Recordio Darlithoedd
Mae mwy a mwy o ddarlithoedd yn cael eu recordio trwy adnoddau cipio darlithoedd ac ar gael i fyfyrwyr wrando arnynt. Ceir manylion am y broses hon ar weddalennau’r Gwasanaethau Gwybodaeth:
http://www.aber.ac.uk/cy/is/media/recording/
Os ydych chi’n ddarlithydd ac/ neu’n gyfrifol am drefnu darlith, mae yna nifer o weithdrefnau sy’n ymwneud â chydymffurfiad y bydd yn rhaid i chi eu hystyried. Ceir manylion am y rhain, ynghyd ag ystyriaethau eraill am recordio darlithoedd yn:
http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/view/Main/resources+lecture+capture
Bydd eich darlithydd neu gydgysylltydd eich modiwl yn gallu rhoi gwybodaeth i chi ynghylch pa ddarlithoedd sy’n cael eu recordio a sut mae gwrando arnynt.
Os nad yw darlith benodol yn cael ei recordio a bod gennych angen dysgu penodol y gellid ymdrin ag ef trwy gael recordiad o’r ddarlith, efallai y bydd modd i chi wneud y recordiad hwnnw eich hun cyhyd â’ch bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y dudalen ganlynol:
http://www.aber.ac.uk/cy/regulations/contents/student/appendix-8/
Os hoffech recordio darlith am unrhyw reswm arall, mae’n rhaid i chi gael caniatâd y darlithydd ym mhob achos. Mae gan ddarlithydd hawl i wrthod y cais hwn o dan amgylchiadau heblaw’r rhai a amlinellir uchod.