marcio i fod i ddechrau tan 28 Ebrill ac mae'r Brifysgol yn croesawu trafodaethau parhaus rhwng UCEA a'r Undebau. Dylech gyflwyno eich gwaith fel arfer, gan gynnwys traethodau hir.

 

C       A fydd fy arholiadau yn digwydd?

A        Bydd yr arholiadau yn mynd yn eu blaen yn ôl yr amserlen. Rydym yn cydnabod y gallai’r gweithredu a gynlluniwyd hwn ddigwydd yn ystod y cyfnod marcio arholiadau a bod hyn yn peri pryder i rai ohonoch. Rydym yn gobeithio y ceir cytundeb er mwyn osgoi'r boicot arfaethedig. Os nad yw hynny’n digwydd, a bod y boicot yn mynd yn ei flaen, bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i gymryd pob cam posibl i leihau ei effaith ar y myfyrwyr hynny a allai gael eu heffeithio.

 

C       Dw i ar fy mlwyddyn olaf, fyddai’n gallu graddio?

A        Rydym yn trefnu ein dyddiadau graddio nawr, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i ddathlu eich cyflawniadau. Nodwch nad yw'r Brifysgol yn gwybod faint o staff fyddai’n dewis cymryd rhan yn y boicot marcio ac rydym yn gweithio’n ddiwyd ar atebion posibl pe bai’r boicot yn mynd yn ei flaen. Fel gyda phob gweithredu diwydiannol blaenorol, ein blaenoriaeth yw lleihau aflonyddwch a sicrhau parhad busnes fel arfer ac yn benodol,  gwasanaethau i fyfyrwyr lle bynnag y bo modd. Mae’r boicot hwn yn rhan o anghydfod cyflog cenedlaethol ac felly rydym hefyd yn ymwybodol o gyngor UCEA, trafodwr y cyflogwyr, sy'n chwilio am ymateb ar draws y sector i'r boicot, os bydd trafodaethau’n methu.

 

C       Sut fyddai’n  clywed beth sy'n digwydd nesaf?

A        Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau drwy e-bost, ac rydym yn bwriadu cynnal sesiwn Holi ac Ateb i fyfyrwyr. Rydym yn disgwyl bod mewn cysylltiad yn gynnar ym mis Ebrill.

Diweddariad Tywydd - 13/2/14

Rhyddhawyd 08:20, 13/2/14

Annwyl Gyfaill,

Bydd y campysau ac adeiladau yn ailagor am 8.45am y bore yma.

Gan fod coed wedi cwympo, bydd maes parcio Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.

Mae peth brigiau a malurion ar hyd y llwybrau ar bob campws a bydd rhai dargyfeiriadau i ffyrdd fel y gellir mynd ati i glirio.

Os byddwch angen cymorth, cysylltwch â llinell gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900. 

Byddwch yn ofalus a diolch i chi am eich cefnogaeth a chymorth parhaus.

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Gwasanaethau Staff a Myfyrwyr)

Yr Athro John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr)

Diweddariad Tywydd ar gyfer Myfyrwyr - 12/2/14

Rhyddhawyd 20:41, 12/2/14 

Annwyl fyfyriwr,

Diweddariad tywydd

Rydym yn falch i ddweud ei bod hi’n awr yn ddiogel i fyfyrwyr sydd yn byw mewn ystafell sy’n wynebu’r môr ac yn byw mewn llety Glan Môr i ddychwelyd i’w llety.

Cofiwch fod y môr yn parhau i fod yn beryglus, ac fe all rhannau o’r Prom fod yn beryglus tra bod Cyngor Sir Ceredigion yn clirio’r ardal.

Os ydych yn byw yn un o’r Neuaddau Glan Môr, gofynnir i chi barhau i ddefnyddio’r fynedfa/allanfa yng nghefn yr adeilad nes y byddwch yn clywed fel arall.

Campws Penglais

Bydd maes parcio Gwleidyddiaeth Rhyngwladol wedi cau yn y bore wrth i staff weithio i glirio coed sydd wedi syrthio.

Bydd cydweithwyr yng Ngwasanaethau’r Campws yn gweithio i sicrhau bod coed sydd wedi syrthio yn cael eu symud yn ddiogel.  Nid ydym yn rhagweld unrhyw amharu ar weithgareddau dysgu, ond fe efallai y byddwn yn gofyn i chi ddefnyddio mynedfa wahanol, tra byddwn yn asesu’r difrod.

Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda llety, neu os oes unrhyw ddifrod i’ch eiddo, cysylltwch â rhif cymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900.

Diolch yn fawr iawn i’r holl fyfyrwyr, staff a gwirfoddolwyr am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad.

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Gwasanaethau Staff a Myfyrwyr)

John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr)

 

Diweddariad Tywydd ar gyfer Staff - 12/2/14

Rhyddhawyd 20:27, 12/2/14

Annwyl Gydweithiwr,

Diolch i chi am eich cefnogaeth a chymorth parhaus.

Mae ein gwybodaeth ddiweddaraf yn dangos y bydd y gwyntoedd niweidiol yn gostegu dros nos.

Rydym yn ddiolchgar i staff Gwasanaethau’r Campws sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod ein hadeiladau, staff a myfyrwyr yn ddiogel.

Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwybod faint o ddifrod sydd ar y campws tan bore fory felly i gynorthwyo ein cydweithwyr, ni fydd y campysau ac adeiladau yn ailagor tan 8:45.

Gan fod coed wedi cwympo, bydd maes parcio Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar gau hyd nes y clywir yn wahanol. Mae llwybr troed Pantycelyn, sy’n rhedeg yn gyfochrog â Rhiw Penglais hefyd yn anhygyrch. Mae hefyd yn bosibl y bydd rhai gwyriadau yn eu lle.

Rydym yn gofyn i chi ddarllen eich e-bost cyn cychwyn rhag ofn bod y sefyllfa wedi newid.

Byddwn yn parhau i fonitro'r rhagolygon y tywydd.

Os byddwch angen cymorth brys, cysylltwch â llinell gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900 neu anfonwch e-bost argyfwngstaff@aber.ac.uk

Byddwch yn ofalus.

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff) 

Professor John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr)

 

 

Rhybudd Tywydd Garw - diweddariad - 12/2/14

Rhyddhawyd 17:01, 12/2/14 

Annwyl Fyfyriwr,

Yn dilyn ein e-bost yn gynharach heddiw, rydym yn falch o’ch hysbysu fod yr wybodaeth bresennol yn nodi nad oes angen i ni ofyn i chi adael eich llety glan môr na llety sector breifat yng nghanol y dref yn llwyr

Fodd bynnag, yn dilyn cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gadw draw o ardaloedd glan môr oherwydd malurion a gwyntoedd cryfion, rydym yn cau llofftydd a cheginau sy’n wynebu’r môr rhag ofn.

Ni fydd mynediad i unrhyw ystafelloedd sy’n wynebu’r môr rhwng 6yh a 9yh dros gyfnod y llanw uchel.

Os ydych yn byw mewn ystafell sy’n wynebu’r môr yn un o neuaddau Glan Môr y Brifysgol, neu lety preifat ar lan môr, ewch i ystafell ffrind neu i gegin yn yr adeilad sydd ddim yn wynebu’r môr.

Os nad ydy hyn yn bosib, bydd gwasanaeth bws mini o faes parcio Tŷ Gwerin i Tamed Da ar Gampws Penglais. Bydd bysiau ar gael i’ch cludo am 5:30yh o faes parcio Tŷ Gwerin ac yn eich dychwelyd i lan y môr tua 9yh.

Gofynnwn i chi ein helpu ni i’ch helpu chi drwy beidio mynd i unrhyw ystafell sy’n wynebu’r môr rhwng 6yh nes 9yh.

I fyfyrwyr sydd ddim yn byw mewn llety sy’n wynebu’r môr:

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â Chyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru ac fe fyddwn yn dod i gysylltiad â chi eto os bydd y sefyllfa yn newid.

Yn y cyfamser, gofynnwn i chi gymryd gofal ac arhoswch dan do.

Os ydych yn byw yn un o neuaddau Glan Môr, gofynnir i chi barhau i ddefnyddio’r mynedfeydd/allanfeydd wrth gefn y neuadd gan fod y Swyddfa Dywydd yn rhagweld gwyntoedd hyd at 100mya. 

Er nad ydym o’r farn y bydd angen i chi adael eich llety dros nos, rydym yn awgrymu y dylech barhau i gadw bag dros nos yn barod, rhag ofn i’r sefyllfa newid ac y bydd angen i chi adael eich llety ar fyr rybudd.

Nodwch ein bod yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa.

Os bydd angen cefnogaeth arnoch, cysylltwch â rhif argyfwng 24awr y Brifysgol ar 01970 622900.

Byddwch yn ofalus.

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff)

Professor John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr)

 

Diweddariad Tywydd - 12/2/14

Rhyddhawyd 15:41, 12/2/14

Annwyl Staff/Fyfyriwr,

Diweddariad

Gofynnir i fyfyrwyr sy'n byw yn neuaddau’r Brifysgol i ddychwelyd i'w llety ac aros dan do nes bod y gwyntoedd cryf wedi gostegu.

Gwnewch yn siwr fod y llenni a’r ffenestri yn eich ystafell ac yn yr ardaloedd a rennir ar gau ac yn aros ar gau, gan y gall nerth y gwyntoedd hyn achosi difrod i ffenestri a chanu’r larymau tân.

Dylai myfyrwyr sy’n byw mewn llety ar lan y môr gadw llygad barcud ar eu Ebost gan y byddwn o bosib yn cysylltu â chi cyn y llanw uchel heno.

Yn y cyfamser, byddwch yn ofalus a chadwch yn glir o lan y môr.

Os ydych yn aelod staff neu’n fyfyriwr sy’n methu mynd adref, dewch i Tamed Da.

Os byddwch angen unrhyw gymorth pellach, ffoniwch llinell gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900. Gallwch ebostio tywydd@aber.ac.uk hefyd.

Byddwch yn ofalus,

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Gwasanaethau Staff a Myfyrwyr)

Yr Athro John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol)

 

GWEITHREDU AR UNWAITH - 12/2/14

Rhyddhawyd 14:45, 12/2/14

Annwyl gydweithiwr a myfyrwyr,

Mae’r rhybudd COCH am y gwyntoedd cryfion yn dal mewn grym ar hyd yr arfordir, ac yn debygol o aros felly hyd at 9pm heno.

Rydym yn cynghori staff a myfyrwyr i adael ein campysau cyn gynted ag y gallwch fel eich bod yn cyrraedd adref cyn iddi dywyllu. Bydd gwasanaethau llyfrgell yn cau am 3:30 pm a bydd yr holl adeiladau academaidd yn cau erbyn 4pm. Byddwch yn ofalus wrth i chi wneud eich taith adref.

Rydym yn ymwybodol bod coeden eisoes wedi disgyn ar rhiw Penglais fel sydd wedi  digwydd mewn rhannau eraill o'r sir.

Gallwch ddarllen y wybodaeth traffig a theithio diweddaraf yma http://www.bbc.co.uk/travelnews/midwales

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ein cynghori bod ysgolion ar hyd yr arfordir yn gwahodd rhieni i ddod i gasglu eu plant yn gynnar. Rydym yn ymwybodol bod gan rai staff a myfyrwyr gyfrifoldebau gofalu am blant yn yr ysgol ac efallai y bydd angen ichi adael yn gynnar y prynhawn yma.

Rhaid i staff sydd angen gadael yn gynnar gysylltu â'u Pennaeth Adran neu gynrychiolydd enwebedig cyn gynted ag y bo modd.

Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.metoffice.gov.uk/public/weather/warnings/#?tab=map&map=Warnings&zoom=5&lon=-3.50&lat=55.50&fcTime=1392163200

Byddwch yn ofalus,

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Myfyrwyr a Gwasanaethau Staff)

Yr Athro John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol)

 

Rhybudd Tywydd Coch - 12/2/14

Rhyddhawyd 13:22, 12/2/14 

Annwyl Fyfyrwyr a Chydweithwyr,

Rhybudd Tywydd Coch

Mae rhybudd tywydd coch ar gyfer ardal Ceredigion ar hyn o bryd. Os gwelwch yn dda gweler y ddolen isod.

Disgwyl y Storm i daro rhwng 13:30-21:00 heddiw.

http://www.metoffice.gov.uk/public/weather/warnings/#?tab=warnings&regionName=nw

Bydd y Brifysgol yn monitro’r sefyllfa ac yn rhyddhau unrhyw ddiweddariad pan fydd mwy o wybodaeth i law.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei gylchredeg y prynhawn yma unwaith y byddwn wedi derbyn y diweddaraf oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Er gwybodaeth hefyd  mae Network Rail wedi atal teithio ar y lein rhwng Machynlleth ac Aberystwyth tan o leiaf 20:00 heno.

Os ydych yn bwriadu teithio prynhawn yma neu heno, cymerwch ofal. Yn yr un modd, cadwch yn glir o’r Prom a glan môr.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i edrych ar eich e-bost Prifysgol yn rheolaidd. Bydd diweddariadau rheolaidd ar gael hefyd ar www.aber.ac.uk/cy/important-info/notices, ar dudalennau Facebook y Brifysgol www.facebook.com/aberystwyth.university a chyfrif Twitter y Brifysgol @prifysgol_aber/ www.twitter.com/Prifysgol_aber.

Os byddwch angen unrhyw gymorth pellach gyda'ch llety, cysylltwch â llinell gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900 neu galwch draw i Dderbynfa Campws Penglais.

Byddwch yn ofalus.

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Myfyrwyr a Gwasanaethau Staff)

Yr Athro John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol)

Diweddariad Tywydd - Dydd Llun 3 Chwefror

Bwletin 7
Rhyddhawyd: Dydd Llun 3 Chwefror 11.45yb

Annwyl Fyfyriwr,

Rydym yn falch i'ch hysbysu ei bod hi'n ddiogel i fyfyrwyr yn y Neuaddau Glan y Môr i ddychwelyd i'w llety.

Os ydych yn dal i fod adref, neu i ffwrdd o Aberystwyth, mae hi nawr yn ddiogel i chi ddychwelyd i'r Brifysgol. Fodd bynnag, gan fod y tywydd garw'n parhau i effeithio ar wahanol rannau o'r wlad, rydym yn eich cynghori i gadarnhau gyda chwmniau trenau/ bws lleol a manylion ffyrdd cyn dechrau ar eich taith.

Cofiwch fod y môr yn parhau i fod yn beryglus, a gall rhannau o'r Prom fod yn beryglus tra bydd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i lanhau.

Os ydych yn byw yn llety Glan y Môr, dylech ddefnyddio mynedfeydd/allanfeydd cefn y preswylfeydd Glan y Môr nes y nodir yn wahanol, tra bod y Cyngor yn gwneud y gwaith glanhau. Os cafoch lety dros dro gan y Brifysgol, rhaid i chi ddychwelyd eich allwedd i'r dderbynfa ym Mhenbryn cyn dychwelyd i'ch llety Glan y Môr.

Er gwybodaeth, yn ystod y penwythnos, hysbyswyd y Brifysgol bod angen gweithredu ar unwaith oherwydd llifogydd llanw a fyddai wedi golygu symud myfyrwyr Preswylfeydd Glan y Môr i le diogel ar o leiaf bedwar achlysur gwahanol dros y penwythnos; ar fore Sadwrn (07:00), nos Sadwrn (10:00), nos Sul ac am 8:30 ar fore Llun. Byddai hyn wedi arwain at orfod symud myfyrwyr dro ar ôl tro.

Fel arwydd o ddiolch i chi am eich cefnogaeth a chydweithrediad, rydym yn falch i ymestyn y pecyn pryd penwythnos ar gyfer ein myfyrwyr sydd wedi eu hadleoli hyd amser cinio heddiw. Mae cinio ar gael yn Tamed Da rhwng 12-2. Os oes angen cymorth arnoch wrth deithio yn ôl i Lan y Môr, rydym wedi trefnu bws a fydd yn gadael safle bws Campws Penglais am 1.30 heddiw. Bydd y bws 03 hefyd yn rhedeg fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr adleoli, ac yr hoffech siarad ag aelod o staff, galwch yn Medrus 4 rhwng 12 a 1.30 heddiw.

Bydd yr holl weithgareddau dysgu yn ailgydio’n amserlen arferol yfory (dydd Mawrth).

Cofiwch fod y môr yn parhau i fod yn beryglus, a gall rhannau o Lan y Môr fod yn beryglus tra bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud y gwaith glanhau.

Os byddwch angen unrhyw gymorth pellach gyda'ch llety, cysylltwch â llinell gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900.

Diolch yn fawr i'r holl fyfyrwyr, staff a gwirfoddolwyr am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y dyddiau diwethaf.

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Myfyrwyr a Gwasanaethau Staff)

Yr Athro John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol)

Diweddariad Tywydd garw: Dydd Sul 2 Chwefror

Bwletin 6
(Rhyddhawyd 12:30, Dydd Sul 2 Chwefror 2014)

 

Annwyl Fyfyriwr,

Diweddariad Tywydd - Dydd Sul 12:30yp

Diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad yn ystod llanw uchel a thywydd stormus y penwythnos.

Rydym yn disgwyl llanw uchel eto, sydd gryn dipyn yn uwch na'r rhai yn gynnar ym mis Ionawr, a gwyntoedd cryfion heno. O’r herwydd mae Llety Glan y Môr yn parhau i fod ar gau heddiw.

Ar hyn o bryd mae staff y Brifysgol yn asesu'r difrod yn sgìl stormydd neithiwr ac yn gwneud gwaith atgyweirio. Hoffem eich sicrhau nad yw eich ystafell wely wedi ei difrodi.

Os ydych wedi teithio o Aberystwyth am y penwythnos, ac yn byw yn un o Neuaddau Glan y Môr y Brifysgol, gofynnwn i chi beidio teithio yn ôl i Aberystwyth tan brynhawn yfory (dydd Llun).

O ystyried rhagolygon y tywydd ac ystod y llanw, rydym yn cynllunio i’ch caniatáu i ddychwelyd i’ch llety Prifysgol Glan y Môr ar brynhawn dydd Llun. Bydd pob gweithgaredd dysgu yn dychwelyd i’r drefn arferol ddydd Mawrth.

Rydym yn rhagweld y bydd y diweddariad e-bost nesaf yn cael ei anfon atoch ganol bore yfory. Gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i edrych ar eich e-bost Prifysgol yn rheolaidd. Bydd diweddariadau rheolaidd ar gael hefyd ar www.aber.ac.uk/cy/important-info/notices, ar dudalennau Facebook y Brifysgol www.facebook.com/aberystwyth.university a chyfrif Twitter y Brifysgol @prifysgol_aber/ www.twitter.com/Prifysgol_aber.

Os byddwch angen unrhyw gymorth brys arnoch, cysylltwch â llinell gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900 neu galwch draw i Dderbynfa Campws Penglais.

Byddwch yn ofalus.

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Myfyrwyr a Gwasanaethau Staff)

Yr Athro John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol)

Rhybudd Tywydd Garw - 30 Ionawr 2014

Bwletin 1
Rhyddhawyd 10.30 y bore, Dydd Iau 30 Ionawr 2014

Annwyl Fyfyriwr ,

Mae’r neges hon yn cynnwys diweddariad ar gyfer pob myfyriwr ac yn ymwneud â chanslo gweithgareddau dysgu a gwybodaeth bwysig iawn i fyfyrwyr sydd yn byw ar lan y môr. Bydd angen ichi weithredu.

Yn dilyn cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ceredigion, a rhagolygon o lanw uchel a gwyntoedd cryfion ar gyfer dydd Gwener 31 Ionawr ac yn ystod y penwythnos, mae'r Brifysgol wedi penderfynu canslo POB gweithgaredd dysgu ar ddydd Gwener 31 Ionawr a dydd Llun 3 Chwefror, 2014.

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y llanw uchel  a’r gwyntoedd cryfion a ragwelir yn gwneud ardal y Prom yn lle peryglus y penwythnos hwn. Cadwch draw o lan y môr yn ystod y penwythnos hwn.

Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr sy'n byw yn llety’r Brifysgol ar y lan y môr, neu mewn llety preifat sy’n uniongyrchol ar lan y môr, neu ar y ffordd  yn union y tu ôl  iddo:

Er mwyn sicrhau eich diogelwch yn ystod y llanw uchel a thywydd stormus, bydd llety Glan y Môr y Brifysgol yn cau am 4pm ar ddydd Gwener 31 Ionawr hyd nes y byddwch yn clywed yn wahanol. Gall hyn fod yn Ddydd Llun 3 Chwefror.

Prif flaenoriaeth y Brifysgol yw sicrhau eich diogelwch, ac, os ydych yn fyfyriwr sy’n byw yn ardal glan y môr a effeithir, rydym yn gofyn i chi hysbysu’r Brifysgol o’ch dewis am lety arall gan nodi un o’r canlynol mewn e-bost at tywydd@aber.ac.uk:

  • Rwyf am i’r Brifysgol ddarparu llety arall a phrydau bwyd i fi ar gampws Penglais ;
  • Byddaf yn trefnu i aros gyda ffrindiau neu deulu yn ardal Aberystwyth ac ni fydd angen prydau bwyd arnaf;
  • Byddaf yn trefnu i aros gyda ffrindiau neu deulu yn ardal Aberystwyth a bydd angen prydau bwyd arnaf;
  • Rwy’n bwriadu teithio o Aberystwyth y penwythnos hwn.

Gwnewch yn siwr eich bod wedi nodi eich penderfyniad/dewis mewn e-bost at tywydd@aber.ac.uk erbyn 1.00 prynhawn yma (dydd Iau 30 Ionawr) er mwyn i aelodau staff allu gwneud y trefniadau angenrheidiol.

Gofynnwn i chi beidio anfon eich cwestiynau at yr e-bost uchod. Bydd Cwestiynau a Ofynnir yn Aml yn ymddangos yn fuan ar  www.aber.ac.uk/cy/important-info.

Os ydych yn byw yn yr ardal sydd wedi ei heffeithio ac yn penderfynu teithio adre neu i ffwrdd o Aberystwyth y penwythnos hwn oherwydd y tywydd gallwch gynllunio eich taith drwy ddefnyddio gwefan Traveline Cymru www.traveline-cymru.info sy’n cynnig amserlenni bysiau a threnau diweddaraf.

Oes modd i chi brynu eich tocyn eich hun (i ran arall o’r Deyrnas Gyfunol) gwnewch hynny a chadwch bob derbynneb er mwyn hwyluso ad-dalu costau teithio sy’n gysylltiedig gyda gofyn i bobl adael Preswylfeydd Glan Môr.

Os nad ydych yn gallu talu am daith adre a bod angen cymorth arnoch, ewch i Dderbynfa Penbryn lle bydd aelod o staff yno i’ch cynorthwyo i brynu eich tocyn.

Bydd y Brifysgol mewn cysylltiad rheolaidd â'r holl fyfyrwyr yn ystod y penwythnos i roi gwybod i chi pryd  y bydd hi’n ddiogel i chi ddychwelyd i’ch llety, a byddwn yn gwneud hynny cyn gynted ag y bo modd.

Byddwn hefyd yn darparu diweddariadau drwy e-bost y Brifysgol, ar lein ar www.aber.ac.uk/cy/important-info tudalen Facebook  y brifysgol www.facebook.com/aberystwyth ac ar gyfrif Twitter y Brifysgol  @Prifysgol_Aber / www.twitter.com/Prifysgol_Aber.

Os oes angen help ar frys ar unrhyw adeg, cysylltwch â rhif argyfwng 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900. Rhowch y rhif hwn yn eich ffôn symudol nawr.

Byddwch yn ofalus.

Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor, Gwasanaethau Staff a Myfyrwyr

Yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol

Tywydd Eithafol - Cwestiynau Cyffredin Tywydd Garw - 30 Ionawr 2014

Bwletin 2
(Rhyddhawyd 12:30, Dydd Iau 30 Ionawr 2014)
(Diweddarwyd: 15:30, Dydd Gwener 31 Ionawr 2014)

Mae gen i le i aros, a oes angen i mi ddweud wrth y Brifysgol?

Oes, rhowch wybod i'r Brifysgol drwy e-bostio tywydd@aber.ac.uk. Mewn achos o argyfwng bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gwybod ble fyddwch chi a bydd hefyd yn helpu'r Swyddfa Llety i gynllunio faint o welyau ychwanegol sydd angen.

Os byddaf yn derbyn y cynnig o Lety Prifysgol a fydd rhaid i mi rannu ystafell gyda myfyrwyr eraill?

Bydd y rhan fwyaf o'r llety brys yr ydym yn gallu darparu naill mewn ystafelloedd gwely neu ystafelloedd cysgu a rennir, yn dibynnu ar y nifer o fyfyrwyr sydd angen llety.

Ble fydd yr ystafelloedd cysgu?

Byddwn yn trefnu ystafelloedd cysgu yng Nghawell Chwaraeon y Brifysgol. 

Dw i am fanteisio ar y cynnig o lety a phrydau bwyd ac yn awyddus i rannu gyda ffrind?

Nodwch hyn yn eich ymateb ar e-bost i tywydd@aber.ac.uk,  ynghyd ag enw llawn ac enw defnyddiwr y ffrind yr ydych am rannu llety. Gwnewch yn siŵr eu bod nhw hefyd yn eich enwebu fel y cyfaill y byddent yn hoffi rhannu.

Pryd fyddai’n gwybod pa lety sydd ar fy nghyfer?

Bydd y Swyddfa Llety yn ymateb i'r negeseuon e-bost a anfonwyd at tywydd@aber.ac.uk yn y drefn y maent yn cael eu hanfon. Byddwch yn derbyn e-bost gan y Swyddfa Llety yn cadarnhau trefniadau cyn gynted ag y bo modd.

Mae gen i le arall i aros, ond dydw i ddim eisiau gorfod gofyn iddynt goginio i mi hefyd - beth alla’i wneud?

Anfonwch e-bost at tywydd@aber.ac.uk a rhoi gwybod i ni eich bod angen y pecyn pryd penwythnos. Os ydych yn dewis yr opsiwn hwn, byddwn yn e-bostio manylion am amseroedd prydau bwyd a sut i hawlio eich lwfans prydau chi. Bydd yr holl brydau bwyd yn cael eu darparu yn Tamed Da ym Mhenbryn , ar Gampws Penglais.

Beth sydd angen i mi ei bacio?

Paciwch fag bach, fel pe baech yn mynd i ffwrdd am y penwythnos. Os oes gennych sach gysgu, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â hi gyda chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio unrhyw feddyginiaeth a dogfennau pwysig y gall fod eu hangen arnoch yn nes ymlaen. Mae ein cyfleusterau storio diogel yn brin felly cadwch hyn mewn cof wrth bacio. Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld y bydd hi’n dydd Llun o leiaf hyd nes y byddwch yn gallu dychwelyd i’ch llety. Pwysig - Ni fyddwch yn cael mynd yn ôl i mewn i'r llety yn ystod y cyfnod gwacáu i gasglu unrhyw eiddo yr ydych wedi anghofio ei bacio.

Fydd angen i fi ddod â fy nillad gwely ?

Os oes sach gysgu gyda chi, dewch â hi gyda chi. Os na, bydd y Brifysgol yn darparu dillad gwely.

Faint o'r gloch bydd rhaid i mi adael fy ystafell ar ddydd Gwener?

Bydd holl Breswylfeydd Glan y Môr y Brifysgol yn cau am 4pm ar ddydd Gwener 31 Ionawr nes y clywir yn wahanol. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud trefniadau arall a gadael eich ystafell erbyn yr amser hwn. Cofiwch gau eich llenni (os ydych yn byw mewn ystafell sy'n wynebu'r môr) a chlowch ddrws eich ystafell .

Pryd byddai’n cael mynd yn ôl i mewn i fy llety Prifysgol?

Ni allwn roi dyddiad nac amser pendant pryd y byddwch yn gallu dychwelyd i'r llety Glan y Môr. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ceredigion a byddwn yn monitro'r sefyllfa  awr -wrth - awr. Mae'r rhagolygon am lifogydd llanw a thywydd stormus ar gyfer y penwythnos cyfan hyd at ddydd Llun 3 Chwefror. Nid ydym yn gallu rhagweld beth fydd y difrod posib ond rydym yn cymryd camau rhesymol i sicrhau diogelwch ein myfyrwyr a staff. Cadwch lygad ar eich cyfrif e-bost Prifysgol yn rheolaidd a’r diweddariadau ar wefan y Brifysgol yn: www.aber.ac.uk/cy/important-info/

Tudalen facebook : www.facebook.com/aberystwyth.university 

Twitter tudalen : @Prifysgol_Aber www.twitter.com/Prifysgol_aber.

Pam fod yr holl weithgareddau dysgu wedi eu canslo ar ddydd Gwener a dydd Llun ? Dw i ddim yn byw ar lan y môr ac mae fy holl ddarlithoedd ar Penglais.

Mae cyfran sylweddol o'n myfyrwyr yn byw ar lan y môr ac mewn llety preifat yn y dref. Mae rhai staff y Brifysgol hefyd yn byw yn yr ardaloedd a allai gael eu heffeithio gan y llanw uchel.  Er mwyn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn cael mynychu’r un darlithoedd a seminarau , byddwn yn darparu manylion ar y darlithoedd /seminarau a gollwyd maes o law.

Sut ydw i'n hawlio ar gyfer fy nhocyn bws/trên?

Os ydych yn gallu prynu eich tocyn hun (i leoliad sydd ddim wedi ei effeithio yn y Deyrnas Gyfunol), gwnewch hynny a chadwch bob derbynneb, gan y bydd hyn yn hwyluso ad-dalu costau teithio sy'n gysylltiedig â gorfod gadael Preswylfeydd Glan y Môr. Os nad ydych yn gallu fforddio teithio adref, ac angen cymorth, ewch i Dderbynfa Penbryn lle bydd aelod o staff yn gallu eich cynorthwyo i brynu’ch tocyn.

Does gen i ddim arian, ac ni allaf fforddio i fynd adref?

Cysylltwch ag aelod o staff yn y Dderbynfa ym Mhenbryn i drefnu llety arall yn Aberystwyth. Bydd pecyn pryd penwythnos hefyd ar gael yn Tamed Da.

Os byddaf yn mynd adref heddiw (ddydd Iau), bydd y Brifysgol yn dal i dalu?

Mae'r gefnogaeth ar gyfer teithio adref ar gael ar gyfer teithio ar ddydd Iau a dydd Gwener (30/31 Ionawr) ar gyfer y rhai sy'n byw mewn llety preifat a Phreswylfeydd y Brifysgol ar lan y môr yn unig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw pob derbynneb sy'n gysylltiedig â'ch teithio. Bydd ffurflen hawlio costau teithio y Brifysgol yn cael ei hanfon atoch maes o law.

Byddwch yn talu am fy nhanwydd i fynd adref?

Mae'r gefnogaeth ar gyfer teithio adref ar gael ar gyfer teithio ar ddydd Iau a dydd Gwener (30/31 Ionawr) ar gyfer y rhai sy'n byw mewn llety preifat a Phreswylfeydd y Brifysgol ar lan y môr yn unig. Bydd ffurflen hawlio costau teithio y Brifysgol yn cael ei hanfon atoch maes o law.

A yw'n ddiogel i mi deithio ar y trên ar ddydd Gwener?

Rydym yn annog myfyrwyr i deithio cyn gynted ag y bo modd ar ddydd Gwener i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu cyrchfan. Cadwch lygad ar rybuddion teithio a'r tywydd drwy fynd i www.bbc.co.uk / travelnews a www.nationalrail.co.uk/service_disruptions/today.aspx

Byddwch yn ofalus a rhowch wybod i ffrind am eich cynlluniau teithio.

Dw i ddim yn siwr beth i'w wneud...

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cymorth, galwch i weld y tîm Swyddfa Llety yn Mhenbryn. Os oes angen cymorth brys, ffoniwch ein rhif argyfwng 24 awr ar 01970 622900.


Tywydd Eithafol - Digwyddiadur y Penwythnos

Bwletin 4b
(Rhyddhawyd 11:30, Dydd Gwener 31 Ionawr 2014)

Os ydych yn pendroni beth i'w wneud y penwythnos hwn, mae llwyth o ddigwyddiadau y gallwch eu mwynhau.

Mae Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24 awr o ddydd Gwener 31 Ionawr tan ddydd Llun 3 Chwefror.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Dydd Gwener:

Trio Valore - cerddoriaeth fyw yn y Neuadd Fawr 8pm www.aberystwythartscentre.co.uk/music/trio-valore

Gŵyl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd - adloniant gan gynnwys canu, dawnsio, offerynnol, stondinau a pherfformiadau rhwng 6pm a 8pm yn y theatr www.aberystwythartscentre.co.uk/festivals/chinese-new-year

Dangosiadau ffilm – Hunger Games 5.45pm a Nebraska 8:15pm

www.aberystwythartscentre.co.uk/film/hunger-games-catching-fire12a      

www.aberystwythartscentre.co.uk/film/nebraska-15

Dydd Sadwrn:

Rygbi'r Chwe Gwlad

Bydd holl gemau Rygbi'r Chwe Gwlad yn cael eu dangos yn y bar.

Aberration - digwyddiad LGB, cerddoriaeth fyw, dangosiadau sinema, perfformiadau a llawer o weithgareddau bywiog . Croeso i bawb! www.aberystwythartscentre.co.uk/music/aberration

Dangosiadau ffilm - Hunger Games 2:30pm a 5:45pm a Nebraska 8:15pm

Dydd Sul:

Clwb Cerdd am 3pm  www.aberystwythartscentre.co.uk/classical-music/music-club-clwb-cerdd-5   (mynediad am ddim i fyfyrwyr) 

Perfformiadau adrodd straeon Snow Queen 2pm a 4:30pm www.aberystwythartscentre.co.uk/family/snow-queen

Sgrinio byw o Bale Bolshoi yn y sinema am 15:00 www.aberystwythartscentre.co.uk

Rygbi'r Chwe Gwlad

Bydd holl gemau Rygbi'r Chwe Gwlad yn cael eu dangos yn y bar.

Ynghyd â'r holl arddangosfeydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, bydd y caffi ar agor tan 8pm ac mae'r bar ar agor tan yn hwyr ar ddydd Gwener/Sadwrn. Mae'r caffi ar agor 12.30 - 5pm ar ddydd Sul. Mae gostyngiadau i fyfyrwyr ar gyfer llawer o'r digwyddiadau hyn.

Undeb y Myfyrwyr

Nos Iau:

Y Cwis Mawr - llawer o wobrau, llawer o hwyl.

Dydd Gwener:

Mae marathon ffilm drwy’r dydd a diwrnod cau y dyddiad trosglwyddo.

Nos Wener:

#Predrinks - Tiwns i dawelu’r storm gyda dêls diodydd – Gwenwch mae’n ddydd Gwener!

Dydd Sadwrn:

Gan ddechrau o 12.45pm, rydym yn dangos gêm WestHam v Abertawe, gyda dwy gêm rygbi 6 Gwlad i ddilyn - i gyd ar y sgriniau mawr, gyda dêls bwyd a diodydd gwych drwy gydol y dydd!

Cynnig drwy’r dydd: Sglods am ddim a bara garlleg ar hanner amser yn ystod y gemau 6 gwlad, Carlsberg a Gaymers @ £ 1.79 y peint, Cwrw a Burger @£ 3.99 (Plaen neu Gaws, Cig Eidion neu Gyw iâr), Fosters Gold @ £ 1.

Nos Sadwrn:

Bydd Jelly Wobble yn taclo’r deciau ar nos Sadwrn gyda Ed Solo, Rigdiculous, Soluable Sounds a mwy.  Noson o dalent cerddorol eithafol, pethau am ddim a mwy! Ewch i'r grŵp facebook am y lein-up llawn.

Dydd Sul:

West Brom v Lerpwl + Arsenal v Crystal Palace, a gêm 6 Gwlad!

Nos Sul:

Uchafbwynt y dydd gyda’r Superbowl am 11.30pm! Gyda bwyd a dêls diodydd hyd oriau mân y bore, does dim lle gwell i wylio'r digwyddiad Superbowl! 

Cynnig drwy’r dydd: Sglods am ddim a bara garlleg ar hanner amser yn ystod y gemau 6 gwlad, Carlsberg a Gaymers @ £ 1.79 y peint, Cwrw a Burger @£ 3.99 (Plaen neu Gaws, Cig Eidion neu Gyw iâr), Fosters Gold @ £ 1.

Dydd Llun:

Bydd wythnos Refreshers blynyddol Undeb y Myfyrwyr yn dechrau gyda'r Ffair Fasnach - llawer o bethau am ddim a BWYD AM DDIM i bob myfyriwr! Dyma eich cyfle i ddal i fyny os fethoch chi rhywbeth yn ystod wythnos y Glas.

Cynnig trwy’r dydd: 10 % i ffwrdd o Starbucks @The Cwtch, Carlsberg a Gaymers @£ 1.79 y peint =, Cwrw a Burger @ £ 3.99 (Plaen neu Gaws, Cig Eidion neu Gyw iâr), Fosters Gold @ £ 1. 


Tywydd Eithafol - Llythyron Myfyrwyr - 31 Ionawr 2014

Bwletin 4a
(Rhyddhawyd 11:30, Dydd Gwener 31 Ionawr 2014)

Llythyr myfyrwyr: ystafell gyda dau wely

Annwyl Fyfyriwr,

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad wrth i ni eich symud dros dro o’ch llety ar lan y môr y penwythnos hwn.

Rydych wedi dewis manteisio ar y cynnig o lety arall yn y Brifysgol. Rydym yn gallu cynnig llety i chi ar y campws mewn ystafell gyda dau wely. Dylech alw yn Swyddfa’r Llety yn Nerbynfa Penbryn rhwng 10yb a 2yp i gasglu eich allwedd ar gyfer yr ystafell. Os ydych wedi dewis rhannu ystafell gyda ffrind, dewch gyda’ch gilydd fel y gallwn hwyluso’r broses. Bydd ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Bydd telerau ac amodau eich Cytundeb Trwydded cyfredol yn berthnasol i'ch llety dros dro. Drwy lofnodi am eich allwedd rydych yn cytuno i’r telerau hynny yn eich llety dros dro.

Os nad ydych yn gallu dod i'r Swyddfa Llety yn ystod yr adegau dynodedig (10am a 2pm ar ddydd Gwener) e-bostiwch tywydd@aber.ac.uk i roi gwybod i ni pryd y byddwch yn gallu dod a chasglu eich allwedd/llofnodi.

Os oes gennych gar, byddwch yn cael caniatâd i barcio ym maes parcio Hafan yn rhad ac am ddim drwy gydol yr amser yr ydych yn cael eich lletya ar y campws.

Darpariaeth arlwyo ar gyfer myfyrwyr sydd wedi adleoli

Bydd myfyrwyr sydd wedi gofyn am y pecyn pryd penwythnos, yn cael band arddwrn unigryw er mwyn cael brecwast, cinio a swper yn TaMed Da ar Gampws Penglais. Dangoswch eich band arddwrn wrth y til.

Amseroedd agor ar gyfer prydau bwyd yw:
Brecwast         8:00 - 11.30yb
Cinio                12:00-2:30yp
Cinio                4:30-7:30yh

Ar gyfer eich prydau byddwn yn darparu'r canlynol:

Brecwast
Brecwast wedi'i goginio
Grawnfwydydd/ffrwythau/iogwrt
Tost
Diodydd o’r peiriannau

Cinio/Swper
Pryd 2 gwrs gyda naill ai cawl neu bwdin
Prif bryd o'r cownter poeth i gynnwys llysiau neu salad o’r bar salad
Diodydd o’r peiriannau

Llythyr myfyrwyr: pecyn bwyd penwythnos

Annwyl Fyfyriwr,

Rydych wedi dewis i fanteisio ar y cynnig o becyn bwyd penwythnos. Galwch heibio’r Swyddfa Llety yn Nerbynfa Penbryn rhwng 4yb a 5yp i gasglu eich band arddwn.

Os oes gennych gar, byddwch yn cael caniatâd i barcio ym maes parcio Hafan yn rhad ac am ddim yn ystod amseroedd bwyd.

Darpariaeth arlwyo ar gyfer myfyrwyr sydd wedi adleoli

Bydd myfyrwyr sydd wedi gofyn am y pecyn pryd penwythnos, yn cael band arddwrn unigryw ar gyfer brecwast, cinio a swper yn TaMed Da ar Gampws Penglais. Dangoswch eich band arddwrn wrth y til.

Amseroedd agor ar gyfer prydau bwyd yw:
Brecwast         8:00 - 11.30yb
Cinio                12:00 - 2:30yp
Cinio                4:30 - 7:30yh

Ar gyfer eich prydau byddwn yn darparu'r canlynol:

Brecwast
Brecwast wedi'i goginio
Grawnfwydydd/ffrwythau/iogwrt
Tost
Diodydd o’r peiriannau

Cinio/Swper
Pryd 2 gwrs gyda naill ai cawl neu bwdin
Prif bryd o'r cownter poeth i gynnwys llysiau neu salad o’r bar salad
Diodydd o’r peiriannau

Am Fwy o Wybodaeth

Os byddwch angen unrhyw gymorth pellach gyda'ch llety, cysylltwch â ni yn bersonol yn Nerbynfa Penbryn neu ar linell gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900.

Bydd diweddariadau rheolaidd ar gael ar www.aber.ac.uk/cy/important-info/, ar dudalennau Facebook y Brifysgol neu trwy www.facebook.com/aberystwyth.university neu drwy dilyn cyfrif Twitter y Brifysgol @prifysgol_aber / www.twitter.com/Prifysgol_aber

Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth a chymorth parhaus. I gael manylion am weithgareddau a chefnogaeth, gan gynnwys oriau agor estynedig y llyfrgell, ewch i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin sydd ar gael yma : www.aber.ac.uk/cy/important-info

Diolch yn fawr,

Tîm y Swyddfa Llety

Swyddfa Llety - Gwasanaethau’r Campws
Accommodation Office - Campus Services
Prifysgol Aberystwyth University
Penbryn, Penglais, Aberystwyth, SY23 3BY

Ffon/Tel (01970 62) 2984
Ffacs/Fax (01970 62) 2983


Diweddariad Tywydd Garw - Prynhawn Dydd Gwener

Bwletin 5
(Rhyddhawyd 15:30, Dydd Gwener 31 Ionawr 2014)

Annwyl Fyfyriwr,

Diolch i chi am eich cefnogaeth a chymorth parhaus.

Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa bob awr ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf sydd wedi dod i law yn rhagweld llanw eithriadol o uchel ynghyd â gwyntoedd cryfion ar gyfer nos Wener ac yn ystod y penwythnos.

Rydym yn hynod o ddiolchgar am eu cefnogaeth ac am ddeall yr angen i ganslo gweithgareddau dysgu. Bydd ein myfyrwyr yn y Neuaddau Glan Môr, sydd yn dewis aros yn Aberystwyth, yn cael eu hadleoli i lety ar Gampws Penglais y prynhawn yma.

Yr Hen Goleg
Mewn ymateb i'r trefniadau wrth gefn, bydd yr Hen Goleg yn cau i bawb o 4pm dydd Gwener 31 Ionawr  tan ddydd Sul 2 Chwefror, 2014. Mae unrhyw ystafelloedd sydd wedi eu bwcio yn ystod y cyfnod hwn wedi cael eu canslo ac mae'r unigolion sy'n gyfrifol am yr archeb wedi cael gwybod. Bydd angen i'r holl staff a myfyrwyr i adael yr adeilad erbyn 4pm, ac ni chaniateir mynediad ar ôl yr amser hwn. 

Dylai'r Hen Goleg fod ar agor fel arfer ar ddydd Llun 3 Chwefror. Fodd bynnag, gan nad ydym yn gwybod beth fydd effaith y tywydd, mae pob archeb stafell wedi eu canslo.

Y Gawell Chwaraeon a Chanolfan Chwaraeon
Mae'r Ganolfan Chwaraeon ar agor, fodd bynnag, mae’r Gawell Chwaraeon yn parhau i fod ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.

Llyfrgell Hugh Owen
Bydd Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24 awr y dydd o heddiw, dydd Gwener 31 Ionawr tan ddydd Llun, 3 Chwefror, er mwyn darparu mannau astudio diogel ar gyfer myfyrwyr o Breswylfeydd Glan y Môr sydd wedi’u hadleoli oherwydd y llanw uchel. Mae croeso i chi ddefnyddio casgliadau'r Llyfrgell, mannau astudio, cyfrifiaduron ac argraffwyr / peiriannau copïo.

Os ydych yn chwilio am rywbeth i’w wneud yn ystod y penwythnos hwn, mae nifer o ddigwyddiadau ar y campws. Rydym wedi eu rhestru yma.

Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost felly cadwch olwg ar eich cyfrif. Byddwn hefyd yn diweddaru www.aber.ac.uk/cy/important-info/notices, ein tudalennau Facebook y Brifysgol www.facebook.com/aberystwyth.university a chyfrif twitter y Brifysgol @Prifysgol_aber / www.twitter.com/prifysgol_aber

Os byddwch angen cymorth brys, neu gymorth gyda'ch llety, cysylltwch â llinell gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900 neu anfonwch e-bost tywydd@aber.ac.uk

Byddwch yn ofalus.

Rebecca Davies
Dirprwy Is-Ganghellor (Myfyrwyr a Gwasanaethau Staff)

Yr Athro John Grattan
Dirprwy Is-Ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol)


Tywydd Eithafol - Cais am Gostau Teithio Tywydd Garw - 30 Ionawr 2014

Bwletin 3
(Rhyddhawyd 15:20, Dydd Iau 30 Ionawr 2014)

Cais am gostau teithio i fyfyrwyr sy'n byw mewn llety Glan Môr y Brifysgol/preifat yn yr ardal yr effeithir arni oherwydd  tywydd garw i ardal arall o’r Deyrnas Gyfunol sydd heb ei heffeithio, ar ddydd Iau 30 Ionawr, 2014 neu ddydd Gwener 31 Ionawr, 2014 yn unig.

Ffurflen Costau Teithio Tywydd Garw