Pleidlais gref i Gwleidyddiaeth Ryngwladol mewn arolwg myfyrwyr

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae myfyrwyr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi mynegi eu boddhad cyffredinol gyda’r adran wrth iddi dderbyn sgôr o 95% mewn arolwg dylanwadol yn y DU.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd ar 9 Awst 2017, mae’r Adran yn y deg uchaf yn y DU am foddhad cyffredinol ymysg myfyrwyr sy’n astudio Gwleidyddiaeth fel pwnc.

A phan ofynnwyd i fyfyrwyr israddedig blwyddyn olaf yr Adran am eu barn ar yr addysgu ar y cwrs, mynegodd 94% eu bod yn fodlon.

Yn ogystal, cafodd cynlluniau gradd unigol ganlyniadau boddhad trawiadol gan fyfyrwyr gymrodd ran yn yr arolwg blynyddol.

Cynllun Gradd Israddedig

Boddhad Cyffredinol

Gwleidyddiaeth Ryngwladol & Astudiaethau Cudd-wybodaeth L250

100%

Gwleidyddiaeth Ryngwladol L241

96%

Gwleidyddiaeth Ryngwladol & Astudiaethau Strategol L251

92%

Gwleidyddiaeth Ryngwladol & Hanes Milwrol LV2H

92%

 

Mae canlyniadau’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhan o stori lwyddiant ehangach ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n cael ei nodi fel y gorau yng Nghymru ac yn un o'r pum sefydliad addysg uwch uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn gyffredinol yn ôl ACF 2017.

Mae'r arolwg yn dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 91% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 84%.

Dywedodd Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, Dr James Vaughan: “Mae'r ACF yn rhoi cipolwg go iawn i ni o'r hyn y mae myfyrwyr sy'n astudio yn yr Adran yn meddwl am ystod o faterion gan gynnwys y ffordd y maent yn cael eu haddysgu, yr asesu a'r adborth a gânt, a'r gymuned ddysgu y maent yn rhan ohoni. Rydym yn falch iawn o weld y lefelau boddhad ardderchog gyda'n cynlluniau gradd, sy'n adlewyrchu cenhadaeth yr Adran i ddarparu addysgu o safon uchel, a arweinir gan ymchwil mewn amgylchedd cynhwysol sydd hefyd yn un ysgogol.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a darganfod pam fod myfyrwyr Aberystwyth mor fodlon â'u cyrsiau, nid yw'n rhy hwyr. Mae gennym rai lleoedd clirio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-18 neu dewch draw i ymweld â ni yn ystod un o'n Diwrnodau Agored.

Cyrsiau Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Clirio 
Diwrnodau Agored 
Stori Newyddion: Stori Llwyddiant ACF Prifysgol Aberystwyth 

Mae ffigurau'r ACF yn dilyn yn agos ar sodlau'r ffigyrau cyflogadwyedd diweddaraf ar gyfer prifysgolion y DU a ddangosodd fod 95% o raddedigion Gwleidyddiaeth Ryngwladol mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth yn 2016.

• Ffigurau Cyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr bob blwyddyn gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU a chyfwelir â mwy na 300,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gofynnir i fyfyrwyr pa mor fodlon ydynt gyda’u prifysgol ar draws ystod eang o fesurau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefn a rheolaeth, adnoddau dysgu, y gymuned addysgu a llais myfyrwyr.

Mae safleoedd Prifysgol Aberystwyth yn seiliedig ar y cwestiwn boddhad cyffredinol ac yn defnyddio'r rhestr o sefydliadau addysg uwch sydd yn ymddangos yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2018.

Date: Mer, 09 Awst 2017 08:29:00 BST