Myfyrwyr Meistr

Profiad o Fath Gwahanol

Mae Rhaglen Feistr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig cyfuniad unigryw o ddysgu rhagorol ac ymchwil blaengar sydd yn cynnig i fyfyrwyr y wybodaeth a'r weledigaeth fyd-eang sydd eu hangen i ffynnu mewn byd ansicr sy'n newid yn barhaus. Gan ein bod yn credu’n gryf mewn darparu’r profiad dysgu gorau posibl, mae’r dysgu Meistr i gyd yn digwydd mewn grwpiau seminar bychain, sy'n adlewyrch cred yr Adran y dylai profiad y myfyriwr Meistr fod yn ansoddol wahanol i'r profiad o ddysgu ar lefel israddedig.

Daw tua 60 o fyfyrwyr Meistr llawn amser yma bob blwyddyn, yn ddigon o niferoedd i gyfoethogi’r profiad o ymwneud â’r pwnc ond yn ddigon bychan i hybu’r rhyngweithio agos rhwng staff a myfyrwyr sydd yn rhan mor bwysig o’r rhaglen.

Mae cynllun yr astudio’n pwysleisio datblygu sgiliau ysgrifennu a dadansoddi yn ogystal â’r gallu i weithio’n annibynnol – hynny yw, rhinweddau sy’n golygu llawer iawn i gyflogwyr. Mae'r rhaglen hefyd yn ddelfrydol i fyfyrwyr sy'n dymuno gwneud ymchwil ar gyfer PhD wedi gorffen eu cwrs Meistr. Bob blwyddyn bydd nifer o fyfyrwyr Meistr Aberystwyth yn camu ymlaen i fod yn rhan o raglen PhD nodedig yr Adran, rhaglen sydd yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus o'i bath yn y byd.