Darpar fyfyrwyr

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymrwymedig i athroniaeth o gyfuno dysgu rhagorol gydar ymchwil mwyaf diddorol ac ysgogol o fewn y maes. Ceir tystiolaeth o hyn yng nghanlyniadau Ymarfer Asesiad Ymchwil 2008 pan osodwyd Aberystwyth yn gyntaf o blith yr holl adrannau gwleidyddiaeth ryngwladol/cysylltiadau rhyngwladol. Derbyniodd yr Adran hefyd radd 'rhagorol' am safon ei dysgu, y radd uchaf posibl.

Fel yr adran gyntaf o'i bath yn y byd, bu'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn arloesi o fewn y maes, a'i staff yn mentro mewn cyfeiriadau newydd a blaengar wrth lunio'r agenda o fewn y ddisgyblaeth. Er enghraifft, dyma'r adran gyntaf i apwyntio darlithydd mewn astudiaethau strategol. Yr Adran hon yw cartref Astudiaethau Diogelwch Beirniadol, sy'n rhan o ailddiffinio'r agenda ddiogelwch wedi diwedd y Rhyfel Oer. Bu ar flaen y gad wrth wthio ffiniau moeseg ryngwladol, astudiaethau cudd-wybodaeth, ac astudiaethau terfysgaeth feirniadol. A sefydlwyd cadair UNESCO ar gyfer astudiaethau HIV/AIDS, Addysg a Diogelwch—cadair gyntaf UNESCO yng Nghymru—yn yr Adran yn Aberystwyth.