Cwestiynau Cyffredin Hawlfraint
Mae’r dudalen hon yn ymdrin â rhai o’r prif gwestiynau a phryderon sy’n ymwneud â hawlfraint ac a gyfyd o ganlyniad i waith dysgu ac addysgu beunyddiol y Brifysgol. Gwelir rhagor o fanylion ar we-ddalennau adran hawlfraint Polisïau Gwybodaeth a ddaw gyda’r dudalen hon.Cwestiynau Cyffredinol
A ydw i’n cael llungopïo tudalennau o lyfrau a chylchgronau i'm defnydd fy hun?
Ydych, rydych yn cael copïo darnau o’r rhan fwyaf o lyfrau, cylchgronau, trafodion cynadleddau ac adroddiadau cyfraith cyhyd â'i fod ddim ond yn un copi i'ch defnydd chi eich hun, a’i fod o fewn y terfynau a nodir ar y brif dudalen sy’n ymwneud â hawlfraint (http://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/copyright/). Byddwch yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw pob darn o waith yn dod o dan Drwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (Copyright Licensing Agency) - ceir manylion amdanynt ar 'Restr wedi eu Heithrio' yr Asiantaeth sydd wrth ymyl y rhan fwyaf o lun-gopiwyr - a bod deddfwriaeth ddiweddar hefyd wedi gwahardd copïo deunydd i ddibenion masnachol.
A yw hyn hefyd yn berthnasol i ddeunydd Hawlfraint y Goron?
Yn enw llywodraeth agored a heb gêl, y mae rhai categorïau o ddeunyddiau Hawlfraint y Goron wedi ildio eu hawlfraint fel y gellir copïo rhai gweithiau heb orfod ceisio caniatâd ffurfiol. Serch hynny, mae angen i chi gydnabod pob ffynhonnell. I gael rhagor o wybodaeth, gweler:http://www.hmso.gov.uk/faqs.htm
A ydw i’n cael llungopïo erthyglau papur newydd?
Ydych, rydych yn cael copïo erthyglau o bapurau newydd i ddibenion ymchwil neu astudiaeth bersonol o dan drwydded a gyflenwir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Papurau Newydd (Newspaper Licensing Agency (NLA)). Fodd bynnag, ni thrwyddedir llungopïo ffotograffau, darluniau na hysbysebion a geir mewn papurau newydd ac y mae’r drwydded yn berthnasol ddim ond i bapurau newydd cenedlaethol y Deyrnas Unedig [DU] a’r Western Mail.
A ydw i’n cael sganio tudalennau cyhoeddiad neu ddogfen at ddibenion ymchwil neu astudiaeth breifat?
Mae sganio erthygl brintiedig neu ran ansylweddol o waith printiedig yn dderbyniol o bosibl fel 'delio teg' os, er enghraifft, yw’r detholiad yn cael ei sganio ar gyfrifiadur personol i waith cwrs neu brosiect. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid oes trwydded gynhwysfawr sy’n caniatáu unigolion i wneud hyn yn benodol. I gael rhagor o ganllawiau ynglyn â chopïo’n electronig, gweler:
http://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/copyright/e-copyright/scanning/
A ydw i’n cael sganio rhan o lyfr, cylchgrawn neu ddelwedd graffig a’i roi ar wefan?
Na. Ni ellir ystyried bod gosod eitem hawlfraint na rhan ohoni ar safle rhyngrwyd, neu rwydwaith sy’n agored i’r cyhoedd, yn 'ddelio teg'. Yn wir, gellir ei ystyried fel ailgyhoeddi anghyfreithlon. Mae’n rhaid ceisio caniatâd ymhob achos.
A ydw i’n cael copïo o hen lyfr neu lyfr prin?
Y mae’n bosibl fod y gwaith dan sylw allan o hawlfraint ac, os yw hynny’n wir, gallwch gopïo ohono. Yn y rhan fwyaf o achosion, erys yr hawlfraint gyda’r awdur am 70 mlynedd ar ôl iddo/iddi farw, felly, gellir rhagdybio bod trwch helaeth y gweithiau a gyhoeddwyd cyn oddeutu 1880 allan o hawlfraint. Er hynny, gan fod y mwyafrif llethol o’r gweithiau o’r cyfnod hwn a chyn hynny naill ai’n werthfawr, yn brin, neu mewn cyflwr bregus, dylech gael cyngor gan staff Gwasanaethau Gwybodaeth ac efallai y gallant hwy gopïo’r rhan perthnasol ar eich cyfer.
CHA ar gyfer Myfyrwyr
Ai fi sydd piau’r hawlfraint yn achos fy ngwaith fy hun?
Ie, yn gyffredinol, ond nid os ydych wedi arwyddo aseiniad hawlfraint sy’n trosglwyddo pob hawlfraint i’r Brifysgol.
A ydw i’n cael cynnwys deunydd hawlfraint yn fy nhraethawd hir neu draethawd ymchwil?
Caniateir copïo i ddiben arholiad neu ymchwil neu astudiaeth breifat heb orfod cael caniatâd ymlaen llaw gan ddeiliad yr hawlfraint. Gan fod traethawd hir yn syrthio i’r ddau gategori yma, gellir rhagdybio y bydd yr ymgeisydd, o bosibl, yn cynnwys deunydd hawlfraint, a chyhyd â bod y swm a ddefnyddir yn ansylweddol, a bod cydnabyddiaeth ddigonol wedi ei rhoi, nid oes dim o’i le ar hynny. Dylid ceisio caniatâd os ydych yn bwriadu atgynhyrchu darnau sylweddol neu ddeunydd hawlfraint arall megis tablau, diagramau, lluniau neu ffotograffau.
Ydw i’n cael copïo llun o lyfr neu’r rhyngrwyd a’i ddefnyddio i wneud poster er mwyn hysbysebu clwb neu ddigwyddiad?
Na. Cyn defnyddio’r fath luniau mae’n rhaid i chi geisio hawl deiliad yr hawlfraint.
CHA ar gyfer Staff
A ydw i’n cael dosbarthu 'pecynnau astudio' i fyfyrwyr ar fodiwl arbennig?
Ydych, cewch ddosbarthu 'pecynnau cwrs' neu 'becynnau astudio' sy’n cynnwys detholiadau o lyfrau neu gylchgronau i fyfyrwyr ar unrhyw fodiwl. Ni ddylai’r detholiadau fynd dros y terfynau sefydledig ar gyfer copïo (h.y. 5%/un bennod/un erthygl ac y.y.b.). Noder na ddylai nifer y pecynnau a gynhyrchir fod yn rhagor na nifer y myfyrwyr sydd wedi eu cofrestru ar fodiwl arbennig. Y mae’r lwfans hwn yn cael ei amddiffyn gan drwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) ac ni ellid, fel arall, ddadlau ei fod yn 'ddelio teg'.
A yw hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer grwpiau o ddysgwyr o bell?
Ydy. Y mae trwydded y CLA hefyd yn berthnasol i ddysgwyr o bell.
A ydw i’n cael cynnwys erthyglau papur newydd mewn pecynnau astudio?
Ydych, ond dim mwy na 250 o gopïau. Gweler y manylion am drwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Papurau Newydd (NLA) uchod am gyfyngiadau eraill. Dylid nodi teitl y papur newydd a’r dyddiad cyhoeddi yn eglur ynghyd â datganiad yn datgan ei fod wedi ei gopïo yn unol â thelerau Trwydded yr NLA.
A ydw i’n cael copïo a dosbarthu i’m myfyrwyr ddarnau o lyfr neu gylchgrawn o’m heiddo nad yw ar gael yn llyfrgell y Brifysgol?
Ydych, ond unwaith eto, o fewn y terfynau a nodir uchod. Cofiwch hefyd nad yw trwydded y CLA yn hollgynhwysfawr. Byddwch cystal â bwrw golwg ar hysbysfyrddau neu wefan y CLA ( http://www.cla.co.uk/) er mwyn cael y rhestr ddiweddaraf o weithiau anghynwysedig a rhestr Cyhoeddwyr yr UD a warchodir gan y drwydded. Os ydych yn copïo deunydd o’ch eiddo eich hun, ni ellir wedyn gadw’r copïau hyn gyda llungopïau eraill yng Nghasgliad Benthyciadau Cyfnod Byr y Llyfrgell.
A ydw i’n cael cadw gwaith anghyhoeddedig a grëwyd gen i fy hun yn y llyfrgell er mwyn i fyfyrwyr ei ddefnyddio?
Ydych. Os ydych yn sicr mai chi sydd piau’r hawlfraint, gallwch gadw llawysgrif anghyhoeddedig o erthygl neu waith ysgrifenedig arall yn y Casgliad Benthyciadau Cyfnod Byr er mwyn i fyfyrwyr ei ddarllen, cymryd nodiadau neu gopïo ohono. Byddai’n rhaid i chi nodi i ba raddau y gallai myfyrwyr gopïo o’r gwaith ac ni fyddai’n bosibl ei roi ar fenthyg. Byddai’n rhaid mynd â’r gwaith o’r llyfrgell cyn ei gyhoeddi gan y byddai’r hawlfraint, wedyn, yn cael ei drosglwyddo i’r cyhoeddwyr.
A ydw i’n cael recordio rhaglenni teledu sydd wedi eu darlledu a’u dangos i ddosbarth o fyfyrwyr?
Ydych. Caniateir staff i recordio rhaglenni at ddefnydd addysgol nad yw'n fasnachol, a’u dangos i fyfyrwyr o dan drwydded gan yr Asiantaeth Recordiadau Addysgol (Educational Recording Agency (ERA)). Rhaid cyflwyno’r wybodaeth ganlynol gyda phob recordiad: dyddiad y recordiad; teitl y rhaglen; enw’r darlledwr; y geiriau “Y mae’r recordiad hwn i’w ddefnyddio o dan delerau trwydded yr ERA yn unig”. Nid yw’r drwydded yn caniatáu addasu neu newid y recordiad trwy, er enghraifft, wahanu delweddau oddi wrth y trac sain. O dan rai amgylchiadau, gellir cadw recordiadau a wnaed o dan drwydded yr ERA yn y llyfrgell at ddefnydd myfyrwyr.
Ar hyn o bryd y mae gan y Brifysgol drwydded i recordio rhaglenni’r Brifysgol Agored ond y mae gofynion gweinyddol penodol ynghlwm wrth hynny ac mae’n rhaid talu fesul rhaglen. Cysylltwch â’r Rheolwr Gwarchod Data a Hawlfraint i gael rhagor o fanylion.
Rwyf eisiau sganio diagramau a ffotograffau fel y gallaf eu cynnwys yn fy nghyflwyniad 'PowerPoint'’. A ydy hyn yn cael ei ganiatáu?
Y mae hyn ond yn bosib os (a) ydych wedi cael caniatâd penodol deiliad yr hawlfraint neu (b) wedi cyflwyno cais i’r Gwasanaethau Gwybodaeth i sganio’r deunydd o dan y Drwydded Sganio CLA ( gweler http://www.cla.co.uk/GuildHE_photocopying_and_scanning.php am fanylion sut i wneud hyn)
Y mae sganio deunydd printiedig fel ei fod ar ffurf electronig, a hynny at ddibenion ymchwil neu astudiaeth breifat nad sy’n fasnachol, yn cael ei ystyried yn 'ddelio teg'. Ond nid yw hyn yn berthnasol i ddeunydd a ddefnyddir at bwrpasau eraill megis dysgu neu gyflwyniadau ar gyfer cynadleddau.
Os ydw i’n defnyddio deunydd yn rhan o’r broses asesu, a ydw i angen caniatâd hawlfraint hyd yn oed wedyn?
Gwnaeth Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (The Copyright, Designs and Patents Act 1988) ddarpariaeth arbennig at ddibenion arholi. At bwrpasau gosod, trosglwyddo neu ateb cwestiynau mewn arholiadau gellir gwneud unrhyw beth â deunyddiau hawlfraint (ac eithrio cerddoriaeth) heb ganiatâd.
A ydw i’n cael sganio testun neu ddiagramau er mwyn eu cynnwys yn 'Blackbord' neu Amgylchedd Dysgu Rhithwir arall a warchodir gan gyfrineiriau?
Y mae’r egwyddorion uchod yn berthnasol yn fan hyn eto. Ni ellir dehongli hyn fel 'astudiaeth breifat' neu ymchwil ac, felly, ni ellir dadlau ei fod yn 'ddelio teg'. Hyd yma, ni cheir trwydded gyffredinol sy’n ymwneud â’r arfer hwn. Mewn achosion o’r fath, dylid ceisio caniatâd deiliad yr hawlfraint, neu dylech holi yn y llyfrgell ynglyn â defnyddio deunydd electronig a ddarperir gan HERON, ond bydd raid talu am hynny.
Os ydw i wedi ysgrifennu erthygl neu lyfr, pam na chaf i lungopïo cymaint o'r gwaith ag y dymunaf?
O dan yr amgylchiadau hyn, y mae copïo yn dibynnu ar yr hynny a arwyddoch pan y cytunoch i gyhoeddi’r gwaith. Mewn sawl achos, byddwch wedi ildio’r hawlfraint a’i drosglwyddo i’r cyhoeddwr.Y cyhoeddwr, wedyn, fydd deiliad yr hawlfraint a fydd yn gallu rhoi caniatâd neu godi pris am gynhyrchu rhagor o gopïau nag a ganiateir o dan gyfraith neu drwydded .Os nad ydych wedi arwyddo unrhyw gytundeb, dylech ragdybio mai’r cyhoeddwr sydd pia’r hawlfraint tan eich bod yn gwybod yn wahanol.