Llifogydd

Diweddariad ar y Llifogydd - Mehefin 11

4.00 y prynhawn.

Yn dilyn y llifogydd dros y penwythnos, noder y canlynol.

Adnoddau Dynol
Yn dilyn y difrod llifogydd ym Mhlas Gogerddan, mae adran Adnoddau Dynol wedi cael ei hadleoli i Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais. Trefniant byr dymor yw hyn. Gobeithir y bydd Adnoddau Dynol yn symud eto yn ystod yr wythnos nesaf i’w cartref newydd yn y Parc Gwyddoniaeth.

Dylai cydweithwyr sydd angen cysylltu â’r Adran Adnoddau Dynol wneud hynny drwy’r dulliau arferol, ceir manylion cyswllt ar y wefan http://www.aber.ac.uk/cy/hr/.

Plas Gogerddan
O ganlyniad i’r llifogydd mae Plas Gogerddan a’r tir o’i gwmpas wedi’i gau i ffwrdd am resymau iechyd a diogelwch.

Caeau Chwarae Blaendolau
Wrth i’r broses o lanhau fynd rhagddi bydd caeau chwarae Blaendolau ar gau i’r cyhoedd hyd oni y cyhoeddir yn wahanol. Gellir gweld cyhoeddiadau newydd ynghylch argaeledd y caeau ar wefan y Ganolfan Chwaraeon http://www.aber.ac.uk/cy/sportscentre/.

Meddygfa Ystwyth
Mae’r llifogydd ym Mharc y Llyn wedi gorfodi i Grŵp Meddygol Ystwyth (Meddygfa Ystwyth) i chwilio am gartref newydd dros dro. Yn dilyn cynnig oddi wrth y Brifysgol, mae’r feddygfa wedi adleoli i hen swyddfeydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar bwys Meithrinfa’r Gorwelion Newydd ar gampws Gogerddan. Gellir canfod gwybodaeth bellach ar http://www.wales.nhs.uk/sites3/home.cfm?orgid=762.

Yn olaf, carwn ddiolch i’m cydweithwyr a’r gwasanaethau brys am eu holl waith dros y 72 awr ddiwethaf. Carai’r tîm Adnoddau Dynol ddiolch, yn benodol, i’r Frigad Dân, tîm Gwasanaethau Eiddo’r Brifysgol, a’r porthorion, am achub a sicrhau diogelwch yr holl ffeiliau personol o Blas Gogerddan yn gynnar ar fore Sadwrn.

Darperir gwybodaeth bellach trwy ebost ac arlein yn y dyfodol agos. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r uchod, cyfeiriwch hwynt at cyfathrebu@aber.ac.uk.

Diweddariad ar y Llifogydd - Mehefin 10

11.00 yb

Yn dilyn y glaw trwm a’r llifogydd yn ardal Aberystwyth ddoe, mae’r tywydd nawr yn gwella ac ymddengys fod y problemau ar y ffyrdd wedi lleihau rhywfaint.

Mae’r Brifysgol yn monitro’r sefyllfa yn agos ac i’r myfyrwyr hynny sydd heb lwyddo i adael Aberystwyth, fe ddylsech gysylltu gyda Swyddfa Llety’r Brifysgol ar 01970 622900 neu drwy alw heibio'r swyddfa ym Mhenbryn.

Os ydych yn teithio heddiw, cofiwch wirio eich siwrnai arfaethedig am unrhyw ffyrdd sydd dal ar gau; ewch at dudalennau traffig BBC Cymru ar http://www.bbc.co.uk/travelnews/midwales neu http://www.nationalrail.co.uk/ am wybodaeth y trenau.

Rydym yn rhagweld y bydd y Brifysgol yn gweithredu yn ôl yr arfer yfory, Mehefin 11 a gwasanaeth rheolaidd ar gael ar brif Campws Penglais.

Diweddariad ar y Llifogydd - Mehefin 9

O ganlyniad i’r glaw trwm a’r llifogydd yn ardal Aberystwyth, hoffem ddwyn yr isod i’ch sylw.

Fe fedr pob myfyriwr aros yn ei llety tan 10.00 bore fory (Sul 10ed) yn unol a’i trwydded; rydym yn rhagweld y bydd y problemau trafnidiaeth wedi lleihau erbyn hynny. Ond os nad ydy hyn yn digwydd, fe fyddwn yn cyfathrebu unrhyw ymestyniad i’r drwydded ar y dudalen Facebook yma, cyn gynted â phosib. Os ydych yn teithio heddiw, cofiwch wirio am unrhyw lonydd sydd wedi eu cau, a dymunwn siwrne ofalus i chi i gyd.

Am y newyddion diweddaraf o’r ffyrdd, ewch at dudalennau traffig BBC Cymru am fanylion penodol, http://www.bbc.co.uk/travelnews/midwales ac i http://www.nationalrail.co.uk/ os am newyddion y trenau.