Rheoli Negeseuon Ebost
Mae polisi’r Brifysgol ar ddefnyddio ebost ar gael ar y dudalen hon:
http://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/policies/e-mail/
Pam mae angen i mi reoli fy negeseuon ebost?
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gyflwyno system Reoli Cofnodion effeithlon ar gyfer cofnodion papur a chofnodion electronig. Drwy reoli negeseuon ebost gellir rheoli lle yn fwy effeithlon ac effeithiol, yn ddiriaethol ac ar y gweinydd. Gellir hefyd wneud defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o amser staff, gwella’r rheolaeth ar adnoddau gwybodaeth gwerthfawr a sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth a safonau.
Sut alla i reoli fy negeseuon ebost?
Ar hyn o bryd mae’r Ymgynghorydd Hyfforddiant a’r Rheolydd Cofnodion yn llunio sesiwn hyfforddi ar reoli negeseuon ebost. Mae canllawiau dan y teitl ‘What are good working practices with email?’ ar gael ar hyn o bryd ar http://www.inf.aber.ac.uk/advisory/faq/936/.
Pa negeseuon ebost y gallaf gael gwared arnynt fel rheol?
- Ymatebion ‘allan o’r swyddfa’ awtomatig
- Negeseuon ebost sy’n cadarnhau y bydd rhywun yn bresennol mewn cyfarfod/digwyddiad
- Fersiynau drafft o negeseuon ebost
- Negeseuon ebost diwerth
- Negeseuon ebost personol
- Negeseuon ebost y cawsoch gopi ohonynt er gwybodaeth yn unig
Pa negeseuon ebost y mae’n rhaid i mi eu cadw?
- Cadwch gopïau gwreiddiol o’r holl negeseuon ebost y mae’n debyg y byddant yn werthfawr fel tystiolaeth mewn trafodion cyfreithiol cyfredol neu rai y gellid eu cynnal yn y dyfodol
- Cadwch gopïau gwreiddiol o’r holl negeseuon ebost y mae eu hangen ar gyfer swyddogaethau busnes