Dileu Data o Ddisgiau hen Gyfrifiaduron
RHYBUDD: Bydd dilyn y drefn isod yn dileu yr holl ddata mewn modd anadferadwy. Sicrhewch eich bod wedi arbed unrhyw ddata y dymunwch ei gadw.
Cyn i hen gyfrifiaduron adael adrannau i gael eu ailgylchu, rhaid i’r disgiau caled gael eu dileu er mwyn sicrhau nad oes modd i’r data personol a gedwir ar y disgiau gael eu defnyddio wedyn gan bobl nad oes ganddynt yr hawl i weld y deunydd hwnnw. Rhaid cael tystysgrif i ddangos bod y gwaith hwnnw wedi ei wneud, ac ni fydd cyfrifiaduron yn cael eu symud os nad oes prawf ar bapur bod y disgiau wedi eu dileu. Dyma’r manylion ynghylch sut i ddileu’r data sydd ar y disgiau:
- Bydd angen disg ‘AU.DWIPE’ oddi wrth Weinyddydd eich Adran neu’r sawl sy’n gyfrifol am ddiogelu data. Os oes urhyw anhawster, cysyllytwch ag infocompliance@aber.ac.uk, ac anfonir disc i chwi. Gallai’r disgiau hyn beri niwed mawr pe cawsent eu camddefnyddio, ac felly mae’n rhaid llofnodi am bob un yn unigol.
- Rhowch y ddisg i mewn i’r cyfrifiadur a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
- Gallai hi gymryd 2-3 awr i ddileu’r ddisg oherwydd bod rhaid sicrhau bod y data’n cael eu dileu’n effeithiol a bydd rhaid trosysgrifo’r disgyriant caled dairgwaith.
- Ar ôl dileu’r data o’r ddisg galed, tynnwch y ddisg AU.DWIPE o’r peiriant a mynd â hi yn ôl i’r lle y’i cawsoch.
- Ewch i http://www.inf.aber.ac.uk/recycle Llenwch y Dystysgrif dileu’r ddisg ar y we, a dilynwch y cyfarwyddiadau.
- Glynnwch y dystysgrif wrth y cyfrifiadur (sef yr uned brosesu, yn hytrach na’r sgrin neu unrhyw galedwedd arall).
- Edrychwch ar:http://www.aber.ac.uk/safety-environment/english/handbook/proc_and_pracs/waste_and_recycle/it_recycle.shtml am ragor o gyfarwyddiadau am sut i gael gwared â’r peiriannau.
Os bydd gennych ymholiadau ynghylch y camau uchod, cysylltwch ag Cydymffurfiaeth Gwybodaeth (est. 8592).