Ceisiadau a Dedfrydau Troseddol Myfyrwyr

1 Trefn Ceisiadau

Mae pob ffurflen gais (Israddedigion, Uwchraddedigion, Dysgu o Bell) yn cynnwys cwestiwn ynglyn â dedfrydau troseddol. Fel hyn y mae'r cwestiwn yn darllen:

"A oes gennych ddedfryd droseddol nad yw wedi darfod pan gewch eich derbyn i'r Brifysgol? Ni ddylech gynnwys unrhyw dramgwydd moduro lle nad oedd y gosb yn fwy na dirwy a/neu tri phwynt cosb. Os ticiwch y blwch "Oes", gall y Brifysgol ofyn i chi am fwy o fanylion. Os na fyddwch yn ticio'r naill flwch na'r llall, dychwelir eich ffurflen ar gyfer ei llenwi.

Dalier sylw: os dyfernir chi'n euog o dramgwydd troseddol tra bod eich cais yn cael ei brosesu, dylech roi gwybod ar unwaith i UCAS (yn achos cais israddedigion), y Brifysgol (yn achos pob math arall o ymgeisydd)."

2 Ystyried Ceisiadau

2.1 Pennaeth Denu a Derbyn Myfyrwyr yw'r swyddog a benodir i fod yn gyfrifol am y broses. Ei ddirprwy yw'r Rheolwr Marchnata.

2.2 Bydd y Pennaeth Denu a Derbyn (neu ei ddirprwy) yn cysylltu ag ymgeiswyr sydd wedi nodi bod ganddynt ddedfryd droseddol a bydd yn gofyn am fanylion o'u dedfryd(au). (Gweler y llythyr atodedig Atodiad 1)

2.3 Ni chyflwynir cynnig i ymgeiswyr sydd wedi nodi bod ganddynt ddedfryd droseddol hyd nes y chwiliwyd am yr wybodaeth hon ac y cwblhawyd y trefniadau.

2.4 Bydd y Pennaeth Denu a Derbyn (neu ei ddirprwy) yn rhoi gwybod i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i fyfyrwyr am bob cais oddi wrth ymgeiswyr â chanddynt ddedfrydau troseddol yn ogystal ag am y manylion a ddarparwyd ganddynt. Yn y lle cyntaf, bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i fyfyrwyr yn ystyried pob cais.

2.5 Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i fyfyrwyr, gan ymgynghori â'r Dirprwy Is-Ganghellor (Materion Myfyrwyr) fel y bo'n briodol, yn penderfynu ar sail yr wybodaeth a dderbyniwyd (neu bydd yn cysylltu â'r ymgeisydd am wybodaeth bellach neu ganiatâd, yn ôl yr angen, i ofyn i eraill am eirda pellach) a ddylid argymell yr adran i ystyried y cais ar sail academaidd. Ymhlith pethau eraill, bydd y canlynol yn cael eu hystyried gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i fyfyrwyr a'r/neu'r Dirprwy Is-Ganghellor (MM):

i) a yw'r cofnod troseddol yn effeithio ar addasrwydd ymgeisydd ar gyfer dod yn aelod o'r corff myfyrwyr (e.e. troseddau treisgar neu rywiol, delio mewn cyffuriau)
ii) faint o amser sydd wedi mynd heibio ers cyflawni'r drosedd/troseddau.
iii) a yw'r ymgeisydd wedi ail-droseddu, ac os ydyw, a oes patrwm i'r ail-droseddu.
iv) a yw amgylchiadau'r ymgeisydd wedi newid oddi ar adeg y tramgwyddo.

2.6 Os yw'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i fyfyrwyr (gan ymgynghori â'r Dirprwy Is-Ganghellor MM fel y bo'n briodol) yn argymell y dylid ystyried y cais ar sail academaidd, bydd y Pennaeth Denu a Derbyn Myfyrwyr yn nodi ar y ffurflen gais bod archwiliadau wedi eu cwblhau (yn unol â 2.5 uchod) ac y dylai'r Adran fynd ati i ystyried yn y dull arferol. Hysbysir yr ymgeiswyr bod eu ceisiadau'n cael eu hystyried yn y modd arferol ar sail academaidd.

2.7 Bydd y manylion a gesglir o ganlyniad i ymholiad(au) yn ymwneud â'r ddedfryd neu'r dedfrydau troseddol yn cael eu ffeilio ar wahân ac ni fyddant ar gael i'r adran. Bydd yr adran yn ystyried yr ymgeisydd yn gyfan gwbl ar sail yr wybodaeth sy'n gynwysedig ar y ffurflen gais.

2.8 Os yw'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i fyfyrwyr (gan ymgynghori â'r Dirprwy Is-Ganghellor MM) yn dymuno ystyried y mater ymhellach drwy gyfweld â'r ymgeisydd, rhaid cynnal dau gyfweliad ar wahân. Bydd dwy swyddogaeth wahanol i'r cyfweliadau, sef galluogi:

i) Yr Adran i sefydlu addasrwydd academaidd ar gyfer mynediad.
ii) Y Brifysgol, drwy'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i fyfyrwyr /Dirprwy Is-Ganghellor (MM) i sefydlu'r lefel o risg posibl i'r gymuned (hyd y gellir cadarnhau hynny).

2.9 Os yw adran yn dynodi ei bod yn dymuno cynnig lle i ymgeiswyr sydd wedi nodi bod ganddynt ddedfryd droseddol, a bod y Dirprwy Is-Ganghellor (MM)/ Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i fyfyrwyr yn cytuno y dylid cyflwyno cynnig, gwneir y cynnig yn y dull arferol.

2.10 Os penderfynir y gellir derbyn ymgeisydd, ond y dylid gosod amodau (e.e. ni ddylai ef/hi fyw mewn, nac ymweld â, neuaddau preswyl), yna bydd amodau o'r fath yn cael eu rhestru'n glir yn y llythyr cynnig, a rhaid i'r llythyr nodi y cedwir golwg fanwl ar gydymffurfiaeth. Yn ogystal, bydd rhaid i'r llythyr hwn ddangos, os yw'n amod o dderbyniad, bod yr wybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen i rai aelodau o staff y brifysgol ar egwyddor 'angen gwybod'.

2.11 Lle gwneir y penderfyniad, ar argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i fyfyrwyr, gyda chymeradwyaeth y Dirprwy Is-Ganghellor (MM) yng ngeiriau'r Ddeddf Hawliau Dynol, bod nacáu derbyniad yn 'angenrheidiol er lles …diogelwch y cyhoedd…er atal anhrefn neu drosedd, er gwarchod iechyd neu foesau, neu er gwarchod hawliau a rhyddid eraill" yna hysbysir yr ymgeiswyr bod y cais wedi ei wrthod oherwydd eu cofnod troseddol, a bod ganddynt yr hawl i apelio wrth yr Is-Ganghellor. Dylid rhoi rhesymau dros y penderfyniad.

3 Cydymffurfio â'r ddeddf Gwarchod Data 1998

Ni chedwir dogfennau'n ymwneud â'r achos yn hwy nag sydd raid ar gyfer y pwrpas y'u bwriadwyd, sef, penderfynu ynghylch derbyn. Os penderfynir derbyn yr ymgeisydd, neu os penderfynir derbyn yn unol ag amodau penodedig, ceir gwared ar y dogfennau ar unwaith. Os gwrthodir mynediad i ymgeisydd, bydd y dogfennau'n cael eu dinistrio ar ôl chwe mis.