Gweithdy yn y Cynulliad Cenedlaethol i Fyfyrwyr Lefel A ac Uwch Gyfrannol, 18.10.17

Mae’n bleser gyda ni fel Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth gyhoeddi ein bod yn trefnu gweithdy yn y Cynulliad ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth ar rai o’r prif ddatblygiadau gwleidyddol cyfredol.

Cynhelir y gweithdy yn Siambr Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd ar ddydd Mercher, 18 Hydref 2017, rhwng 10:00yb a 14:30yp.

Thema’r gweithdy fydd ‘Pynciau Gwleidyddol Llosg mewn Adeg Ansefydlog’. Cynhelir pedair sesiwn ryngweithiol yn ystod y dydd ac mae’r rhaglen ddrafft isod yn dangos sut mae’r gweithdy yn ymwneud â datblygiadau cyfoes a chysyniadau sy’n berthnasol i nifer o bynciau Lefel-A ac i’r Fagloriaeth. O ystyried hyn, credwn fod cynnwys y gweithdy o fudd a diddordeb i ystod o fyfyrwyr chweched dosbarth. Ni chodir tâl am fynychu’r gweithdy ac fe fydd yr Adran yn darparu paned wrth gyrraedd a chinio am ddim.

 

Date: Mer, 09 Awst 2017 09:10:00 BST