Datganiad Prosesu Data

 

1.  Mae Prifysgol Aberystwyth yn rheolwr data dan Ddeddf Gwarchod Data 1998

2.  Y cynrychiolydd a enwebwyd gan y Brifysgol yw’r

Cofrestrydd ac Ysgrifennydd
Yr Hen Goleg
Stryd y Brenin
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2AX

3.  Mae angen i’r Brifysgol brosesu gwybodaeth bersonol am fyfyrwyr er mwyn:

(i)   Cadw golwg ar eu gwaith
(ii)  Trefnu cyrsiau
(iii)  Darparu gwasanaethau (e.e. llety, cymorth i fyfyrwyr)
(iv)  Darparu gwybodaeth i gyrff sydd â hawl i’w chael
(v)  Ymchwilio i faterion disgyblaeth a gweithredu arnynt

4.  Gellir diffinio peth o’r wybodaeth a brosesir fel gwybodaeth sensitif, h.y.

(i)     tarddiad hiliol neu ethnig,
(ii)    barn wleidyddol,
(iii)   cred grefyddol neu gredoau eraill o natur debyg, 
(iv)   aelodaeth o undeb llafur 
(v)    iechyd neu gyflwr corfforol neu feddyliol 
(vi)   manylion am fywyd rhywiol,
(vii)  cyflawni neu gyflawniad honedig unrhyw drosedd, neu
(viii) unrhyw achosion yn ymwneud ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd neu yr honnir iddi gael ei chyflawni, gweinyddiad achosion o'r fath neu ddedfryd unrhyw lys mewn achosion o'r fath.

5.  Yn dilyn eich cyfnod fel myfyriwr bydd  peth gwybodaeth yn cael ei gadw a fydd efallai yn cael ei ddefnyddio i ddarparu trawsgript o ganlyniadau arholiadau gradd a cheisiadau am eirda ac hefyd ar gyfer cysylltiadau alumni a dibenion codi arian.

6.  Mewn rhai amgylchiadau gall y Brifysgol ddatguddio gwybodaeth am fyfyrwyr i drydydd person sydd â hawl i’w chael (e.e. adrannau llywodraeth ganolog a lleol megis  a Cyngor Sir Ceredigion; y llysoedd; yr heddlu; cyrff proffesiynol; cyflogwyr presennol a chyflogwyr posib; asiantaethau sydd wedi eu penodi i gynnal arolygon myfyrwyr swyddogol; sefydliadau addysg eraill).

Noder os gwelwch yn dda bod manylion parthed prosesu eich data personol gan yr  Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ar gael yma: http://www.hesa.ac.uk/content/view/150/183/

7.  Gellir datguddio’r fath wybodaeth dan amodau a ddisgrifir yng nghofnod y Brifysgol yng Nghofrestr y Rheolwyr Data.

8.  Mae’n ofynnol i’r holl fyfywyr, fel amod eu cofrestru, ganiatâu prosesu gwybodaeth bersonol amdanynt eu hunain (gan gynnwys gwybodaeth a diffinnir fel gwybodaeth sensitif). Gall eich cofrestriad fel myfyriwr gael ei ddileu os nad ydych yn cytuno i brosesu eich data personol yn y dull hwn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach os gwelwch yn dda cysylltwch â infocompliance@aber.ac.uk